每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


 Cwmni Buddiannau Cymunedol (CBC) Beyond the Boundaries yn ail-gyflwyno gwasanaethau wyneb yn wyneb

Published: 16/11/2021

Wrth ddathlu Diwrnod Menter Gymdeithasol y DU Cenedlaethol wythnos ddiwethaf a chodi cyfyngiadau, a olygodd bod y sefydliad wedi datblygu cefnogaeth ar-lein i fuddiolwyr i gynnal cynnydd myfyrwyr, mae CBC Beyond the Boundaries wedi ail-gyflwyno eu rhaglenni wyneb yn wyneb o hyfforddiant a datblygiad yn Nhy Calon.听 听

Mae Ty Calon yn gyfleuster gwerth sawl miliwn a adeiladwyd ar safle cyn Ysgol Uwchradd John Summers yn Queensferry a ariannwyd gan Gyngor Sir y Fflint, Llywodraeth Cymru ac Undeb Rygbi Cymru gyda鈥檙 nod o wella cyfleusterau dysgu a chwaraeon cymunedol.

Mae salon Beyond the Boundaries yn cynnwys; codi a lliwio amrannau, amrannau clasurol a Rwsiaidd, lamineiddio aeliau, ewinedd acrylig a gel, trin gwallt, therapi cyfannol, cymorth cyntaf a hyfforddiant CPR.听

Mae'r myfyrwyr yn cael cyfle i ddysgu; sgiliau gwasanaethau i gwsmeriaid, trin arian, rhifedd a llythrennedd, magu hyder, profiad gwaith ystyrlon bywyd go iawn mewn salon go iawn a chefnogaeth barhaus ar 么l cwblhau'r cyrsiau achrededig.听

Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint, y Cynghorydd Christine Jones, a fynychodd y digwyddiad:

鈥淢ae gofal cymdeithasol yn wasanaeth sy鈥檔 wynebu llawer o bwysau. Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o'r ffordd mae mentrau cymdeithasol yn y sir yn datblygu gwasanaethau arloesol a ddylunnir i gefnogi rhai o aelodau mwyaf bregus y gymdeithas yn ogystal 芒 chefnogi oedolion sydd ag anableddau dysgu ac anawsterau dysgu.听 Mae Beyond the Boundaries wedi gweithio mewn partneriaeth 芒鈥檙 Cyngor ers y cychwyn yn 2017 i ddarparu hyfforddiant ystyrlon, cynyddu gallu personol a datblygu sgiliau trosglwyddadwy sydd eu hangen i gael cyflogaeth gynaliadwy.鈥

Dywedodd Jill Smith o Beyond the Boundaries:听

鈥淩ydym bob amser wedi mwynhau perthynas wych gyda Chyngor Sir y Fflint. Nid yn unig fel darparwr gwasanaethau ond hefyd ar gyfer y cymorth i fusnesau a ddarperir i fentrau cymdeithasol ledled y sir.鈥

BYB Launch ty calon.jpg

Neil Ayling - CSFflint, Jill Smith - Beyond the Boundaries CIC, Lauren Worthington, Cyng Christine Jones, Michelle Bray, Mike Dodd - CSFflint, Alison Jones