Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Calendrau Adfent yn cael eu cyflwyno i鈥檙 Banc Bwyd
Published: 20/12/2019
Mae UNSAIN Sir y Fflint wedi cyd-drefnu casgliad llwyddiannus iawn o focsys bwyd ar gyfer Banc Bwyd Sir y Fflint.
Mae swyddogion Cyngor Sir y Fflint ynghyd 芒 gweithwyr o Aura Cymru, Theatr Clwyd a Swyddfa Archwilio Cymru wedi dod at ei gilydd i gefnogi ymgyrch 鈥渃alendr adfent tu chwith鈥.听 Bydd hyn yn sicrhau bod silffoedd y Banc Bwyd gyda digon o stoc dros gyfnod prysur y Nadolig.
Mae鈥檙 Calendr Adfent Tu Chwith yn syniad syml a ffordd dda o gefnogi pobl sydd angen ychydig o gymorth ar adeg y Nadolig 鈥 drwy gyfrannu 30 eitem o fwyd i鈥檙 Banc Bwyd. Dywedodd Sarah Taylor, Ysgrifennydd Cangen UNSAIN Sir y Fflint:
鈥淩ydym wedi cael ymateb gwych i'n hymgyrch.听 Mae gweithwyr o bob adran Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn rhan o hwn ac wedi cyfrannu i'r achos teilwng hwn.听 Rydym wedi casglu dros 70 o focsys 鈥 cynnydd ers y llynedd 鈥 a mae鈥檔 wych gallu eu rhoi i'r gwirfoddolwyr o'r Banc Bwyd heddiw.听
鈥淓fallai y bydd yn eich synnu i ddysgu hyn, ond yn y 12 mis diwethaf, mae Cangen Sir y Fflint UNSAIN wedi dosbarthu nifer o dalebau Banc Bwyd.听 Mae hwn yn nodyn atgoffa mai pobl lleol yn ogystal 芒 phobl sydd ar Gredyd Cynhwysol sydd angen y cymorth ychwanegol.鈥
Roedd Colin Everett, Prif Weithredwr y Cyngor a Sarah yn bresennol i helpu i ddanfon y parseli i Andy Leake o Banc Bwyd Sir y Fflint, mewn pryd i ddosbarthu鈥檙 eitemau i deuluoedd ar gyfer y Nadolig.
Dywedodd Andy:
鈥淗offem ddiolch i bawb am eu cefnogaeth 鈥 bydd y bwyd hwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl yn ein cymunedau lleol.听 Nid ydym yn credu y dylai unrhyw un erbyn heddiw orfod llwgu. Dyma鈥檙 rheswm, drwy'r flwyddyn ein bod yn darparu bwyd maethlon a chefnogaeth tridiau i bobl lleol sydd yn cael eu hatgyfeirio atom.听 Yn y pedair wythnos ddiwethaf, rydym wedi bwydo 1,000 o deuluoedd o ardal Sir y Fflint, a felly rydym yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth gan UNSAIN a Chyngor Sir y Fflint.鈥
听

Andy Leake, Sarah Taylor, Colin Everett
听
听
听
听
听
听