每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Digwyddiad Siopa Nadolig Cyfeillgar i Ddementia

Published: 08/12/2016

Mae tref yn Sir y Fflint yn gwahodd preswylwyr i ddigwyddiad siopa Cyfeillgar i Ddementia鈥, sy鈥檔 cael ei gynnal ddydd Iau 15 Rhagfyr. Bydd busnesau lleol, gyda chymorth Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint a Grwp Llywio Cyfeillgar i Ddementia y Fflint, yn agor drysau eu siopau ar y Stryd Fawr i roi cyfle i drigolion sydd 芒 dementia, yn ogystal 芒鈥檜 gofalwyr a鈥檜 teuluoedd, i siopa mewn awyrgylch sy鈥檔 gyfeillgar i ddementia. Bydd Eglwys Blwyf y Santes Fair a Dewi Sant yn cynnal amrywiaeth o ddathliadau Nadoligaidd, gan gynnwys carolau gan G么r Cymorth i Ddynion a Merched Oed Gweithio (SWAG) a Ch么r Merched y Fflint, a bydd gwirfoddolwyr yn gweini mins peis a lluniaeth arall. Ar 么l cyrraedd, ewch at y gwirfoddolwyr mewn hetiau Si么n Corn - mi fydd ganddyn nhw fap a gwybodaeth am y siopau syn cymryd rhan. Am fwy o wybodaeth ffoniwch Luke Pickering-Jones ar 01352 702655.