每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Cyngor yn cefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth o Fyddardod

Published: 15/05/2017

Eleni, bydd Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth o Fyddardod a fydd yn cael ei chynnal o 15 i 21 Mai. Mae Wythnos Ymwybyddiaeth o Fyddardod yn dathlu鈥檙 gwaith ar y cyd sydd wedi gwneud gwahaniaeth i fywydau unigolion syn fyddar neun colli eu clyw. Mae Wythnos Ymwybyddiaeth o Fyddardod, a hyrwyddir gan Gyngor y DU i Bobl Fyddar, yn gyfle i godi ymwybyddiaeth o鈥檙 ffaith fod un o bob chwe unigolyn yn y DU yn fyddar neu鈥檔 colli ei glyw. Mae Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi unigolion sy鈥檔 drwm eu clyw neu鈥檔 hollol fyddar. Un o amcanion ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol yw sicrhau y gellir cael mynediad at ein gwasanaethau yn hawdd, sy鈥檔 cynnwys darparu dehonglwyr iaith arwyddion. Dywedodd Karen Armstrong, Swyddog Gweithredol Busnes Corfforaethol a Chyfathrebu Sir y Fflint: 鈥淔el rhan o鈥檔 hymrwymiad i gynnal hyfforddiant ymwybyddiaeth o fyddardod ar gyfer ein gweithwyr, rydym wedi trefnu sesiwn hyfforddi ar gyfer chwech o鈥檔 gweithwyr i ddysgu am sillafu 芒 bysedd (fingerspelling). Darparwyd gwybodaeth sylfaenol am sut i ddefnyddio iaith arwyddion gan gynrychiolwyr o Ganolfan Arwyddo-Golwg- Sain (COS) a dreuliodd fore gyda鈥檔 gweithwyr, sydd rwan wedi dysgu sgiliau ehangach er mwyn gallu darparu gwell mynediad at wasanaethau.鈥 Mae sillafu 芒 bysedd yn ddull o ysgrifennu geiriau gan ddefnyddio symudiadau dwylo. Defnyddir yr wyddor sillafu 芒 bysedd yn yr iaith arwyddion er mwyn ysgrifennu enwau pobl a llefydd pan nad oes arwydd ar eu cyfer. Mae Iaith Arwyddion Prydain yn defnyddio鈥檙 wyddor ddwylaw, fodd bynnag mae rhai ieithoedd arwyddion eraill megis Iaith Arwyddion America yn defnyddio鈥檙 wyddor un-llaw. Mae鈥檙 Ganolfan Arwyddo-Golwg-Sain yn elusen Gymreig a sefydlwyd yn lleol gan y gymuned o bobl fyddar yng ngogledd Cymru. Gyda鈥檙 bwriad o 鈥渨ella ansawdd bywyd drwy gydraddoldeb鈥 mae鈥檙 elusen nawr yn cefnogi鈥檙 holl bobl fyddar, wediu byddaru, trwm eu clyw, byddar a dall a phobl sydd 芒 nam ar y synhwyrau ar draws Gogledd Cymru yn ogystal 芒鈥檜 teuluoedd, ffrindiau, gofalwyr, cydweithwyr a鈥檙 gwasanaethau a鈥檙 sefydliadau sy鈥檔 eu cefnogi. Mae aelodau Cyngor y DU i Bobl Fyddar ac eraill wedi uno i gyflawni un bwriad cyffredin ac mae gwaith yn parhau er mwyn: 路 codi ymwybyddiaeth; 路 gwella mynediad at addysg a chyflogaeth; 路 sicrhau bod gan unigolion y wybodaeth maent ei hangen; 路 rhoi gwybod ir llywodraeth a鈥檙 cyhoedd am fyddardod a cholli clyw; 路 cefnogi Grwp Seneddol yr Holl Bleidiau ar gyfer Byddardod; 路 addysgu pobl am bwysigrwydd rhwystro colli clyw; a 路 gwella ansawdd y gwasanaethau ar gyfer pobl sy鈥檔 fyddar neu wedi colli clyw. Dywedodd Craig Crowley, Cadeirydd Cyngor y DU i Bobl Fyddar: 鈥淢aer Wythnos Ymwybyddiaeth o Fyddardod eleni yn 鈥淒dathliad鈥 o gydweithredu a gweithio gyda鈥檔 gilydd ar ymgyrch ar y cyd er budd pobl fyddar neu sydd yn colli eu clyw.鈥