Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dathlu Ysgolion Iach
Published: 14/07/2017
Cynhaliwyd digwyddiad Dathlu Cyrhaeddiad blynyddol Ysgolion Iach Sir y Fflint
yn ddiweddar yn Ysgol Gwynedd, Y Fflint.
Trefnir y digwyddiad ysbrydoledig hwn sy鈥檔 codi鈥檙 ysbryd gan y t卯m Ysgolion
Iach, sy鈥檔 rhan o bortffolio Addysg ac Ieuenctid y Cyngor. Am yr ail flwyddyn
yn olynol, dathlwyd y digwyddiad ar y cyd 芒 Chymdeithas Gemau Ysgolion Cynradd
Sir y Fflint. Mae鈥檙 digwyddiad yn cydnabod cyraeddiadau ysgolion ym mhob agwedd
ar addysg iechyd a chwaraeon.
Roedd disgyblion o ysgolion ar draws y sir yn bresennol i dderbyn eu gwobrau
gan Is-Gadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Paul Cunningham yng nghwmni ei gonsort,
Mrs Joan Cunningham, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid, Y Cynghorydd Ian
Roberts a Phrif Swyddog Dros Dro Addysg ac Ieuenctid, Claire Homard.
Croesawodd Kate Fox-Parry, Cadeirydd Cymdeithas Gemau Ysgolion Cynradd Sir y
Fflint a Phennaeth Ysgol Cae鈥檙 Nant, bawb i鈥檙 digwyddiad, a oedd yn cynnwys
perfformiad rhagorol gan G么r Ysgol Croes Atti, arddangosiad sgipio gan Ysgol
Gwynedd a chyflwyniad gan Ysgol Gynradd Goffa Wood yn trafod yr hyn mae鈥檔 ei
olygu i fod yn 鈥淵sgol Iach鈥, cyflwyniad o鈥檙 enw 鈥淧layful Futures鈥 gan Ysgol
Mynydd Isa a chyflwyniad gan Ysgol Bryn Deva o鈥檙 enw 鈥淭ouching the Sky鈥 a
pherfformiad dawns ardderchog gan Ysgol Mountain Lane.
Cyflwynwyd Gwobrau Chwaraeon T卯m Sir y Fflint gan y Cynghorydd Cunningham, ac
fe ddywedodd:
鈥淢ae heddiw鈥檔 amlygu鈥檙 gwaith ardderchog sy鈥檔 digwydd yn ein hysgolion ar draws
y Sir. Mae ystod eang o chwaraeon yn cael eu cynnwys, gan gynnwys rownderi,
hoci, p锚l-droed, athletau, criced, rygbi a ph锚l-rwyd. Mae digwyddiadau fel hyn
yn amlygu鈥檙 ymrwymiad parhaus i鈥檙 Cynllun Ysgolion Iach 鈥 da iawn i bawb a
gymerodd ran.鈥
Yna, fe gyflwynodd Claire Homard Wobrau Ysgolion Iach i 12 ysgol.
Gwobrau mwyaf y bore oedd cyflwyniadau Gwobrau Ansawdd Genedlaethol Ysgolion
Iach. Llwyddodd dwy ysgol, sef Ysgol Gynradd Goffa Wood ac Ysgol Bryn Deva, i
gael achrediad a chafodd un ysgol ei hail-achredu ar gyfer 2016/17 鈥 Ysgol
Mynydd Isa.
Wrth gyflwyno鈥檙 gwobrau, dywedodd Claire Homard:
鈥淵 Wobr Ansawdd Genedlaethol yw anrhydedd uchaf y cynllun ac mae鈥檔 rhaid i
ysgolion gwblhau pum cam cyn iddynt fod yn gymwys ar gyfer y wobr - gall hyn
gymryd cyfartaledd o 10 mlynedd i鈥檞 gyflawni! Mae鈥檙 Wobr Ansawdd Genedlaethol
yn golygu datblygu ymagwedd ysgol gyfan tuag at faterion sy鈥檔 effeithio ar
iechyd a lles; maent yn cynnwys saith gwahanol thema iechyd, o Iechyd
Emosiynol, Bwyd a Ffitrwydd i鈥檙 Amgylchedd a Diogelwch.
鈥淟longyfarchiadau enfawr i bob ysgol ar gyflawniad o鈥檙 fath!鈥
Yn ogystal 芒 gwobrau Ysgolion Iach, cyflwynwyd gwobrau arbennig, sef Gwobr y
Chwaraewr Mwyaf Addawol 2017, i William Norman o Ysgol Mountain Lane ac Evan
Withe o Ysgol Owen Jones a Gwobr y Chwaraewraig Mwyaf Addawol i Mayzee Davies o
Ysgol Gwynedd. Eleni, cyflwynwyd Gwobr Cyfraniad Eithriadol i Chwaraeon Sir y
Fflint i Mr Neil Williams am ei gyfraniad a鈥檌 ymroddiad i rygbi iau yn Sir y
Fflint dros yr 16 mlynedd diwethaf.
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts:
鈥淢ae hwn yn ddigwyddiad dathlu arbennig iawn. Mae鈥檔 bwysig ein bod yn cydnabod
cyraeddiadau chwaraeon plant a phobl ifanc ac yn dathlu athletwyr talentog ein
sir.
鈥淢ae鈥檙 Cynllun Ysgolion Iach wedi bod yn rhedeg ers 15 mlynedd yn Sir y Fflint,
ac mae鈥檔 mynd o nerth i nerth. Mae鈥檔 hyfryd gweld y plant yn cymryd rhan ac mor
frwdfrydig dros y cynllun ysbrydoledig hwn.鈥
CANLYNIADAU LLAWN
Gwobrau Chwaraeon T卯m Sir y Fflint
1. Pencampwyr Rownderi 2017 鈥 Ysgol Mountain Lane ac Ysgol Golftyn
2. Pencampwyr Hoci 2017 鈥 Ysgol Gynradd Goffa Wood
3. Pencampwyr Athletau Dan Do Ysgolion Bach 2017 鈥 Ysgol Gynradd Goffa Wood
4. Pencampwyr Athletau Dan Do Ysgolion Mawr 2017 - Ysgol Bryn Coch
5. Pencampwyr Criced Cyflym 2017 鈥 Ysgol Owen Jones
6. Pencampwyr Rygbi 2017 鈥 Ysgol Derwen
7. Pencampwyr Cynghrair P锚l-Rwyd 2017 - Ysgol Glanrafon
8. Pencampwyr Cwpan P锚l-Rwyd 2017 鈥 Ysgol Maes y Felin
P锚l-Droed
1. Tarian Hardwick 2017 鈥 Ysgol Gynradd Ewloe Green
2. Pencampwyr Ron Bishop 2017 鈥 Ysgol Gynradd Ewloe Green
3. Pencampwyr Tom Roberts 2017 鈥 Ysgol Gynradd Ewloe Green
4. Pencampwyr Elwyn Owen 2017 鈥 Ysgol Bryn Coch
Gwobrau Ysgolion Iach
1. Uned Cyfeirio Disgyblion Troi Rownd
2. Uned Cyfeirio Disgyblion Y Ganolfan Ddysgu
3. Ysgol Gynradd Drury
4. Ysgol Gynradd Northop Hall
5. Ysgol Bro Carmel
6. Ysgol Bryn Pennant
7. Ysgol Gynradd Gatholig Santes Gwenffrewi
8. Ysgol yr Esgob TBC
9. Ysgol Glan Aber
10. Ysgol Gynradd Sandycroft
11. Yr Hybarch Edward Morgan
12. Sealand