Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Growth Track 360 yn croesawu cydnabyddiaeth gan Union Connectivity Review o Ogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr fel economi trawsffiniol integredig iawn a鈥檌 gefnogaeth i raglen gwella trafnidiaeth
Published: 07/12/2021
Heddiw, croesawodd arweinwyr busnes ac awdurdodau lleol o Ogledd Cymru, y Wirral a Gorllewin Swydd Gaer a Chaer yn y bartneriaeth Growth Track 360 y cyhoeddiad gan Adran Drafnidiaeth y DU ac Union Connectivity Review (UCR), gyda Syr Peter Hendy CBE yn Gadeirydd.
Gofynnodd Llywodraeth y DU i Syr Peter gynnal arolwg manwl ar sut y gall cysylltedd trafnidiaeth ledled y DU gefnogi twf economaidd ac ansawdd bywyd yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon ac i wneud argymhellion ar y ffordd orau o wella cysylltedd trafnidiaeth rhwng cenhedloedd y DU. Gwnaeth Growth Track 360 gyflwyniad ysgrifenedig i鈥檙 UCR ym mis Ionawr a chroesawodd yr adroddiad dros dro ym mis Mawrth a gwnaeth gyflwyniadau ysgrifenedig pellach ar 么l cyhoeddi Cynllun Rheilffyrdd Integredig Adran Drafnidiaeth y DU ar gyfer Gogledd a Chanolbarth Lloegr ar 18 Tachwedd 2021.
Mae adroddiad terfynol heddiw yn gwneud 19 o argymhellion i Lywodraeth y DU a rhif 7 yw鈥檙 mwyaf perthnasol i ranbarth economaidd trawsffiniol Gogledd Cymru a Mersi a鈥檙 Ddyfrdwy a wasanaethir gan Growth Track 360:听
鈥淕weithio gyda Llywodraeth Cymru i gynnal adolygiad amlfodd o goridor trafnidiaeth Gogledd Cymru, a datblygu pecyn o welliannau sy鈥檔 canolbwyntio ar Brif Linell Gogledd Cymru (gan gynnwys gwell cysyllted 芒 HS2 a thrydaneiddio), yr A55, yr M53 , yr M56 a theithio ymlaen i ac o ynys Iwerddon.鈥
Mae argymhelliad Rhif 18 yn ychwanegu galwad benodol am well cysylltedd i borthladdoedd ledled y DU drwy wella cysylltiadau cludo nwyddau ar y rheilffyrdd.
Mae鈥檙 UCR yn derbyn thema bwysig o holl waith ymgyrchu Growth Track 360 drwy gydnabod presenoldeb meysydd economaidd trawsffiniol hynod integredig a sylweddol yn y DU sydd ag anghenion trafnidiaeth unigryw gyda niferoedd sylweddol o gymudwyr trawsffiniol neu lifau cludo nwyddau rhanbarthol rheolaidd (tud 30). Un o鈥檙 cyfryw ranbarthau yw ein rhanbarth ni, sy鈥檔 cynnwys Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr, ac ar adeg cyfrifiad 2011, roedd 25% o weithwyr yn croesi鈥檙 ffin i weithio a lle mae mynediad o Ogledd Cymru i byrth rhyngwladol yn Lloegr fel Maes Awyr Manceinion yn bwysig dros ben. Yn 2019, symudodd 1.9 miliwn o bobl a 5.3 miliwn tunnell o nwyddau drwy borthladd Caergybi i ac o Iwerddon.
Mae adroddiad Syr Peter Hendy yn nodi bod Trafnidiaeth Cymru a Growth Track 360 wedi bod yn datblygu cynlluniau ar gyfer Metro amlfodd yng Ngogledd Cymru a gwelliannau i Brif Linell Gogledd Cymru, gan gynnwys gwaith ar gyflymder y llinell a gwelliannau mewn capasiti ac uwchraddio鈥檙 llinell rhwng Wrecsam, Bidston a Lerpwl, gwelliannau i orsaf Caer a hyb rhyngwyneb yn Crewe i sicrhau鈥檙 manteision mwyaf i HS2 (tud 47). Mae鈥檙 UCR yn cydnabod r么l amseroedd teithio cynt a gwell capasiti i gefnogi gwell cysylltiadau economaidd trawsffiniol a fydd yn hwyluso cydlyniant cymdeithasol, tai, swyddi a thwf cynaliadwy cynyddol.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Louise Gittins, Cadeirydd Growth Track 360 ac Arweinydd Cyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer:
鈥淵n ei adroddiad i Lywodraeth y DU, mae Syr Peter Hendy wedi derbyn y dadleuon sylfaenol allweddol ar gyfer ymgyrch Growth Track 360 drwy gydnabod presenoldeb ein heconomi trawsffiniol a r么l gwell trafnidiaeth gynaliadwy, ddatblygedig i ddatgloi鈥檙 potensial llawn ar gyfer y bobl sy鈥檔 byw a gweithio yma ynghyd 芒鈥檙 wlad yn gyffredinol.鈥
Meddai鈥檙 Cynghorydd Ian Roberts, Is-gadeirydd ac Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
鈥淢ae鈥檔 hanfodol nad yw Union Connectivity Review yn dod yn adroddiad arall sy鈥檔 hel llwch. Mae adferiad economaidd ar 么l y pandemig yn ein rhanbarth trawsffiniol angen yr hwb y bydd buddsoddiad yn ein rhwydwaith rheilffyrdd yn ei ddarparu. Rydym yn annog Llywodraeth y DU i ryddhau鈥檙 cronfeydd datblygu sydd eu hangen ar Trafnidiaeth Cymru a Network Rail er mwyn rhoi ein prosiectau blaenoriaeth at waith.鈥
听