Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Mae Growth Track 360 yn croesawu craffu ar yr Adolygiad o Gysylltedd yr Undeb
Published: 11/01/2022
Growth Track 360 yn croesawu鈥檙 ffaith bod Pwyllgor Materion Cymreig Ty鈥檙 Cyffredin yn craffu ar yr Adolygiad o Gysylltedd yr Undeb (Union Connectivity Review 鈥 UCR) ac yn galw ar ymrwymiad cyflym gan Lywodraeth y DU i weithredu argymhellion Syr Peter Hendy.
Heddiw, croesawodd arweinwyr busnes ac awdurdodau lleol o Ogledd Cymru, y Wirral a Gorllewin Swydd Gaer a Chaer ym mhartneriaeth Growth Track 360 bod Pwyllgor Materion Cymreig Senedd y DU wedi craffu ar yr Adolygiad o Gysylltedd yr Undeb (Union Connectivity Review - UCR) ddydd Mercher. Cynhaliwyd yr adolygiad gan Syr Peter Hendy CBE a chafodd ei gyhoeddi fis diwethaf.
Nododd adroddiad Syr Peter bod Trafnidiaeth Cymru a Growth Track 360 wedi bod yn datblygu cynlluniau ar gyfer:
- Metro aml-ddull yn y Gogledd a fydd yn cael ei alluogi drwy welliannau i Brif Linell Gogledd Cymru, gan gynnwys gwelliannau i gapasiti a chyflymder y llinell;
- Uwchraddio rhwng Wrecsam, Bidston a Lerpwl fel rhan o gysyniad Metro Gogledd Cymru;
- Gwelliannau i orsaf Caer fel hyb rhwydwaith rheilffordd rhanbarthol; a
- Rhyngwyneb gorsaf hyb HS2 Crewe i sicrhau manteisio i鈥檙 eithaf yn sgil HS2.
Roedd UCR yn cydnabod r么l amseroedd teithio cynt a chapasiti wrth gefnogi gwell cysylltiadau economaidd trawsffiniol a fydd yn hwyluso twf uwch cynaliadwy, swyddi, tai a chydlyniant cymdeithasol.
Yn y gwrandawiad ddydd Mercher, dywedodd Syr Peter Hendy wrth y Pwyllgor Materion Cymreig nad yw cysylltedd trawsffiniol wedi bod yn rhan o fuddsoddiad trafnidiaeth hyd yma, a bod angen symud ymlaen i鈥檙 Gogledd a Glannau Mersi, gan gynnwys trydaneiddio鈥檙 brif linell a chysylltiadau 芒 HS2 a fydd bellach yn bendant yn cyrraedd Crewe. Aeth ymlaen i alw am ddiystyru ffin Cymru-Lloegr at ddibenion buddsoddi mewn trafnidiaeth, gan ychwanegu nad oedd yn gweld dim ond manteision o sicrhau鈥檙 pecyn buddsoddi cywir ym Mhrif Linell Gogledd Cymru.
Mewn cyfweliad gyda鈥檙 Pwyllgor, dywedodd Chris Heaton Harris AS, Gweinidog Rheilffyrdd y DU a David T.C. Davies AS, Gweinidog y Swyddfa Gymreig, bod yr UCR yn gynllun da i weithio iddo nawr. Cadarnhawyd fod Trafnidiaeth Cymru eisoes wedi cyflwyno cynnig i gronfa ddatblygu UCR ar gyfer gwelliannau i orsaf Caer, Prif Linell Arfordir Gogledd Cymru a gorsaf Shotton, lle mae Prif Linell Wrecsam i Bidston a Phrif Linell Arfordir Gogledd Cymru yn croesi ar draws ei gilydd. Cadarnhaodd Gweinidogion y DU y bydd ymateb ffurfiol i鈥檙 UCR yn cael ei gyhoeddi yn fuan.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Louise Gittins, Cadeirydd Growth Track 360 ac Arweinydd Cyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer:
鈥淩oedd adroddiad ymchwil trylwyr Syr Peter Hendy yn cydnabod bod ein heconomi trawsffiniol yn bodoli ac yn cydnabod r么l trafnidiaeth well, gynaliadwy wrth ddatgloi ei botensial llawn ar gyfer y bobl sy鈥檔 byw a gweithio yno.听 Mae鈥檔 hanfodol bod Llywodraeth y DU yn derbyn ei argymhellion yn llawn, yn cyllido鈥檙 gwaith datblygu sydd ei angen ac yna鈥檔 cydweithio ar unwaith gyda Trafnidiaeth Cymru a Network Rail i roi ein prosiectau blaenoriaeth ar waith gyda chyllid cyfalaf.鈥
Meddai鈥檙 Cynghorydd Ian Roberts, Is-gadeirydd Growth Track 360 ac Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
鈥淢ae鈥檙 dystiolaeth gennym yn awr bod cysylltedd rhwng Cymru a Lloegr wir yn flaenoriaeth. Mae ein heconomi trawsffiniol yn cael ei ddal yn 么l gan ddegawdau o ddiffyg buddsoddi yn ein rheilffyrdd. Nid yw buddsoddi mewn seilwaith rheilffyrdd wedi鈥檌 ddatganoli, sy鈥檔 golygu mai dim ond Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU all gyllido鈥檙 buddsoddiadau a argymhellir gan UCR. Rydym yn erfyn ar ASau ar draws y pleidiau ac o bob etholaeth yn ein rhanbarth, yng Nghymru ac yn Lloegr, i bwyso ar Lywodraeth y DU i ryddhau cronfeydd datblygu ac yna鈥檙 buddsoddiad cyfalaf sydd ei angen ar Trafnidiaeth Cymru a Network Rail er mwyn gwireddu ein gweledigaeth o ran trafnidiaeth gynaliadwy.鈥澨
听