Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Grwp Gorchwyl Amgylcheddol Glannau Dyfrdwy
Published: 14/11/2016
Ar 15 Tachwedd bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn ystyried adroddiad ar
ganfyddiadau Grwp Gorchwyl Amgylcheddol Glannau Dyfrdwy.
Sefydlwyd y grwp i wella glanweithdra coridor Glannau Dyfrdwy rhwng rheilffordd
arfordir gogledd Cymru ar B5129. Ers sawl blwyddyn mae鈥檙 ardal hon, sydd
bennaf yn cynnwys tai teras a lonydd cul sy鈥檔 cysylltu 芒鈥檙 rhwydwaith ffyrdd
lleol, wedi ei difetha gan lefelau uchel o sbwriel a thipio anghyfreithlon.
Maer adroddiad yn manylu ar ganlyniadau prosiect peilot sydd wedi bod ar waith
ers mis Tachwedd 2015 i geisio glanhaur ardal. Mae鈥檙 adroddiad hefyd yn
cynnwys cynnig i gyflwyno camau gorfodi yn erbyn trigolion syn parhau i
anwybyddur cyngor a ddarparwyd ac yn gwaredu eu gwastraff mewn modd
anystyriol.
Cyflwynwyd y prosiect peilot yn dilyn derbyn pryderon a chwynion gan bobl leol
ynglyn 芒 thipio anghyfreithlon a sbwriel yn yr ardal. Dechreuodd y prosiect
drwy lanhau鈥檙 ardal yn sylweddol ac yna cynnal patrolau dyddiol rheolaidd, ac
yn y 12 mis diwethaf mae cyfanswm o 92 tunnell o sbwriel a malurion eraill wedi
eu cludo o鈥檙 ardal.
Diben y cam cychwynnol hwn oedd cadwr strydoedd yn l芒n, annog pobl i ymfalch茂o
yn eu hardal a lleihau troseddau taflu sbwriel a thipio anghyfreithlon.
Yn ogystal, ymwelwyd 芒 phob eiddo yn yr ardal beilot i sicrhau bod trigolion yn
deall eu trefniadau casglu gwastraff ac effaith rhoi eu gwastraff allan ar
ddiwrnodau eraill. Cafodd preswylwyr nad oedden nhw鈥檔 cydymffurfio 芒 hyn eu
hatgoffa or weithdrefn gywir ac yn ystod cyfnod y cynllun peilot cyflwynwyd
dros 300 o lythyrau rhybudd i drigolion lleol.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros
yr Amgylchedd:
鈥淢aer prosiect llwyddiannus hwn bellach yn tynnu i鈥檞 derfyn. Heb amheuaeth mae
wedi gwella ansawdd yr amgylchedd ond mae cost clirio sbwriel ac eitemau sy鈥檔
cael eu tipio yn anghyfreithlon yn dal yn anghynaladwy. Rydym ni wedi ymrwymo i
wellar amgylchedd lleol er mwynhad pob un on trigolion a rwan mae arnom ni
angen cymryd camau mwy ffurfiol yn erbyn y gyfran fechan o drigolion syn
parhau i ymddwyn mewn ffordd anystyriol, er mwyn sicrhau bod yr ardal yn cael
ei chadwn l芒n ac yn daclus er lles pawb.鈥
Maer adroddiad yn cynnig cyflwyno camau gorfodi a fyddain defnyddio pwerau
dan Ddeddf Diogelur Amgylchedd 1990. Byddai Hysbysiadau Cosb Benodedig yn cael
eu cyflwyno i drigolion am droseddau fel taflu sbwriel a rhoi eu gwastraff
allan ar y diwrnod anghywir. Maer adroddiad hefyd yn gofyn am gymeradwyaeth i
ymestyn y prosiect peilot i ardaloedd eraill yn y sir sy鈥檔 profi problemau
tebyg.