Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dathlu Wythnos Genedlaethol Plannu Coed
Published: 03/12/2021
I ddathlu Wythnos Genedlaethol Plannu Coed a gweithio mewn partneriaeth 芒 Gwasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, mae EQUANS - Y brand newydd ar gyfer gweithgareddau a gwasanaethau adfywio ENGIE - wedi rhoi 50 o goed sydd wedi cael eu plannu yng Nghei Connah a Shotton.
Mae鈥檙 rhodd yn rhan o ymrwymiad gwerth cymdeithasol EQUANS yn dilyn cwblhau鈥檙 ffermydd solar gwerth 拢3.1m ar safleoedd tirlenwi Crumps Yard a Fflint. Bydd y fferm solar, a gwblhawyd ym mis Chwefror 2021, yn cynhyrchu mwy na 3487MWh o drydan y flwyddyn, yn ogystal ag arbed mwy na 800 tunnell o CO2 y flwyddyn.
Roedd gan y cwmni hefyd 11 aelod o staff wrth law i blannu鈥檙 coed gyda chymorth ceidwaid cefn gwlad Sir y Fflint a chynrychiolwyr o Lwybr Arfordir Cymru.听
Roedd y diwrnod yn llwyddiant mawr er gwaethaf y tywydd.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Johnson, Aelod Cabinet Cyllid a Gwerth Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:听
鈥淢ae鈥檔 braf gweld ein partneriaid yn cefnogi ein cymuned leol yn y ffordd hon fel rhan o鈥檜 hymrwymiad i werth cymdeithasol.听 Mae coed yn rhan bwysig o fynd i'r afael 芒'r newid yn yr hinsawdd a llygredd aer, yn ogystal 芒 chyfrannu at greu amgylchedd mwy naturiol mewn ardaloedd trefol i roi gwell ymdeimlad o les i bob un ohonom. Rydym i gyd yn gwybod, wrth i ni blannu mwy o goed, ein bod yn darparu cynefin hanfodol i adar a phryfaid sydd yn rhan bwysig iawn o fioamrywiaeth ein sir.鈥澨
Dywedodd Barry Tayburn, Pennaeth Ynni ac Arloesiad EQUANS:
鈥淢ae鈥檔 wych cael bod yn rhan o weithgareddau fel hwn gyda Chyngor Sir y Fflint a鈥檌 bartneriaid, gan gyfuno gwerth cymdeithasol gyda chynaliadwyedd, dau o鈥檔 prif flaenoriaethau.
鈥淒iolch i bawb am eich gwaith caled yn y gwynt a鈥檙 glaw, gyda鈥檔 gilydd rydym wedi gwneud cyfraniad sylweddol i fywyd gwyllt lleol, wedi gwella ansawdd aer yn ein cymunedau.鈥
听

Ceidwad Cefn Gwlad Sir y Fflint, Mike Taylor, gyda th?m EQUANS