每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cwestiynau Cyffredin am Streic Arriva

Published: 12/11/2021

Rydw i鈥檔 defnyddio gwasanaethau Arriva i deithio bob dydd, a fydd hyn yn effeithio ar fy nhrefniadau teithio?

Mae Arriva Gogledd Cymru wedi cadarnhau eu bod yn gweithio鈥檔 galed i osgoi gweithredu diwydiannol ac, er eu bod yn parhau i gymryd rhan mewn trafodaethau gyda鈥檜 partneriaid yn yr undebau llafur a鈥檜 bod wedi ymrwymo i ddod i gytundeb, os na fydd hynny鈥檔 digwydd, bydd gyrwyr bysiau Arriva Cymru mewn sawl depo, yn cynnwys Amlwch, Bangor, Penarl芒g (Caer), Llandudno, Rhyl a Wrecsam, yn mynd ar streic ddi-dor rhwng 0600 ddydd Sul 14 Tachwedd 2021 a 0100 ddydd Sul 19 Rhagfyr 2021.

Bydd y gweithredu diwydiannol yn effeithio ar holl wasanaethau bysiau Arriva yng Ngogledd Cymru a bydd angen i deithwyr sy鈥檔 talu am docyn wneud trefniadau amgen os na fydd eu gwasanaeth rheolaidd ar gael.听 Ni fydd hyn yn effeithio ar wasanaethau sy鈥檔 cael eu gweithredu gan gwmn茂au bysiau eraill a bydd y rheiny鈥檔 dal i fod ar gael fel arfer.

Mae fy mhlentyn yn gymwys i gael cludiant i'r ysgol, mae ganddo docyn Arriva ac mae鈥檔 teithio i鈥檙 ysgol a gartref ar wasanaeth Arriva, a fydd cludiant amgen yn cael ei ddarparu?

Rydym yn brysur yn cynllunio darpariaeth cludiant amgen i ddisgyblion ysgol cymwys. Byddwn yn cadarnhau trefniadau teithio amgen gyda鈥檙 rhieni a鈥檙 ysgolion y bydd hyn yn effeithio arnyn nhw.

Gall rhieni plant cymwys sydd heb dderbyn cadarnhad am ddarpariaeth cludiant amgen gysylltu 芒 school.transport@flintshire.gov.uk i gadarnhau trefniadau teithio.

Nid yw fy mhlentyn yn gymwys i gael cludiant i'r ysgol ac mae鈥檔 talu am docyn ar fws gwasanaeth Arriva i deithio i鈥檙 ysgol a gartref, a fydd darpariaeth amgen ar gael?

Na fydd, yn anffodus ni all y Cyngor gynnig darpariaeth cludiant amgen ar gyfer teithwyr sy鈥檔 talu am eu tocyn. I wneud hynny, byddai鈥檔 rhaid i鈥檙 Cyngor gofrestru鈥檙 daith fel gwasanaeth bws lleol gyda鈥檙 Comisiynydd Traffig, sy鈥檔 gofyn am 56 diwrnod o rybudd.听 Fel corff cyhoeddus, nid oes gennym hawl i gofrestru gwasanaethau bws 芒 chymhorthdal ar ffyrdd gwasanaethau bysiau masnachol sydd eisoes yn bodoli (os ydyn nhw鈥檔 gweithredu鈥檔 ddiwydiannol neu beidio) a gallem gael ein herio鈥檔 gyfreithiol gan weithredwyr masnachol pe baem yn gwneud hynny.

Yn ogystal 芒 hyn, gan ystyried y nifer posibl o wasanaethau bws Arriva y gallai hyn effeithio arnyn nhw, nid oes gan y Cyngor y capasiti sydd ei angen i gynnig darpariaeth amgen ar gyfer disgyblion sydd ddim yn gymwys.

Rwyf wedi sylwi bod yna le ar y cludiant amgen mae鈥檙 Cyngor yn ei ddarparu, a fydd fy mhlentyn i鈥檔 cael defnyddio鈥檙 cludiant hwnnw?

Na fydd. Yn anffodus, ni all y Cyngor gynnig darpariaeth cludiant amgen ar gyfer teithwyr sy鈥檔 talu am eu tocyn. Er bod cludiant amgen yn cael ei ddarparu ar gyfer disgyblion cymwys, nid yw'r Cyngor mewn sefyllfa i gynnig trefniadau cludiant amgen ar gyfer disgyblion sydd ddim yn gymwys. I wneud hynny, byddai鈥檔 rhaid i鈥檙 Cyngor gofrestru鈥檙 daith fel gwasanaeth bws lleol gyda鈥檙 Comisiynydd Traffig, sy鈥檔 gofyn am 56 diwrnod o rybudd.听 Fel corff cyhoeddus, nid oes gennym hawl i gofrestru gwasanaethau bws 芒 chymhorthdal ar ffyrdd gwasanaethau bysiau masnachol sydd eisoes yn bodoli (os ydyn nhw鈥檔 gweithredu鈥檔 ddiwydiannol neu beidio) a gallem gael ein herio鈥檔 gyfreithiol gan weithredwyr masnachol pe baem yn gwneud hynny.

Yn ogystal 芒 hyn, nid ydym yn cadw cofnod o nifer y teithwyr sy鈥檔 talu am eu tocyn (yn cynnwys disgyblion sy鈥檔 talu am eu tocyn) sy鈥檔 teithio ar wasanaethau bysiau Arriva ar draws y Sir, na lle maen nhw鈥檔 byw, a lle maen nhw'n teithio ohono ac i ble.听

Mae fy mhlentyn yn teithio i Goleg Cambria a gartref ar Wasanaeth Arriva ac mae wedi cael tocyn Arriva gan y Coleg, a fydd cludiant amgen yn cael ei ddarparu?

Na fydd, gan ystyried yr holl wasanaethau bysiau Arriva posibl sy鈥檔 gwasanaethu鈥檙 coleg y gallai hyn effeithio arnyn nhw, nid oes gan y Cyngor y capasiti sydd ei angen i gynnig darpariaeth amgen.听 Mae Coleg Cambria yn ymwybodol o鈥檙 gweithredu diwydiannol posibl a鈥檙 posibilrwydd y bydd hyn yn tarfu ar deithiau pobl ac rydym yn annog myfyrwyr sydd fel arfer yn defnyddio gwasanaethau Arriva i deithio i鈥檙 coleg a gartref i wneud trefniadau eraill ar gyfer yr wythnosau sydd i ddod.