Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Nodiadau Canllaw Cynllunio Lleol
Published: 12/01/2017
Ceisir cymeradwyaeth gan Gabinet y Cyngor yn eu cyfarfod ar 17 Ionawr ar gyfer
20 o Nodiadau Canllaw Cynllunio Lleol (NCCLl) er mwyn eu mabwysiadu yn ffurfiol
fel Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA).
Mae鈥檙 NCCLl wedi鈥檜 datblygu yn dilyn ymarfer ymgynghori helaeth yn cynnwys
datblygwyr, asiantau, adrannau mewnol y Cyngor, awdurdodau cyfagos, cynghorau
tref a chymuned, ymgynghoreion statudol a grwpiau diddordeb lleol rhwng 18
Rhagfyr 2015 a 12 Chwefror 2016.
Mae鈥檙 NCCLl, rhai yn newydd ac eraill wedi鈥檜 diwygio, yn ymdrin ag ystod o
ystyriaethau cynllunio, o鈥檙 gwagle o amgylch anheddau i Ardaloedd Cadwraeth,
cadwraeth natur i dai fforddiadwy a safonau parcio i gadwraeth ynni ac ynni
adnewyddadwy, a byddant yn cael eu defnyddio i gefnogi polis茂au yng Nghynllun
Datblygu Unedol mabwysiedig Sir y Fflint, i鈥檞 ddefnyddio wrth benderfynu ar
geisiadau cynllunio.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd;
鈥淏ydd y NCCLl newydd yn helpu i ddarparu arweiniad clir a gwybodus ar bob
ffactor sy鈥檔 dylanwadu ar benderfyniadau ar geisiadau cynllunio a strategaethau
defnydd tir tymor hir. Bydd ganddynt hefyd fwy o rym fel ystyriaethau cynllunio
pwysig ar benderfyniadau cynllunio defnydd tir ac yn helpu i esbonio polis茂au
penodol yn y CDU, nes y gellir cymeradwyo鈥檙 CCA newydd fel rhan o鈥檙 Cynllun
Datblygu Lleol sydd wrthi鈥檔 cael ei ddatblygu.鈥
Mae gwybodaeth bellach ar gael ar wefan y Cyngor:
www.siryfflint.gov.uk/cynllunio