每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyllid pellach ar gyfer adfywio Glannau Dyfrdwy

Published: 02/03/2017

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu 拢370,000 pellach i Cyngor Sir y Fflint ar gyfer dau brosiect adfywio yng Nglannau Dyfrdwy. Bydd yr arian, o鈥檙 rhaglen Llefydd Llewyrchus Llawn Addewid, yn cael ei ddefnyddio ar Gam 2 Pen y Llan Court yng Nghei Connah a hefyd adeiladu ar y cynlluniau Tir y Cyhoedd y mae鈥檙 ardal wedi elwa ohonynt dros y tair blynedd ddiwethaf. Bydd Cam 2 cynllun Pen y Llan Court yn elwa o 拢100,000 a bydd gwelliannau a drefnwyd yn cynnwys gwella diogelwch, cyfleusterau ac ymddangosiad cyffredinol. Bydd 拢270,000 arall yn cael ei fuddsoddi mewn cynlluniau Tir y Cyhoedd i wella cyfleusterau cludiant a Theithio Llesol i annog opsiynau teithio mwy cynaliadwy a gwella鈥檙 amgylchedd. Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint: 鈥淢ae croeso mawr i鈥檙 ddau gyhoeddiad yma, maent yn bosibl yn unig oherwydd y gwaith gwych maer Cyngor eisoes wedi ei wneud yn cyflwynor rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid yng Nglannau Dyfrdwy. Mae Glannau Dyfrdwy yn ganolbwynt economaidd o bwys ar gyfer Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr ac maer rhaglen hon yn elfen bwysig o ran hybu ffyniant y rhanbarth.鈥