Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Landlord yn Sir y Fflint wedi鈥檌 erlyn yn llwyddiannus
Published: 10/06/2019
Mae Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Sir y Fflint wedi erlyn landlord sector breifat Sir y Fflint am ddadfeddiant anghyfreithlon, y cyntaf yn y Sir.
Plediodd Mr Gruffydd Edwards yn euog i鈥檙 drosedd a ddigwyddodd yn un o鈥檌 eiddo, 11 Llys y Wennol, Downing Lane, Treffynnon. Roedd y drosedd yn dod o dan Ddeddf Diogelu rhag Ddadfeddiant 1977.听 Cafodd ddirwy o 拢1,040.
Dywedodd Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Chris Bithell:
鈥淩wy鈥檔 falch bod y Cyngor wedi erlyn y landlord hwn yn llwyddiannus am ddadfeddiant anghyfreithlon. Mae鈥檔 bwysig iawn bod hawliau a buddiannau tenantiaid yn cael eu diogelu a bod landlordiaid yn eu parchu.
鈥淢ae鈥檙 erlyniad hwn yn anfon neges glir y bydd Cyngor Sir y Fflint yn diogelu preswylwyr yn erbyn landlordiaid preifat anghyfreithlon. Mae鈥檔 adlewyrchu ymrwymiad Cyngor Sir y Fflint i sicrhau bod cartrefi yn y sector rhentu preifat yn cael eu rheoli鈥檔 briodol.鈥
听