Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Sir y Fflint yn chwifio鈥檙 faner
Published: 01/02/2018
Mae Cyngor Sir y Fflint yn codir faner enfys y tu allan i Neuadd y Sir unwaith
eto drwyr mis hwn i gefnogi mis hanes pobl lesbiaid, hoyw, deurywiol a
thrawsrywiol (LGBT) yn ystod mis Chwefror.
Maer digwyddiad blynyddol hwn yn rhoi cyfle i bobl ddysgu mwy am hanes a
chyflawniadau pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol ar mudiad hawliau
pobl hoyw a hawliau sifil.
Hefyd mae鈥檔 amser i gofio鈥檙 gwahaniaethu y mae llawer wedi ei wynebu ar daith
sydd wedi ei gwneud tuag at gydraddoldeb i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a
thrawsrywiol.
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac
Asedau Cyngor Sir y Fflint a Phencampwr Cydraddoldeb i鈥檙 Cyngor:
鈥淢ae cefnogi mis hanes pobl lesbiaid, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol yn bwysig
i鈥檙 Cyngor. Mae chwifior faner drwy gydol mis Chwefror yn anfon neges glir ein
bod wedi ymrwymo i gydraddoldeb i bawb, o fewn y Cyngor an cymuned ehangach鈥.
Y thema eleni yw 鈥楧aearyddiaeth: Mapio鈥檙 Byd鈥, sy鈥檔 cydnabod cydraddoldeb pobl
lesbiaid, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol yn fyd-eang, yn arbennig nawr fod pobl
yn Awstralia a hyd at 16 yn fwy o wledydd canol a de America yn gallu mwynhau
priodasau o鈥檙 un rhyw.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i鈥檞 gwefan: http://lgbthistorymonth.org.uk/.