每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Stori anhygoel caffi Dementia

Published: 01/12/2016

Rhoddodd caffi dementia yn Sealand sylw haeddiannol i brosiect gwerth chweil a ariennir gan Cymunedau鈥檔 Gyntaf yn eu cyfarfod misol yn ddiweddar. Mae鈥檙 prosiect rhyng-genhedlaeth sy鈥檔 cael ei redeg gan RMD Memory Matters yn cyflwyno 鈥淵 Stori Fythol鈥 (鈥淣ever Ending Story鈥) seiliedig ar ddychymyg ac atgofion gan weithio gyda phobl sy鈥檔 byw gyda dementia, eu gofalwyr a phlant ysgol. Meddai Donna Redgrave o RMD- Memory Matters, sydd wedi bod yn gweithio gyda disgyblion o ysgol Uwchradd y Fflint ac Ysgol Gynradd Sealand: 鈥淢ae RMD 鈥 Memory Matters yn credu y gall y celfyddydau chwarae rhan arwyddocaol o ran helpu pawb sydd wedi鈥檜 heffeithio gan ddementia i fyw yn dda. Gall y celfyddydau hefyd fod yn fodd o wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth pobl o鈥檙 cyflwr a dod 芒 chymunedau at ei gilydd. Rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau creadigol, hyfforddiant a chefnogaeth ar gyfer pobl sy鈥檔 byw efo dementia, eu gofalwyr a鈥檙 gymuned ehangach. 鈥淢ae disgyblion, athrawon a staff cefnogi鈥檙 ysgolion yn cwblhau sesiwn 鈥楥yfeillion Dementia鈥 sy鈥檔 eu cyflwyno nhw i heriau byw efo dementia. Yn dilyn hynny bydd grwp o fyfyrwyr yn gweithio gyda mi ar sesiwn 鈥楽tori Fythol鈥. Yn y cyfarfod diweddar yng Nghaffi Dementia Sealand daeth disgyblion Ysgol Gynradd Sealand draw i rannu sesiwn Stori Fythol gyda phobl sy鈥檔 byw gyda dementia a鈥檜 gofalwyr. Bydd sesiwn debyg yn cael ei chynnal yng Nghaffi Cof y Fflint gyda disgyblion Ysgol Uwchradd y Fflint ar 5 Rhagfyr. Mae gan Caffi Dementia Sealand d卯m o wirfoddolwyr ymroddedig ond caiff y caffi ei redeg yn bennaf gan drigolion lleol a mamau ifanc. Meddai Hayley Wilson, Cadeirydd y Pwyllgor: 鈥淢ae鈥檙 caffi wedi bod ar agor ers tua phum mis ac mae 鈥榥a ymdeimlad o gymuned ac ysbryd t卯m go iawn yno. Rydym wrth ein bodd fod ein gwaith caled yn talu ar ei ganfed drwy lwyddiant cynyddol ein caffi. Hoffwn annog mwy o wirfoddolwyr a phobl 芒 dementia a鈥檜 gofalwyr i ddod draw i鈥檔 caffi a darganfod lle mor wych ydi o, a hefyd pa gefnogaeth sydd ar gael. Mae鈥檙 caffi ar agor unwaith y mis, bob pedwerydd dydd Llun, rhwng 1-3pm yng Nghanolfan Gymunedol St Andrew yn Garden City.鈥 Meddai鈥檙 Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint: Dw鈥 i wrth fy modd fod y caffi鈥檔 gymaint o lwyddiant ac mae鈥檔 wych cael mewnbwn Donna sydd wedi bod yn allweddol o ran lledaenu鈥檙 gair i gynulleidfa ehangach a chynnwys sawl cenhedlaeth yn y prosiect rhagorol hwn. Heb arian Cymunedau鈥檔 Gyntaf efallai na fyddai hyn wedi bod yn bosibl.鈥 Mae Caffis Dementia鈥檔 llefydd diogel, cyfforddus a chefnogol i bobl 芒 dementia a鈥檜 gofalwyr gymdeithasu. Nid yn unig hynny, yn ddiweddar, pan oedd yng Nghaffi Dementia Sealand efo鈥檌 wraig Gill, fe wnaeth Richard Benyon gyfarfod hen gyfaill nad oedd wedi ei weld ers 66 o flynyddoedd. Meddai Gill: 鈥淧ryd bynnag yr oedd Richard yn siarad am yr hen ddyddiau, roedd o bob amser yn s么n am ffrind o鈥檌 blentyndod, Peter Sumner, ac roedd o wirioneddol isio ei gyfarfod o eto. Roedd Richard yn arfer mynd drosodd i Feithrinfa Bee ar y fferi oedd yn cysylltu Cymru a Lloegr, cyn i鈥檙 bont gerdded gael ei hadeiladu, ac roedd Peter yn byw yn Fferm Thornleigh ac roedd y ddau鈥檔 mynd i鈥檙 ysgol efo鈥檌 gilydd tan oedden nhw鈥檔 11 oed. Roeddwn i wedi fy syfrdanu cyfarfod cwpl arall mewn sesiwn Caffi Dementia diweddar a ddywedodd eu bod nhw鈥檔 nabod rhywun o鈥檙 enw Peter Sumner, felly mi nes i gysylltu ag o, fo oedd y person cywir ac mi wnes i ei wahodd o i ddod yma heddiw, a dyma nhw. Dwi鈥檔 teimlo鈥檔 emosiynol iawn fod Richard wedi gallu cyfarfod hen gyfaill a chymaint o amser wedi mynd heibio ers iddyn nhw weld ei gilydd, ac mae鈥檙 diolch i gyd i鈥檙 grwp yma 鈥 dwi鈥檔 ddiolchgar dros ben iddyn nhw i gyd.鈥 Yn ogystal 芒 chynnig amrywiaeth o weithgareddau hwyliog a difyr mae鈥檙 Caffi Dementia yn rhoi cyfle i ofalwyr a phobl 芒 dementia gael gwybodaeth a chyngor ac i siarad efo pobl eraill sydd 芒 phroblemau tebyg. I gael rhagor o wybodaeth am y caffi, cysylltwch 芒 Hayley Wilson: hayleycj6@gmail.com neu ffoniwch Luke Pickering-Jones yng Nghyngor Sir y Fflint ar 01352 702655. Richard Benyon (ar y dde) a Peter Sumner - gyda鈥檌 gilydd unwaith eto ar 么l 66 o flynyddoedd!