每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llwyddiant Ffair Swyddi 

Published: 15/11/2021

Daeth dros 300 o bobl i Ffair Swyddi a gynhaliwyd yng nghanolfan Ty Calon yn Queensferry yn ddiweddar.

Roedd y digwyddiad yn cael ei gynnal gan Gymunedau am Waith ar y cyd 芒鈥檙 Ganolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru. Dyma鈥檙 ffair swyddi gyntaf i bob sector yn Sir y Fflint am bron i 2 flynedd.听听

Roedd y Ffair Swyddi wedi鈥檌 hanelu at oedolion a phobl ifanc sy鈥檔 chwilio am waith a bu鈥檔 gydweithrediad llwyddiannus arall.听听

Roedd 24 o stondinau yn y digwyddiad, gan gynnwys cyflogwyr oedd 芒 dros 200 o swyddi gwag. Ymysg y cyflogwyr roedd Toyota, KK Fine Foods, Westbridge Furniture, Cyngor Sir y Fflint, Ifor Williams a llawer mwy.

Daeth myfyrwyr o鈥檙 coleg lleol yno hefyd i gael gwybod mwy am opsiynau gyrfa a phrentisiaethau sydd ar gael.听

Yn ogystal ag ymgeisio am wahanol swyddi gwag oedd ar gael, roedd rhai oedd yn chwilio am waith yn gallu cyfarfod 芒 chyflogwyr a gofyn cwestiynau iddynt am y tro cyntaf ers dros 2 flynedd oherwydd y pandemig Covid. Roedd Cymunedau am Waith yno i gynnig cymorth cyffredinol am waith ac roedd pobl yn gallu cofrestru ar gyfer y rhaglen ar y diwrnod.听

Dywedodd y Cyng. Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint:

鈥淩oedd y digwyddiad yn llwyddiant mawr 鈥 daeth dros 300 o bobl drwy鈥檙 drysau. Roedd yn dangos y gwahanol gyfleoedd oedd ar gael yn lleol. Roedd adborth gan gyflogwyr yn dangos bod ansawdd yr ymgeiswyr a鈥檙 lefel o ymgysylltu鈥檔 uchel. Gan fod ymgeiswyr cystal yno, roed rhai o鈥檙 cyflogwyr yn gallu cyfweld pobl ar y diwrnod.鈥

Mae Cymunedau am Waith a Chymunedau am Waith a Mwy wedi鈥檜 bwriadu i ddarparu cymorth cyflogadwyedd a hyfforddiant ym mhob ardal yng Nghymru. Maent yn cael eu darparu鈥檔 lleol mewn lleoliadau cymunedol ac mae pobl yn cymryd rhan yn wirfoddol. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch 芒: cfwtriage@flintshire.gov.uk.

Queensferry Jobs Fair Ty Calon (7 of 12).jpg听 听 听 听 听

Queensferry Jobs Fair Ty Calon (8 of 12).jpg

Queensferry Jobs Fair Ty Calon (9 of 12).jpg Queensferry Jobs Fair Ty Calon (6 of 12).jpg