每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn diogelu gwasanaethau rheng flaen am flwyddyn arall

Published: 10/02/2017

Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cyfarfod dydd Mawrth nesaf i gwblhau ei gyllideb flynyddol ar gyfer 2017/18. Roedd cyfanswm y targed o arbedion i鈥檙 Cyngor ei gyflawni yn 2017/18 wedi bod yn 拢12.5m yn dilyn cyhoeddi 鈥榮etliad鈥 drafft Llywodraeth Cymru, neu鈥檙 gyllideb ar gyfer llywodraeth leol, a chyn gwyliau鈥檙 Nadolig. Mae鈥檙 Cyngor wedi bod yn cymeradwyo ei gyllideb flynyddol mewn camaun arwain at gyfarfod pennur gyllideb derfynol yr wythnos nesaf. Y cam cyntaf oedd cymeradwyo cynigion y gyllideb ar gyfer gwasanaethau ganol Tachwedd, gan ddilyn ag ail gam o gymeradwyor opsiynau cyllido corfforaethol ddechrau Rhagfyr. Ar ddiwedd y ddau gyfnod hyn, maer Cyngor wedi cymeradwyo cyfanswm cynyddol o arbedion o 拢10.4m 鈥 gyda bwlch sy鈥檔 weddill o 拢1.997m eto iw ganfod i gyrraedd ei darged. Mae Sir y Fflint wedi bod yn brysur yn ymgyrchu am fwy o fuddsoddiad mewn Gofal Cymdeithasol. Mae Llywodraeth Cymru, ar 么l lobio, wedi cyhoeddi bod cyllid ychwanegol o 拢10m i gefnogi costau cynyddol gofal cartref ar draws Cymru. Mae Sir y Fflint yn disgwyl cael tua 拢0.430m. Mae Llywodraeth Cymru, wrth ffurfio ei gyllidebau ar gyfer 2017/18, wedi cadarnhau鈥檔 ddiweddar bod y terfyn capiau codi t芒l ar ofal cartref yn mynd i godi o 拢60 i 拢70 yr wythnos o 1 Ebrill 2017. I Sir y Fflint, bydd hyn yn golygu y gallwn adennill incwm blynyddol ychwanegol o 拢0.238m gan gleientiaid lle gallant fforddio talu. Gyda鈥檙 incwm cyfun o godi t芒l am ofal cartref a鈥檙 gyfran o鈥檙 grant newydd, mae鈥檙 bwlch i鈥檞 ganfod syn weddill wedi lleihau o 拢0.668m i 拢1.329m. Fodd bynnag, mae鈥檙 Cyngor yna wedi gorfod codi鈥檙 ardoll flynyddol a godir gan Awdurdod T芒n ac Achub Gogledd Cymru ar ei gyllideb darged. Bydd Sir y Fflint yn gorfod ateb cynnydd blynyddol yn ei gyfraniad at D芒n ac Achub o 拢0.317m 鈥 cynnydd o 4.52%. Gan ystyried y pwysau o ran y gost hon, mae鈥檙 bwlch sy鈥檔 weddill yn y gyllideb yn 拢1.646m. Mae鈥檙 Cyngor yn gorfod cytuno sut i gau鈥檙 bwlch hwn ddydd Mawrth. Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton: 鈥淕yda phwysau ar gyllidebau llywodraeth leol yn cynyddu flwyddyn ar flwyddyn, maer Cyngor wedi gorfod wynebu her ddigynsail i barhau 芒n nod i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen, wrth geisio darparu cyllideb gytbwys hefyd, yr ydym yn gorfod ei wneud oherwydd dyletswydd gyfreithiol. 鈥淓r gwaethaf yr her gyllidol, rwy鈥檔 falch ein bod yn cynnig cynyddu cyllid ysgolion o 拢1.2m. Bydd cyllidebau gofal cymdeithasol yn cael eu diogelu a鈥檜 cynyddu o 拢3.265m i ateb yr her ddwbl or cynnydd yn y galw am wasanaethau, ar pwysau chwyddiannol y mae darparwyr gofal yn eu hwynebu i barhau i ddarparu gwasanaethau gofal hanfodol ar draws ein Sir.鈥 Dywedodd Colin Everett, y Prif Weithredwr: 鈥淎m flwyddyn arall, rydym wedi llwyddo i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus allweddol, ac wedi osgoi gwneud cynnydd mawr yn y taliadau ar gyfer rhai gwasanaethau. 鈥淩ydym wedi gweithio drwy bob un opsiwn cyllideb sydd gennym, a dim ond dau ddewis sydd ar 么l i鈥檙 Cyngor fantoli鈥檙 gyllideb - Treth y Cyngor a thynnu ar gronfeydd wrth gefn a balansau. Rydym yn ceisio cyfyngu ar y cynnydd yn Nhreth y Cyngor i tua 3%. Gellid ond defnyddio cronfeydd wrth gefn a balansau unwaith, a byddai angen gwneud iawn am hyn yn y dyfodol. Dim ond 鈥榩lastr dros dro ydyw ar y gyllideb, ac wrth i ni ddefnyddio ein cronfeydd wrth gefn dros y blynyddoedd diweddar, maent wedi lleihau.