每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Clwb Swyddi yn lansio yn yr Wyddgrug

Published: 10/11/2016

Bydd Clwb Swyddi yr Wyddgrug yn cynnal eu sesiwn gyntaf ddydd Mercher 30 Tachwedd yn Llyfrgell yr Wyddgrug rhwng 10am a 12 hanner dydd. Maer Clwb yn cael ei gynnal gan Gymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint ac mae鈥檙 lansiad hwn yn dilyn llwyddiant y clybiau swyddi, a gefnogir hefyd gan Gymunedau yn Gyntaf, yn Llyfrgell Treffynnon, Cei Connah, a鈥檙 Fflint, Campws Cymunedol John Summers a Chyngor ar Bopeth Cei Connah. Maer Clwb yn agored i unrhyw un a gallwch alw heibio a chael: 路 Cymorth a chefnogaeth i chwilio am swyddi a gwneud cais 路 Cyngor gyda CVs a chyfweliadau 路 Cyfle i ddarganfod pa gyfleoedd dysgu a gweithgareddau sydd ar gael yn yr ardal, a 路 Gwybodaeth am yr asiantaethau cefnogi Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Ddatblygu Economaidd: 鈥淢ae Cymunedau yn Gyntaf yn Sir y Fflint yn parhau i weithion galed ar draws y sir i roi cymorth ir rhai sydd angen help wrth iddynt chwilio am gyflogaeth addas yn y farchnad swyddi heddiw. Byddwn yn annog pobl i alw heibio a gweld beth sydd gan y clwb swyddi yn yr Wyddgrug iw gynnig. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Teresa Allen ar 01244 846090.