Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gweithdai Uwchgylchu a Sesiynau Trwsio Refurbs
Published: 03/02/2022
Cafodd y Ganolfan Atgyweirio ac Ailddefnyddio, sy鈥檔 cynnwys Caffi Cyfle yng nghanol tref Bwcle, menter rhwng Cyngor Sir y Fflint a Refurbs, ei hagor yn swyddogol ym mis Tachwedd gan Hannah Blythyn, AS a鈥檙 Dirprwy Weinidog ar gyfer Partneriaethau Cymdeithasol.
Yn y digwyddiad agoriadol, cynhaliodd yr arlunydd lleol, Jayne Hopwood y cyntaf o gyfres o weithdai uwchgylchu. Roedd y cyntaf yn cynnwys sut i wneud pwrs lledr, gan ddefnyddio hen ledr o鈥檙 prosiect datgymalu soffas a gafodd ei gynnal gan Refurbs yng Nghanolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref Cyngor Sir y Fflint yn Oakenholt.
Wrth edrych ymlaen at 2022, mae mwy o ddyddiadau wedi鈥檜 trefnu ar gyfer gweithdai ym mis Ionawr, Chwefror a Mawrth, a fydd yn cynnwys uwchgylchu gemwaith ffasiwn diangen a鈥檌 droi鈥檔 addurniadau a chreu clytwaith ac appliqu茅 i uwchgylchu defnydd. Ynghyd 芒鈥檙 gweithdai, mae sesiynau trwsio misol wedi鈥檜 cynllunio. Bydd hyn yn rhoi cyfleoedd i aelodau o鈥檙 gymuned ddod ag eitemau bach o鈥檜 cartref i鈥檙 caffi lle gallant ddysgu gan wirfoddolwyr medrus sut i鈥檞 trwsio a鈥檜 hadfer nhw.听
Rydym ni rwan yn chwilio am wirfoddolwyr o鈥檙 gymuned leol sydd efallai 芒 sgiliau yr hoffent eu rhannu ac sydd eisiau bod yn rhan o鈥檙 gweithdai a鈥檙 sesiynau trwsio. Rydym ni鈥檔 chwilio am wirfoddolwyr sydd 芒 sgiliau cyffredinol a gwybodaeth am bethau fel gwaith coed, trwsio pethau trydanol neu electronig, trwsio clociau neu oriorau a gemwaith, gwn茂o a gwaith defnydd i fod yn rhan o gynnal y sesiynau.听
Dywedodd y Cynghorydd Glyn Banks, Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd:
鈥淩ydym ni鈥檔 falch o gynnig canolfan mor unigryw a chyffrous yng nghymuned Bwcle gyda鈥檙 nod o leihau gwastraff, gan ddod 芒鈥檙 gymuned ynghyd hefyd.听
鈥淐yffrous iawn yw datblygu鈥檙 gweithdai atgyweirio ac ailddefnyddio a sicrhau bod ffyrdd eraill o drin eitemau diangen neu rai sydd wedi torri.
鈥淥s ydych chi鈥檔 chwilio am her newydd yn 2022 neu os ydych chi eisiau rhannu eich sgiliau a鈥檆h gwybodaeth gyda phobl eraill yn y gymuned, cofiwch gysylltu.鈥
Mae鈥檙 Ganolfan Atgyweirio ac Ailddefnyddio鈥檔 lle croesawgar a hamddenol ac mae鈥檙 caffi鈥檔 cynnig dewis o fwyd ffres a diodydd poeth i鈥檞 mwynhau yn y Ganolfan neu i fynd 芒 nhw gyda chi.
Os oes gennych chi ddiddordeb cymryd rhan ac os hoffech chi roi cynnig ar wirfoddoli mewn gweithdy neu sesiwn atgyweirio i rannu eich sgiliau a鈥檆h gwybodaeth, cysylltwch 芒 Hanna Clarke ar 01978 757524 / events@refurbs.org.uk听
Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am bopeth sy鈥檔 digwydd yng Nghanolfan Atgyweirio ac Ailddefnyddio Bwcle drwy fynd i www.refurbs.org.uk ac ein dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol.
听