Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Symiau Gohiriedig a Thaliadau Adbrynu Rhannu Ecwiti
Published: 10/03/2017
Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gytuno ar adroddiad ar symiau
gohiriedig a thaliadau adbrynu rhannu ecwiti pan fydd yn cyfarfod nesaf ar 14
Mawrth.
Mae鈥檙 adroddiad yn adolygu defnydd y symiau gohiriedig ac yn rhoi argymhellion
diwygiedig yn dilyn y cytundebau Adran 106 diweddar a blaenoriaeth y Cyngor i
adeiladu tai fforddiadwy ar draws Sir y Fflint trwy鈥檙 Rhaglen Tai ac Adfywio
Strategol (SHARP).
Mae鈥檙 adroddiad yn argymell y dylai symiau gohiriedig a dalwyd i鈥檙 Cyngor gael
eu cadw yn ardal y Cyngor Cymuned lleol os nad yw鈥檙 contractwr wedi darparu tai
fforddiadwy. Mae hefyd yn argymell os ceir swm gohiriedig a bod tai
fforddiadwy wedi鈥檜 hadeiladu yn yr ardal, y gellir defnyddio鈥檙 arian trwy SHARP
i ddatblygu tai fforddiadwy yn ardaloedd eraill y Sir.
Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet dros Dai Cyngor Sir y Fflint:
鈥淢ae鈥檙 argymhellion hyn yn caniat谩u hyblygrwydd i ddefnyddio鈥檙 arian yn yr
ardal leol pan nad yw tai fforddiadwy wedi鈥檌 ddarparu, ond hefyd, os oes tai
fforddiadwy wedi鈥檜 darparu, gall y Cyngor wneud y gorau o arian SHARP a sicrhau
bod tai fforddiadwy yn cael eu darparu yn yr ardaloedd lle mae鈥檙 angen mwyaf a
darparu tai mewn ardaloedd syn llai deniadol ar gyfer datblygiad marchnad, ac
felly yn annhebygol o fod 芒 thai fforddiadwy.
Mae鈥檙 adroddiad hefyd yn rhoi trosolwg o鈥檙 taliadau adbrynu Rhannu Ecwiti a sut
y gellir eu defnyddio i ddarparu rhagor o dai fforddiadwy ledled Sir y Fflint.
Fel rhan o鈥檙 broses gynllunio, gall ddatblygwr ddarparu tai fforddiadwy trwy
fodel Rhannu Ecwiti, gyda鈥檙 person cymwys o鈥檙 gofrestr Tai Fforddiadwy yn prynu
70% o werth y farchnad a鈥檙 Cyngor yn cadw 30% o ecwiti yn yr eiddo trwy
bridiant cyfreithiol.
Aeth y Cynghorydd Brown ymlaen i nodi:
鈥淥s yw鈥檙 Cyngor yn cael ad-daliad am y benthyciad ecwiti, gellir defnyddio鈥檙
arian mewn nifer o ffyrdd i ddarparu tai mwy fforddiadwy ar gyfer preswylwyr 鈥
fel cynlluniau ariannu cyfatebol trwy SHARP neu鈥檙 rhaglen Grant Tai
Cymdeithasol, prynu eiddo presennol ar gyfer ymgeiswyr ar y Gofrestr Tai
Arbenigol neu gaffael ac ailwampio tai gwag.鈥