每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Moderneiddio ysgol gam yn nes

Published: 16/12/2016

Mae contractwr wedii ddewis i ymgymryd 芒 rhaglen foderneiddio ar gyfer Ysgol Uwchradd Cei Connah. Bydd Kier Construction o Wrecsam yn gweithio i ddisodlir bloc Dylunio a Thechnoleg ar bloc Technoleg Bwyd a Chelf presennol. Bydd y bloc tri llawr presennol yn cael ei ddisodli gan adeilad deulawr newydd a fydd yn cynnwys adran weinyddol, bloc Dylunio a Thechnoleg, Technoleg Bwyd a Chelf a Dylunio, ystafell ar gyfer darpariaeth addysgu ychwanegol, swyddfa, toiledau, lifft, grisiau ac ystafell beiriannau. Mae鈥檙 gwaith yn ffurfio rhan o raglen ysgolion yr 21ain ganrif gan Lywodraeth Cymru ac yn dilyn y gwaith a gwblhawyd yn ddiweddar yng Nghampws Dysgu Treffynnon a Choleg Chweched Dosbarth Glannau Dyfrdwy. Bydd y gwaith adeiladu yn dechrau yn ystod yr haf 2017 a bydd y contractwr yn sicrhau bod cyn lleied o aflonyddwch 芒 phosibl ir dysgwyr a鈥檙 gymuned leol, gyda dyddiad bwriedig ar gyfer cwblhau鈥檙 gwaith yn gynnar yn 2019. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: 鈥淢aer Cyngor wedi cytuno ar becyn ariannu gyda Llywodraeth Cymru ar gyfer ei raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif gwerth 拢64.2 miliwn. Agorwyd dau ddatblygiad campws modern a chyffrous yn ddiweddar, un yn Nhreffynnon a鈥檙 llall yng Nglannau Dyfrdwy, fel rhan or rhaglen hon. Maer Cyngor yn parhau i ymrwymo i fuddsoddi yn nyfodol ein plant an pobl ifanc. Rydym ni hefyd yn parhau i weithio i ddarparu addysg gynaliadwy o ansawdd uchel in holl ddysgwyr.鈥 Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Sir y Fflint: 鈥淢ae鈥檔 garreg filltir arall yn ymrwymiad y Cyngor i ddarparu cyfleusterau modern ar gyfer plant, pobl ifanc ar gymuned ehangach. Mae鈥檙 contract wedi鈥檌 ddyfarnu o dan Fframwaith Contractwr Ysgolion ac Adeiladau Cyhoeddus Gogledd Cymru.鈥 Mae鈥檙 broses gaffael hon yn golygu bod gan gynghorau grwp o gontractwyr sydd wedi鈥檜 cyn-gymhwyso fel nad oes angen iddynt fynd drwy broses dendro hir a drud, gan arbed amser a chostau. Nid yn unig maer contractwyr yn cael eu dewis mewn ffordd deg, maent yn cynyddu鈥檙 buddion ir gymuned leol, cynnal datblygiad economaidd a darparu adeiladau syn gadarn yn amgylcheddol wrth greu swyddi a phrentisiaethau. Dywedodd John OCallaghan, Rheolwr Gyfarwyddwr Kier Construction Northern: 鈥淢ae Kier yn falch o gael eu dewis fel y contractwr i foderneiddio Ysgol Uwchradd Cei Connah ac rydym yn hyderus y byddwn yn darparur amgylchedd dysgu 芒r gwerth gorau ac syn ysbrydoli, gan ddarparu buddion cymunedol gan gynnwys cyflogaeth leol a hyfforddiant.鈥 Or chwith: Cyng Bernie Attridge, Damian Hughes - Cyngor Sir y Fflint, Cyng Aaron Shotton, Dylan Wyn Jones - Kier, Bob Adams - Kier, Martin White, Cyng Chris Bithell ac Ann Peers