Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Adborth cadarnhaol i Sir y Fflint
Published: 25/11/2021
Yn ddiweddar, mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi cyhoeddi ei Adroddiad Trosolwg Cenedlaethol ar gyfer Archwiliadau Sicrwydd ac mae Sir y Fflint wedi cael adborth cadarnhaol mewn sawl maes.
Cynhaliwyd archwiliadau sicrwydd ar bob awdurdod lleol yng Nghymru rhwng mis Medi 2020 a mis Gorffennaf 2021. Y meysydd sy鈥檔 cael eu crybwyll yn arbennig yw:
- Ein gwefan Taliadau Uniongyrchol lle鈥檙 oedd yr adroddiad yn nodi ein bod wedi bod yn arloesol, oherwydd bod ein gwefan yn 鈥測mwneud yn benodol 芒 thaliadau uniongyrchol a chynorthwywyr personol. Mae cofrestr yn ceisio helpu dinasyddion a鈥檜 teuluoedd i chwilio am gynorthwywyr personol ac fel arall, yn ogystal 芒 鈥渉ysbysebu鈥 am gynorthwywyr personol i ddatblygu eu sgiliau.鈥
- Ein cefnogaeth ar gyfer gweithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso a nododd eu bod wedi cael eu cefnogi a鈥檜 sefydlu鈥檔 effeithiol.
- Mor芒l cadarnhaol gan staff a chefnogaeth rheolwyr 鈥 mae ein gweithwyr yn gwerthfawrogi鈥檙 hyblygrwydd wrth reoli eu cydbwysedd gwaith a bywyd, gan gynnwys darparu ar gyfer addysgu plant gartref.
- Ein cymorth wedi鈥檌 dargedu i oedolion gydag adnoddau cam-i-fyny/cam-i-lawr a chymunedol ar gael i gefnogi pobl; roedd hyn yn cynnwys gweithwyr dementia arbenigol, y gallu i gael gafael ar gyfarpar yn amserol, m芒n addasiadau, a thechnoleg gynorthwyol. Clywsom hefyd fod y dull sy鈥檔 canolbwyntio ar atebion ym maes iechyd meddwl yn atal pobl rhag gorfod cael gwasanaethau mwy dwys.
- Cawsom ein canmol am ein dull darbodus o ddyrannu adnoddau, gan sicrhau bod y cymorth cywir ar gael ar yr adeg gywir. Mae hyn yn atal cynnydd mewn angen ac yn gwella ansawdd taith pobl drwy鈥檙 system iechyd a gofal cymdeithasol.
- Roedd cyfeiriad cadarnhaol at sut rydym ni鈥檔 rheoli cyfarpar i gefnogi pobl i fyw gartref trwy ein storfeydd ar y cyd 鈥 NEWCES (Gwasanaeth Cyfarpar Cymunedol Gogledd-ddwyrain Cymru) a ddisgrifiwyd fel darparu system gyflenwi effeithlon.
- Roedd gwaith dydd ar gael i ddefnyddiwr gwasanaeth 鈥 ymatebodd Sir y Fflint yn gadarnhaol i berson a ofynnodd am gynnydd yn ei phresenoldeb er mwyn iddi fanteisio ar ei chyfle i wneud 鈥済waith dydd鈥 ar 么l i鈥檙 cyfyngiadau gael eu llacio.
- Mae cofnodion cyfarfodydd plant sy'n derbyn gofal wedi鈥檜 hysgrifennu mewn ffordd hygyrch 鈥 mae cynnwys plant a phobl ifanc yn effeithiol mewn adolygiadau yn helpu i gynyddu eu cyfranogiad.
- Amlygwyd ein model maethu arloesol Mockingbird, lle mae un cartref maeth yn gweithredu fel hyb i ofalwyr maeth eraill gan gynnig seibiannau cysgu dros nos wedi鈥檜 cynllunio ar frys yn ogystal 芒 chyngor, hyfforddiant a chymorth. Mae gofalwyr maeth y cartref hyb yn darparu cymorth i rhwng chwech a 10 gofalwr maeth arall yn eu cymuned. Nod y rhaglen yw sicrhau bod lleoliad yn fwy sefydlog i鈥檙 plentyn a鈥檙 teulu maeth a鈥檜 helpu i feithrin cydberthnasau cryfach.
- Soniwyd am Hyb Cymorth Cynnar hefyd am ei ddull partneriaeth cadarnhaol, sydd yn fuddiol i blant a theuluoedd.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Christine Jones, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint:
鈥淓r nad yw鈥檔 syndod i mi bod Sir y Fflint wedi鈥檌 gydnabod am ei arloesedd a鈥檌 ymrwymiad i ddarparu amrywiaeth eang o gefnogaeth hanfodol a gwasanaethau gofalgar i鈥檔 preswylwyr, er hyn, mae鈥檔 bleser cael canmoliaeth a chydnabyddiaeth gan AGC. Mae hyn yn dyst i waith gwych ein staff a鈥檔 timau a鈥檙 partneriaethau agos a geir gyda chydweithwyr ar draws y rhanbarth.鈥