Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Prosbectws Anghenion Tai Sir y Fflint
Published: 15/11/2021
Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint nodi cynnwys y Prosbectws Anghenion Tai Sir y Fflint a rhoi unrhyw adborth neu sylwadau pan mae鈥檔 cyfarfod ddydd Mawrth, 16 Tachwedd.
Mae Llywodraeth Cymru (LlC) wedi gofyn i bob awdurdod lleol ddatblygu Prosbectws o Anghenion Tai. Bwriad y prosbectws yw:
- darparu gwybodaeth i allu cyflenwi tai fforddiadwy fel y gall darparwyr tai droi at y prosbectws a chynllunio i ddarparu tai sy鈥檔 diwallu blaenoriaethau鈥檙 awdurdod lleol a鈥檙 angen am dai鈥檔 well ar gyfer yr ardal;
- helpu i siapio rhaglen y Grant Tai Cymdeithasol trwy nodi beth yw blaenoriaethau pob awdurdod lleol; a听
- darparu canllaw i LlC a phartneriaid tai ynglyn 芒鈥檙 math o dai fforddiadwy sydd ei angen yn y sir ac ymhle.
Ar gyfer 2021/22, dyraniad Sir y Fflint o鈥檙 Grant Tai Cymdeithasol yw 拢10,236,642, ac mae disgwyl dyraniad tebyg ar gyfer 2022/23. Mae hyn yn gynnydd sylweddol ar ddyraniad 2020/21 o 拢5.2 miliwn.
Dywedodd y Cynghorydd Dave Hughes, Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint:
鈥淢ae Prosbectws Anghenion Tai drafft Sir y Fflint wedi鈥檌 lunio ar y cyd 芒鈥檙 Gwasanaethau Cymdeithasol, y t卯m Digartrefedd a Chynllunio ac mae鈥檔 adlewyrchu gofynion y Cyngor ar hyn o bryd ar wasanaethau a鈥檙 uchelgeisiau sydd yn Strategaeth Tai Sir y Fflint 2019-24.
鈥淩ydyn ni鈥檔 bwriadu diweddaru鈥檙 prosbectws bob blwyddyn a bydd yn ddogfen hyblyg a fydd yn datblygu wrth i flaenoriaethau ac anghenion tai鈥檙 Cyngor newid.鈥
Roedd LlC yn gofyn i鈥檙 prosbectws gael ei gyflwyno erbyn 6 Awst ac fe ddarparwyd prosbectws drafft Sir y Fflint erbyn y dyddiad cau, yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet.
听