每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2022/23 a Chynllun Busnes

Published: 11/02/2022

Ddydd Mawrth, 15 Chwefror, bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2022/23 a Chynllun Busnes Ariannol drafft 30 mlynedd y Cyfrif Refeniw Tai.听

Mae Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai yn cynnwys atgyweirio a chynnal cartrefi鈥檙 Cyngor, gwaith gwella gan gynnwys gwelliant amgylcheddol, rheoli cymdogaeth gan gynnwys mynd i鈥檙 afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, gofalu am yst芒d, casglu incwm a chyfranogiad cwsmeriaid ar gyfer ei 7,300 o gartrefi Cyngor, hefyd mae'n cynnwys rhaglen adeiladu tai cyngor uchelgeisiol.听

Yr opsiwn a argymhellwyd ar gyfer rhenti yn 2022/23 fyddai rhoi codiad cyffredinol o 1.18% i bob tenant, ac yn ychwanegol, rhoi codiad pontio o 拢2 i denantiaid sy鈥檔 talu o leiaf 拢3 o dan y targed rhent. Mae hyn yn gyfwerth 芒 chynnydd rhent cyffredinol o 2%.

Mae disgwyl i renti garejis gynyddu 20c yr wythnos i 拢10.23 yr wythnos (yn seiliedig ar 52 wythnos). Mae disgwyl i鈥檙 rhent am ddarn o dir ar gyfer garej gynyddu 3c yr wythnos gan fynd ag o i 拢1.66 yr wythnos.

Mae polisi rhent a th芒l gwasanaeth Llywodraeth Cymru yn disgwyl i bob landlord cymdeithasol gyflawni鈥檙 gost lawn.听 Mae Sir y Fflint wedi bod yn gweithio tuag at hyn.听 Fodd bynnag, ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, yr un fath 芒鈥檙 un ddiwethaf, cynigir rhewi costau gwasanaeth.听 Bydd hyn yn diogelu tenantiaid sy鈥檔 wynebu anhawster ariannol o ganlyniad i Covid-19.

Mae鈥檙 cyd-destun ar gyfer gosod cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai eleni yn cynnwys:

鈥 Sicrhau bod fforddiadwyedd i鈥檔 tenantiaid yn greiddiol i鈥檔 hystyriaethau

鈥 Ymdrech barhaus i sicrhau bod yr holl gostau gwasanaeth yn effeithlon ac y gellir cyflawni gwerth am arian

鈥 Sicrhau bod y strategaeth rheoli'r trysorlys yn parhau i fodloni gofynion benthyca newydd a pharhaus y Cyngor

鈥 Gosod cyllideb fantoledig gydag o leiaf 4% o refeniw dros ben dros wariant

鈥 Gwneud y mwyaf o effeithlonrwydd refeniw er mwyn lleihau'r benthyca sy'n ofynnol i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru听

鈥 Adeiladu tai Cyngor newydd听

鈥 Ymdrech barhaus i sicrhau bod cartrefi yn effeithlon o ran ynni ac edrych ar ddatgarboneiddio

鈥 Darparu cyfalaf parhaus digonol i gynnal lefelau Safon Ansawdd Tai Cymru

Meddai鈥檙 Cynghorydd Dave Hughes, Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint:

鈥淢ae ychydig dros 拢17.2 miliwn wedi ei ganiat谩u ar gyfer y rhaglen gwella tai cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/23, mae hyn yn cynnwys rhaglenni amgylcheddol, addasiadau ar gyfer bobl anabl a gwaith arbed ynni.听

鈥淵n ogystal, mae yna ychydig dros 拢7.8 miliwn ar gael ar gyfer cynlluniau adeiladu tai鈥檙 Cyngor i sicrhau bod mwy o dai cyngor yn cael eu hadeiladu.听 Gyda鈥檌 gilydd mae鈥檙 rhaglenni gwaith hyn yn gyfwerth 芒 chyfanswm buddsoddiad o dros 拢25 miliwn.鈥