Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Llwyddiant Ffair Swyddi
Published: 12/05/2017
Daeth dros 400 o bobl i ddigwyddiad deuddydd yn llawn gwybodaeth am swyddi,
sgiliau a hyfforddiant yn Neuadd Ddinesig Cei Connah.
Roedd y digwyddiad hwn wedi ei anelu at oedolion a phobl ifanc syn chwilio am
waith ac roedd yn ddigwyddiad ar y cyd llwyddiannus arall rhwng Cymunedau yn
Gyntaf Sir y Fflint, Canolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru.
Cefnogwyd y digwyddiad gan 32 darparwr a 31 cyflogwr, gyda dros 300 o swyddi
gwag ar gael mewn amrywiaeth o sectorau. Mae adborth darparwyr (sefydliadau
addysg, darparwyr hyfforddiant a sefydliadau sy鈥檔 darparu cyfleoedd gwirfoddoli
ac ati) yn dangos bod safon yr ymgeiswyr a lefel yr ymgysylltu yn uwch na鈥檙
llynedd, gyda mwy o gyfleoedd i gael sgyrsiau un-i-un. Ac oherwydd safon uchel
y mynychwyr, roedd ar rai cyflogwyr eisiau cyfweld 芒 nhw yn y fan a鈥檙 lle.
Yn ogystal 芒 gwneud cais am swyddi gwag roedd ceiswyr gwaith yn gallu cwrdd 芒
chyflogwyr, darparwyr addysg a sefydliadau cefnogi eraill a gofyn cwestiynau
iddynt.
Cynhaliwyd dau weithdy yn ystod y digwyddiad. Roedd un gweithdy, a ddarparwyd
gan Hyfforddiant Gogledd Cymru, yn gweithio gyda mynychwyr ar wella eu sgiliau
meithrin t卯m.
Roedd y gweithdy arall, a ddarparwyd gan The Meee Project, yn canolbwyntio ar
gyflogaeth, addysg a menter. Mae The Meee Project (My Education, Employment and
Enterprise) yn cynnig gweithdai arbennig sy鈥檔 addysgu technegau ar gyfer ymdopi
gyda straen a gor-bryder pan fo rhywun yn cael trafferth ffitio i mewn 鈥 yn yr
ysgol, yn y gwaith neu鈥檙 gymdeithas ehangach.
Roedd y ddau weithdy dan eu sang ac roedd adborth y mynychwyr a鈥檙 cyflwynwyr yn
gadarnhaol dros ben.
Dywedodd Prif Swyddog Cymunedau a Menter Cyngor Sir y Fflint, Clare Budden:
鈥淯nwaith eto, roedd y digwyddiad rhyngweithiol hwn yn llwyddiant ysgubol ac yn
rhoi cyfle i鈥檙 mynychwyr gwrdd 芒 chyflogwyr, sefydliadau addysg ac asiantaethau
cymorth. Mae cyflogwyr wedi dweud wrthym ni fod y digwyddiad wedi bod yn
brofiad cadarnhaol iddyn nhw. Mae鈥檔 hanfodol bod busnesau yn denu ac yn
recriwtio鈥檙 bobl iawn ar gyfer eu swyddi. Mae digwyddiadau fel yr un yma yn
gyfle iddyn nhw wneud hynny.鈥