Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Sir y Fflint yn sicrhau diogelwch tai cymdeithasol
Published: 16/11/2020
Unwaith eto, mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymuno 芒'r gwneuthurwr drysau, Permadoor, i osod drysau diogelwch t芒n ar 200 o fflatiau ledled y sir.
Yn ogystal, y mis hwn bydd y Cyngor yn gweithredu rhaglen uwchraddio larwm mwg a charbon monocsid mewn 94 eiddo yng Nghei Connah.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Dave Hughes, Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint:
鈥淒iogelu cwsmeriaid yw ein prif flaenoriaeth. Mae angen i ni sicrhau bod gan bob un o'n hadeiladau ddrysau t芒n sy'n addas at y diben a gyda larymau ar gyfer mwg a charbon monocsid. Mae angen i鈥檔 preswylwyr ymddiried ynddyn nhw a chael arweiniad clir ynghylch cynlluniau a mesurau diogelwch t芒n.鈥
Y llynedd, gosododd y cwmni 250 o ddrysau ar eiddo鈥檙 cyngor a'r mis hwn, bydd gwaith yn cychwyn ar y cam nesaf i osod drysau mewn blociau sydd wedi鈥檜 lleoli yng Nghei Connah, Bwcle a Threffynnon.
Mae Permadoor yn cydnabod bod awdurdodau lleol eisiau gwneud penderfyniadau gwariant dibynadwy i fodloni eu gofynion ansawdd a chyllidebol.听 Felly ni fu sicrhau'r gwerth gorau drwy reoli costau oes gyfan stoc tai erioed yn bwysicach.
Meddai Rheolwr Gyfarwyddwr Permadoor, Steve Cox:听
鈥淩ydyn ni wrth ein bodd bod Cyngor Sir y Fflint wedi dod yn 么l at Permadoor unwaith eto i gyflenwi ein drysau t芒n llwyddiannus ar gyfer y prosiect hwn. Mae Sir y Fflint, unwaith eto, yn cymryd pob cam sy'n angenrheidiol i sicrhau bod tenantiaid yn ddiogel."
Y contractwr a benodwyd i gyflawni'r gwaith uwchraddio larwm mwg a charbon monocsid yw'r cwmni lleol, JDE Electrical Contractors Ltd, un o'r prif gontractwyr yng Ngogledd Cymru.听听
Meddai Kris Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr JDE Electrical:听
鈥淢ae鈥檔 dda gweld Cyngor Sir y Fflint yn gweithio gyda chwmn茂au lleol fel ni ac rydym yn falch o fod yn gosod y larymau hyn yng nghyfadeiladau tai鈥檙 Cyngor i sicrhau diogelwch y preswylwyr.鈥
Dywedodd y Cynghorydd Paul Shotton, aelod lleol ar gyfer Cei Connah a hefyd yn cynrychioli鈥檙 Cynghorydd Andy Dunbobbin sydd hefyd yn cynrychioli鈥檙 ward:
鈥淔el aelod o Awdurdod T芒n ac Achub Gogledd Cymru, rwy鈥檔 falch bod y gwaith hwn yn digwydd gan y bydd yn rhoi sicrwydd i鈥檔 tenantiaid.听 Roedd yn dda bod ein Haelod Cabinet dros Dai yn gallu mynychu a gweld y gwaith gwych yn cael ei wneud.鈥
听

Cyng Shotton, Steve Cox - Permadoor, Mike Dymock (Cyngor Sir y Fflint), Cyng Dave Hughes
|
听 |

Kris Davies - JDE, Cyng Dunbobbin, Cyng Hughes
|
听
听