Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cartrefi Newydd Abermorddu
Published: 14/02/2017
Mae cwmni rheoli eiddo Cyngor Sir y Fflint, NEW Homes (Tai Gogledd Ddwyrain
Cymru), wedi meddu deg o gartrefi newydd sbon i helpu i roi hwb i nifer y tai
fforddiadwy sydd ar osod yn y sir.
Mae tri or cartrefi newydd ar ddatblygiad tai newydd Anwyl yn Abermorddu.
Wedii gynllunio i ymateb ir heriau a brofir gan drigolion wrth gael mynediad
at dai fforddiadwy, mae NEW Homes wedi鈥檌 sefydlu gan y Cyngor i gynyddur
dewisiadau tai sydd ar gael i drigolion lleol. Maen cynnig nifer o wasanaethau
rheoli tai wedi鈥檜 teilwra a鈥檜 cynllunio i gynyddu nifer ac ansawdd y tai yn y
sir.
Maer eiddo wedi鈥檜 trosglwyddo i NEW Homes fel rhan o rwymedigaethau tai
fforddiadwy datblygwyr datblygiadau preifat. Mae hyn yn sicrhau bod
datblygiadau newydd yn diwallu anghenion pobl leol o ran tai fforddiadwy.
Roedd y tenantiaid newydd yn falch iawn o fod yn gallu symud i mewn ar yr un
diwrnod y cafodd y cartrefi eu trosglwyddo i NEW Homes.
Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint a Chadeirydd Bwrdd NEW Homes, y
Cynghorydd Bernie Attridge, sydd wedi ymweld 芒 nifer o鈥檙 tenantiaid newydd i鈥檞
croesawu i鈥檞 cartrefi newydd:
鈥淢ae NEW Homes wedi鈥檌 sefydlu yn benodol i gwrdd 芒r angen am dai fforddiadwy
yn ein cymunedau lleol ac mae rhoi鈥檙 tai hyn fel rhan o ganiat芒d cynllunio鈥檙
datblygwr yn helpu i gyflawni hyn. Rwyf yn falch o groesawu鈥檙 tenantiaid newydd
i鈥檞 cartrefi newydd ac maen braf gweld teuluoedd yn ailgychwyn byw.鈥
Meddai Mathew Anwyl, Rheolwr Gyfarwyddwr Cartrefi Anwyl: 鈥淩ydym ni鈥檔 falch o
fod yn rhan o ymgyrch tai fforddiadwy NEW Homes yn Sir y Fflint drwy ddarparu
tair uned fforddiadwy yn Abermorddu. Mae darparu tai newydd fforddiadwy o
ansawdd uchel er budd y gymuned leol yn bwysig ac rydym ni鈥檔 falch bod NEW
Homes eisoes wedi croesawu eu tenantiaid cyntaf.鈥
Y Cynghorydd Attridge yn cyflwyno allweddi a thusw i denant hapus yn
Abermorddu.