每日大瓜

Alert Section

Budd-dal Tai


Beth yw'r rhain a phwy all eu hawlio?

Os ydych chi ar incwm isel ac yn ei chael hi’n anodd talu eich rhent i gyd neu ran ohono, gallai fod modd i chi gael Budd-dal Tai.

Gallwch chi gael Budd-dal Tai os ydych chi’n talu rhent ac os yw eich incwm a’ch cyfalaf (eich cynilion a’ch buddsoddiadau) islaw lefel benodol.

Pwy sy’n gymwys?

Efallai y byddwch yn cael Budd-dal Tai os ydych yn talu rhent a bod eich incwm a'ch cyfalaf (cynilion a buddsoddiadau) islaw lefel benodol.

  • Person sengl uwchlaw oedran ymddeol y wladwriaeth
  • Cwpl sydd wedi cyrraedd oedran ymddeol y DDWY
  • Unrhyw un sy'n byw mewn llety penodedig, llety eithriedig neu lety dros dro

Byddwn yn edrych ar y canlynol wrth gyfrifo eich Budd-dal Tai:

  • Eich incwm chi ac incwm eich partner neu’ch partner sifil, gan gynnwys enillion, rhai budd-daliadau a chredydau treth, a phethau megis pensiynau galwedigaethol.
  • Eich cynilion chi a chynilion eich partner neu’ch partner sifil.
  • Eich amgylchiadau: er enghraifft, eich oedran, maint eich teulu, oedrannau aelodau eich teulu, p’un a ydych chi neu unrhyw aelod o’ch teulu’n anabl, a ph’un a allai unrhyw un sy’n byw gyda chi eich helpu i dalu’r rhent.

Os oes gennych hawl i gael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm, neu’r elfen ‘credyd gwarant’ sy’n perthyn i Gredyd Pensiwn, gallech chi gael yr help mwyaf posibl i dalu eich rhent.

Pwy sy’n anghymwys?

Fel rheol ni fydd modd i chi gael Budd-dal Tai:

  • Os oes gennych dros £16,000 o gynilion, oni bai eich bod yn 60 oed neu drosodd a’ch bod yn cael yr elfen ‘credyd gwarant’ sy’n perthyn i Gredyd Pensiwn.
  • Os ydych chi’n byw yng nghartref perthynas agos.
  • Os ydych chi’n fyfyriwr llawn-amser (oni bai eich bod yn anabl neu oni bai fod gennych blant).
  • Os ydych yn geisiwr lloches neu’n cael eich noddi i fod yn y DU.

Gallwch chi ddefnyddio ein i weld a oes modd i chi gael unrhyw help, a chael amcangyfrif o’r swm y gallai fod gennych hawl i’w gael (Sylwch fod ein holl ffurflenni’n gydnaws ag Internet Explorer a Safari, fodd bynnag efallai y byddwch yn cael problemau wrth ddefnyddio porwyr eraill).

Beth os ydw i’n berchen ar fy nghartref fy hun? Cael help i dalu’r llog ar eich morgais

Mae’n bosibl y gall perchnogion tai sy’n cael budd-daliadau arbennig gael help i dalu’r llog ar eu morgais, drwy gynllun o’r enw Cymorth ar gyfer Llog Morgais (SMI).

Mae’n bosibl y cewch help os ydych yn berchennog tŷ ac yn cael hawlio:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth seiliedig ar incwm
  • Credyd Pensiwn

I gael gwybod rhagor am hyn, dilynwch y ddolen i

Sut i Hawlio

Gofynnir i chi lenwi un ffurflen hawlio a chewch eich asesu ar gyfer Budd-dâl Tai a lleihau'r dreth gyngorar yr un pryd.

Os ydych yn hawlio ar gyfer cyfeiriad yn Sir y Fflint, bydd angen i chi ddychwelyd y ffurflen atom, gydag unrhyw dystiolaeth i ategu’ch cais. Gan na ellir ôl-ddyddio budd-daliadau fel arfer, dylech hawlio cyn gynted ag sy’n bosibl.

Hawlio Ar-lein

Gwyddom y gall ffurflenni budd-daliadau fod yn eithaf hir a chymhleth, felly rydym wedi defnyddio technoleg ffurflenni ar-lein newydd i’ch galluogi i wneud cais ar-lein mor hawdd ag sy’n bosibl:

  • Gallwch lenwi’r ffurflen gyfan oddi ar lein. Gallwch barhau i lenwi’ch ffurflen hyd yn oed os ydych yn cael problemau â’ch cysylltiad rhyngrwyd. Nid oes raid i chi ei llenwi i gyd ar unwaith chwaith. Gallwch ei chadw ar eich cyfrifiadur a dod yn ôl ati hi yn nes ymlaen.
  • Bydd y ffurflen yn eich helpu ac yn eich arwain drwyddi, gan sicrhau’ch bod ond yn llenwi’r rhannau sy’n berthnasol i’ch cais. Mae hyn yn golygu fod y ffurflen yn llawer symlach i’w llenwi.
  • Mae’r ffurflen yn gwirio ei hun am wallau ac yn tynnu sylw at unrhyw beth yr ydych wedi’i fethu. Pan na fydd unrhyw wallau yn eich ffurflen bydd yn haws i ni ei phrosesu.
  • Ar ôl ei chwblhau, gallwch anfon y ffurflen yn syth i’n gweinydd a gallwn ddechrau prosesu’ch cais ar unwaith.
  • Os bydd angen i ni weld tystiolaeth gennych i ategu’ch cais, bydd y ffurflen yn rhoi rhestr benodol i chi o’r hyn y bydd angen i chi ei anfon.
  • Er mwyn diogelu’ch preifatrwydd caiff y wybodaeth a roddwch ar y ffurflen ei hamgryptio.

(Sylwch fod ein holl ffurflenni’n gydnaws ag Internet Explorer, Chrome a Safari, fodd bynnag, efallai y byddwch yn cael problemau wrth ddefnyddio porwyr eraill).

Os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd neu os oes angen cymorth arnoch i gwblhau eich hawliad, ewch i’ch Swyddfa Connects leol, y gellir dod o hyd i’w chyfeiriadau yn yr adran gwybodaeth gyswllt neu cliciwch yma.

Sut y caiff ei dalu

Os ydych chi’n byw mewn tŷ cyngor, byddwn yn talu unrhyw Fudd-dal yn syth i’ch cyfrif rhent.

Os nad ydych yn byw mewn tŷ cyngor, bydd y taliad yn cael ei wneud i chi, yn syth i’ch cyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu.

Os nad oes gennych gyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu, mae’n rhaid i chi agor un. Yna gallwch drefnu i dalu’r rhent i’ch landlord yn awtomatig, drwy archeb sefydlog.

Chi sy’n gyfrifol am dalu’r rhent i’ch landlord. Os na fyddwch yn talu’r rhent, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi wynebu achos llys ac y cewch eich troi allan o’r eiddo.

Os ydych chi’n poeni am reoli’ch arian, cysylltwch â ni i weld a fedrwn ni’ch helpu. Weithiau, gallwn dalu’ch budd-daliadau’n syth i’ch landlord. Mae ein Polisi Diogelu yn rhoi rhagor o wybodaeth am hyn.

Ni fydd eich Budd-dal Tai yn effeithio ar unrhyw o’ch budd-daliadau eraill.

Newidiadau yn eich amgylchiadau

Beth ddylwn ei wneud os yw fy amgylchiadau'n newid?

Rhaid i chi ddweud wrthym ar unwaith am unrhyw newid yn eich amgylchiadau. Chi sy'n gyfrifol am roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau a allai effeithio ar faint o fudd-daliadau yr ydych yn eu derbyn.

Os methwch â dweud wrthym ar unwaith, mae'n bosibl y byddwn yn talu gormod o fudd-daliadau i chi ac y bydd gofyn i chi ad-dalu unrhyw ordaliad i ni. Hyd yn oed os ydych wedi dweud wrth asiantaeth arall, megis yr Adran Gwaith a Phensiynau neu'r Gwasanaeth Pensiynau, rhaid i chi roi gwybod i ni hefyd.

Os yw'r newid yn golygu bod gennych hawl i dderbyn mwy o fudd-daliadau ac os na fyddwch wedi ein hysbysu o hyn o fewn mis ar ôl y newid, mae'n bosibl y byddwch yn colli'r budd-dal.

Mae'n bosibl y cewch eich erlyn os rhowch wybodaeth anghywir i ni yn fwriadol neu os methwch â dweud wrthym am newid yn eich amgylchiadau er mwyn cael mwy o fudd-daliadau nag y mae gennych hawl i'w derbyn.

Pa fath o newidiadau ddylwn eich hysbysu ohonynt?

Dyma rai enghreifftiau o newidiadau i'ch amgylchiadau chi, eich partner neu aelod o'ch cartref y dylech ein hysbysu ohonynt:

  • Cynnydd neu ostyngiad mewn cyflogau, pensiynau neu fudd-daliadau
  • Unrhyw newid arall yn eich incwm
  • Dechrau neu rhoi'r gorau i weithio
  • Newid swyddi
  • Dechrau derbyn neu roi'r gorau i dderbyn Budd-dal y Wladwriaeth
  • Cynnydd neu ostyngiad mewn cynilon, oni bai eu bod yn aros yn is na £6,000 neu yn aros yn is na £10,000 am pensiynwyr (60+)
  • Os yw'ch cynilon yn mynd dros £16,000
  • Nifer y bobl sy'n byw gyda chi
  • Os oes unrhyw un o'ch plant yn gadael yr ysgol
  • Os ydych yn rhoi'r gorau i dderbyn Budd-dal Plant ar gyfer plentyn
  • Symud o'ch cartref (hyd yn oed os ydych yn symud i fflat neu ystafell arall yn yr un cyfeiriad)
  • Genedigaeth baban
  • Mynd i'r ysbyty neu gartref preswyl / nyrsio
  • Newid yng nghyfanswm y rhent y mae'ch landlord yn ei godi arnoch

Sylwch;

Nid yw hon yn rhestr lawn ac os ydych yn ansicr p'un a fydd newid yn eich amgylchiadau yn effeithio ar eich budd-dal, cysylltwch â ni am gyngor pellach.

Cofiwch - os oes gennych unrhyw amheuaeth, rhowch wybod i ni!

Sut allaf roi gwybod am newid?

Cwblhewch y (Sylwch, mae ein holl ffurflenni'n gydnaws ag Internet Explorer a Safari, fodd bynnag efallai y byddwch yn profi problemau wrth ddefnyddio porwyr eraill).

Os ydych chi'n hunangyflogedig ac nad oes gennych chi gyfrifydd, cwblhewch y i ddarparu prawf o'ch incwm (Sylwch, mae ein holl ffurflenni'n gydnaws ag Internet Explorer a Safari, fodd bynnag efallai y byddwch chi'n cael problemau wrth ddefnyddio porwyr eraill).

Beth sy'n digwydd nesaf?

Ar ôl i ni gael gwybod am y newid byddwn yn rhoi gwybod i chi p'un a oes angen ffurflen gais neu dystiolaeth arall arnom.

Os ydych wedi rhoi popeth sydd ei angen arnom i ni, byddwn yn ailgyfrifo'r budd-dal ac yn eich hysbysu o'ch dyfarniad newydd.

Taliadau Tai Disgresiynol

Mae Taliadau Tai Disgresiynol (DHPs) yn daliadau y gall y Cyngor eu gwneud i bobl sy'n derbyn Budd-dal Tai ac Credyd Cynhwysol (Elfen Tai), ond a allai fod yn parhau i fod mewn angen ariannol pellach gyda'u costau tai.

Mae'r arian a ddefnyddir ar gyfer Taliadau Tai Disgresiynol yn cael ei ddarparu gan y Llywodraeth bob blwyddyn, ond mae'n swm cyfyngedig ac mae'n rhaid i'r Cyngor benderfynu sut orau i ddyfarnu'r arian. Er mwyn gwneud taliad, mae'r Cyngor yn ceisio dilyn yr amcanion canlynol;

  • Annog a helpu pobl i barhau mewn gwaith
  • Atal digartrefedd a chynorthwyo pobl i gadw tenantiaethau cynaliadwy
  • Helpu pobl sy'n ceisio helpu eu hunain
  • Helpu i gadw teuluoedd gyda'i gilydd
  • Cefnogi pobl agored i niwed yn y gymuned
  • Helpu pobl drwy gyfnodau lle maent dan straen ac yn fregus
  • Helpu i liniaru tlodi
  • Cynorthwyo pobl sydd dan anfantais arbennig oherwydd y Diwygiadau Lles

Er mwyn gwneud penderfyniad bydd y Cyngor yn ystyried y pwyntiau canlynol;

  • Y diffyg rhwng Budd-dal Tai a rent person
  • Y camau a gymerwyd gan berson i leihau eu rhwymedigaeth rhent
  • Y camau a gymerwyd gan y person i ddod o hyd i lety amgen rhatach
  • Rhesymau pam na all person symud i lety amgen rhatach
  • Y camau a gymerwyd gan berson i gynyddu eu hincwm
  • Amgylchiadau ariannol y person a'i deulu, ond ni fydd Lwfans Byw i'r Anabl (Elfen Symudedd) yn cael ei ystyried fel incwm
  • Unrhyw amgylchiadau meddygol perthnasol y person a'i deulu
  • Unrhyw amgylchiadau y gellid eu hystyried fel rhai eithriadol
  • Lefel y cyllid sydd ar gael i Gyngor Sir y Fflint
  • Canlyniadau peidio â dyfarnu Taliad Tai Disgresiynol

Ymgeisiwch

Gweld y Polisi Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn

Cliciwch ar y dolenni canlynol i weld a ydych chi'n gymwys i gael mwy o gymorth i'ch helpu i reoli'ch arian;

(Sylwch, mae ein holl ffurflenni'n gydnaws ag Internet Explorer a Safari, fodd bynnag efallai y byddwch chi'n cael problemau wrth ddefnyddio porwyr eraill).

Credyd Cynhwysol

Am wybodaeth am gredyd cynhwysol, cliciwch ar y linc;

Credyd Cynhwysol

Prydau Ysgol Am Ddim (eFSM) a Grant Hanfodion Ysgol

Cliciwch ar y ddolen isod i gael eich cyfeirio at y dudalen Prydau Ysgol Am Ddim (eFSM) a Grant Hanfodion Ysgol am ragor o wybodaeth.

Prydau Ysgol Am Ddim (eFSM) a Grant Hanfodion Ysgol

Y Cap Budd-dal Tai

Mae newid wedi bod yn ddiweddar yng nghyfanswm y budd-daliadau y gall aelwyd o oedran gweithio eu derbyn.   

O 7 Tachwedd 2016 ymlaen, mae'r Uchafswm Budd-daliadau fel a ganlyn: 

  • £384.62 yr wythnos (£20,000 y flwyddyn) ar gyfer teulu neu gwpl
  • £384.62 yr wythnos (£20,000 y flwyddyn) ar gyfer person sengl â phlant sy’n byw gydag ef/hi
  • £257.69 yr wythnos (£13,400 y flwyddyn) ar gyfer person sengl. 

Os ydych yn meddwl y bydd yr Uchafswm Budd-Daliadau yn effeithio arnoch chi, efallai y bydd gennych hawl i wneud cais am Daliadau Tai yn Ôl Disgresiwn i'ch cynorthwyo.

Os hoffech wybodaeth neu gyngor pellach, cysylltwch â ni cyn gynted ag sy’n bosibl naill ai drwy e-bost benefits@flintshire.gov.uk neu ffoniwch 01352 704848 neu galwch heibio i un o Swyddfeydd Cysylltu'r Cyngor 

Lwfans Tai Lleol

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth isod ynglŷn ag LHA

Os ydych chi’n rhentu eiddo neu ystafell oddi wrth landlord preifat ac os ydych chi ar incwm isel, gallai fod modd i chi hawlio a chael Lwfans Tai Lleol.

Beth yw Lwfans Tai Lleol?

Ffordd newydd o gyfrifo Budd-dal Tai ar gyfer pobl sy’n rhentu llety oddi wrth landlord preifat yw Lwfans Tai Lleol. Cafodd y Lwfans ei gyflwyno ym mis Ebrill 2008. Mae’n berthnasol i geisiadau newydd am fudd-dal, a chwsmeriaid sydd eisoes yn cael Budd-dal Tai ac sy’n newid eu cyfeiriad neu’n symud i lety a gaiff ei rentu’n breifat.

Os ydych chi’n byw mewn llety sy’n eiddo i’r Cyngor neu landlord cymdeithasol arall megis cymdeithas dai, ni fydd Lwfans Tai Lleol yn effeithio arnoch chi oni bai eich bod yn symud i lety a gaiff ei rentu oddi wrth landlord preifat.

Sut mae Lwfans Tai Lleol yn gweithio?

Caiff Lwfans Tai Lleol ei seilio ar yr ardal y mae’r cwsmer yn rhentu ynddi, nifer y bobl sy’n byw yn yr eiddo, a maint yr aelwyd. Mae Lwfans Tai Lleol yn ffordd decach o gyfrifo Budd-dal Tai, oherwydd mae’n sicrhau bod tenantiaid mewn amgylchiadau tebyg sy’n byw yn yr un ardal yn cael yr un faint o help i dalu eu rhent.

Sut mae’r newidiadau hyn yn effeithio ar y bobl hynny sydd eisoes yn cael Budd-dal Tai?

Os ydych chi eisoes yn cael Budd-dal Tai, ni fydd y newidiadau’n effeithio arnoch oni bai eich bod yn newid eich cyfeiriad ac yn symud i lety a gaiff ei rentu oddi wrth landlord preifat. Byddwch chi’n cael Lwfans Tai Lleol yn lle Budd-dal Tai os bydd hynny’n digwydd.

Sut caiff Lwfans Tai Lleol ei gyfrifo?

Mae’r Gwasanaeth Rhenti’n cyfrifo cyfraddau Lwfans Tai Lleol ar gyfer pob ardal unigol, neu ‘Ardaloedd Marchnad Rhenti Eang’ fel y’u gelwir. Mae’r cyfraddau’n amrywio ar gyfer pob ardal, ac maent yn dibynnu hefyd ar nifer yr ystafelloedd gwely sydd yn yr eiddo. Caiff y cyfraddau eu hadolygu’n fisol.

I gyfrifo’r cyfraddau Lwfans Tai Lleol uchaf, bydd angen i chi wybod:

  1. Faint o ystafelloedd gwely rydych yn gymwys i’w cael.
  2. Yr ‘Ardal Marchnad Rhenti Eang’ y byddwch yn rhentu ynddi.

Faint o ystafelloedd gwely rwyf yn gymwys i’w cael?

Nid nifer yr ystafelloedd gwely yn yr eiddo sydd dan sylw, ond nifer yr ystafelloedd gwely sydd eu hangen mewn gwirionedd ar eich aelwyd. Dilynwch y ddolen gyswllt i ddarganfod faint o ystafelloedd gwely rydych yn gymwys i’w cael -

Pa Ardal Marchnad Rhenti Eang byddaf yn rhentu ynddi?

Gallwch chi ddarganfod pa Ardal Marchnad Rhenti Eang rydych yn rhentu ynddi trwy ddefnyddio’r cyfleuster chwilio’n ôl Côd Post, gan ddefnyddio’r ddolen gyswllt sydd ynghlwm. Wrth ddewis nifer yr ystafelloedd gwely rydych yn gymwys i’w cael, gallwch chi hefyd weld y gyfradd Lwfans Tai Lleol uchaf sy’n berthnasol.

Faint o Lwfans Tai Lleol byddaf i’n ei gael mewn gwirionedd?

Y cyfraddau Lwfans Tai Lleol yw’r budd-dal uchaf y gallwch chi ei gael, ni waeth faint yw’r rhent mewn gwirionedd. Cofiwch fod Lwfans Tai Lleol yn fudd-dal a gaiff ei seilio ar brawf modd ac y gallech chi gael swm sy’n llai na’r lwfans uchaf posibl. Bydd hynny’n dibynnu ar eich incwm ac unrhyw gynilion sydd gennych.

I gael amcangyfrif o’r swm y gallai fod gennych hawl i’w gael, gallwch chi ddefnyddio ein cyfleuster cyfrifo budd-daliadau neu gallwch gysylltu â ni.

I gael amcangyfrif o'ch hawl gallwch ddefnyddio ein (Sylwch fod ein holl ffurflenni'n gydnaws ag Internet Explorer a Safari, fodd bynnag efallai y byddwch yn cael problemau wrth ddefnyddio porwyr eraill).

Ymhle caiff y cyfraddau eu cyhoeddi?

Caiff y cyfraddau Lwfans Tai Lleol presennol ar gyfer yr Ardaloedd Marchnad Rhenti Eang yn Sir y Fflint eu cyhoeddi yma: 

Cyfyngiadau Rhent

O 1 Ebrill 2013, bydd Budd-dal Tai yn cael ei leihau i bobl o oed gweithio y bernir bod ganddynt ystafell wely "sbâr" yn eu llety Cyngor a Chymdeithas Tai. Caiff hyn ei bennu o dan reolau newydd.

O dan y rheolau newydd hyn un ystafell wely a ganiateir ar gyfer pob un o'r canlynol:

  • Oedolyn sengl neu gwpl, a
  • Phlentyn, ond gall dau blentyn rannu ystafell wely hyd at 10 oed os ydynt o ryw gwahanol, neu 16 os ydynt o'r un rhyw, a
  • Mae ystafell hefyd yn cael ei chaniatáu i hawliwr neu bartner sy'n gofyn am ofal dros nos gan ofalwr

Os oes gan denantiaid un ystafell wely sbâr yn y tŷ o dan y rheolau hyn, yna bydd y rhent llawn a ddefnyddir ar gyfer cyfrifo eu Budd-dal Tai yn cael ei leihau 14%. Os oes dau neu fwy o ystafelloedd gwely sbâr, yna bydd y rhent llawn ar gyfer Budd-dal Tai yn cael ei leihau 25%.

Caiff pobl sydd wedi cael profedigaeth yn eu cartref eu diogelu rhag y lleihad am 12 mis.

Twyll Budd-daliadau

Er bod y rhan fwyaf o bobl yn hawlio budd-daliadau yn onest, mae nifer fach yn camddefnyddio'r system. Yn genedlaethol, mae miliynau o bunnoedd yn cael eu dwyn fel hyn bob blwyddyn. Gallwch chi helpu trwy roi gwybod am unrhyw un rydych chi'n amau ​​​​ei fod yn cyflawni Twyll Budd-daliadau. Bydd unrhyw wybodaeth a ddarperir yn cael ei thrin yn gyfrinachol iawn ac nid oes rhaid i chi roi eich enw.

Sut ydw i'n rhoi gwybod am dwyll budd-daliadau?

Rhaid bod rheswm da dros ymchwilio i rywun am dwyll budd-daliadau, felly bydd angen i chi roi cymaint o wybodaeth â phosibl. Mae nifer o ffyrdd y gallwch chi roi gwybod am leidr budd-daliadau a amheuir:

Neu gallwch ffonio'r Llinell Gymorth Twyll Budd-daliadau Genedlaethol (NBFH), o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm ar 0800 854 440 (Ffôn Cymraeg: 0800 678 3722) neu ysgrifennu at NBFH, PO Box 224, Preston, PR1 1GP.

Ar ôl i chi roi gwybod am rywun

Bydd y gwasanaeth perthnasol yn edrych ar y wybodaeth a roddwch ac yn gwirio hawliad budd-dal y person. Am resymau cyfrinachedd, ni fyddwch yn cael gwybod canlyniad unrhyw ymchwiliadau.

Rhagor o wybodaeth

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am dwyll budd-daliadau yn 

Adborth Cwsmeriaid

Rydym yn gwerthfawrogi’ch adborth am y gwasanaeth yr ydych wedi’i dderbyn. Llenwch ein Holiadur Gwasanaethau Cwsmeriaid drwy glicio ar y ddolen isod.

Gwybodaeth Gyswllt

Mae'n bosibl y bydd angen i chi gysylltu â ni am nifer o resymau - i ddweud wrthym am newid yn eich amgylchiadau neu i gael cyngor am wneud cais newydd i hawlio efallai?

Gallwch gysylltu â ni yn y ffyrdd canlynol:

Trwy e-bost

benefits@flintshire.gov.uk

Trwy ffonio

Gallwch ein ffonio rhwng 8.30am - 5.00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Ein rhif ffôn yw 01352 704848

Trwy'r post

Y Tïm Budd-daliadau
Cyngor Sir y Fflint
Swyddfeydd y Sir
Stryd Y Capel
Y Fflint
CH6 5BD

Mae Swyddfeydd Connects lleol wedi'u lleoli yn yr ardaloedd canlynol.

  • Llyfrgell Bwcle, Y Ganolfan Siopa, Bwcle, CH7 2EF
  • Llyfrgell Cei Connah, Wepre Drive, Cei Connah, CH5 4HAY
  • Fflint, Stryd yr Eglwys, Y Fflint, CH6 5DB
  • Treffynnon, Hen Neuadd y Dref, Stryd Fawr, Treffynnon, CH8 7TD
  • Llyfrgell yr Wyddgrug, Heol yr Iarll, CH7 1AP