Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwaith gwelliannau amgylcheddol ar eglwys yn Y Fflint
Published: 08/11/2016
Cafodd y gwaith ar Gam 2 o waith gwelliannau amgylcheddol ir ardal o amgylch
Eglwys Plwyf y Santes Fair a Sant Dewi ar Stryd yr Eglwys Y Fflint, ei atal
dros dro yn ddiweddar tra bod archeolegwyr o Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd
Powys (CPAT) yn cael y cyfle i astudio nifer o ddarganfyddiadau a ddatgelwyd
gan y gwaith.
Maer safle yn dyddio or canol oesoedd yn fuan ar 么l i鈥檙 dref gael ei sefydlu
gan Edward I yn y 1280au, ond cafodd yr eglwys ei hun ei hadeiladu yng nghanol
yr 19 ganrif.
Maer gwaith presennol yn cael ei gynnal ar dir a fu unwaith yn fynwent, ac mae
tystiolaeth o sawl bedd wedi cael eu darganfod, gan gynnwys un oedd yn cynnwys
rhan o ysgerbwd. Mae crochenwaith a ganfuwyd yn y bedd yn awgrymu y gallai fod
yn dyddio or 18fed ganrif. Mae鈥檙 gweddillion a gafodd eu symud yn ofalus gan
archeolegwyr bellach wedi cael eu hail gladdu.
Dywedodd Derek Butler, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Ddatblygu
Economaidd:
鈥淢aer prosiect i wella golwg yr ardal o amgylch yr Eglwys yn Y Fflint yn rhan
o raglen adfywio ehangach y Cyngor ar gyfer y dref. Bydd ymddangosiad ffisegol
y dref yn cael ei wellan aruthrol drwy fuddsoddi mewn tai a chyfleusterau
cymunedol newydd, gwella blaenau siopau, a pharth cyhoeddus sy鈥檔 fwy deniadol.
Mae hanes unigryw Y Fflint wedi bod yn ystyriaeth bwysig drwy gydol y broses,
ac mae鈥檙 darganfyddiadau hyn yn ffurfio pennod gyffrous arall yn natblygiad y
dref.鈥
Mae鈥檙 Eglwys yn ward y Cynghorydd Ian Roberts, a ddywedodd:
鈥淓r bod pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau bod y Contractwyr yn cwblhau
Cam 2 o鈥檙 gwaith gwelliannau amgylcheddol ar amser, maen rhaid rhoi parch
dyledus i鈥檙 olion archeolegol hynafol a ddarganfuwyd yn yr hen fynwent.
鈥淢ae gwaith yn parhau ar y waliau cynnal ar 么l newid bychan yn y dyluniad yn
sgil darganfod yr olion archeolegol hyn, ac mae鈥檙 cynllun yn mynd rhagddo gyda
diwydrwydd dyladwy yn y tir cysegredig sydd o amgylch yr eglwys.鈥