Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Barod am y gaeaf!
Published: 12/11/2021
Mae Cyngor Sir y Fflint yn paratoi ar gyfer y gaeaf, gyda pharatoadau blynyddol ar waith ar gyfer y tymor graeanu.
Mae鈥檙 gaeaf yn amser prysur iawn o鈥檙 flwyddyn ar gyfer y Gwasanaethau Stryd, yn enwedig wrth i鈥檙 tymheredd ostwng, ac eira ar y ffordd. Mae ein timau'n dechrau paratoi ar gyfer y gaeaf mor gynnar 芒 mis Hydref, felly efallai eich bod eisoes wedi gweld ein cerbydau graeanu allan yn gwirio llwybrau a phrofi cyfarpar. Mae鈥檙 cerbydau鈥檔 cael eu gyrru unwaith yr wythnos i sicrhau eu bod yn gweithio鈥檔 iawn, ac ar yr un pryd, rydym yn hyfforddi gyrwyr newydd.听 Mae hyn i sicrhau bod gennym yr uchafswm o adnoddau ar gael petai ein timau'n cael eu hanfon i raeanu ffyrdd y Sir.
Mae鈥檙 fflyd o 12 cerbyd graeanu ar alwad 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos.听 Mae llwybrau blaenoriaeth yn cael eu pennu gan ddosbarthiad ffyrdd a defnydd.听 Mae 12 llwybr graeanu blaenoriaeth 1 (ffyrdd sy'n cario nifer uchel o draffig) sef cyfanswm o tua 560km o rwydwaith priffyrdd y Sir, sef 45% o鈥檙 cyfanswm.
Meddai Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd Sir y Fflint, y Cynghorydd Glyn Banks:
鈥淩ydym yn rhoi blaenoriaeth uchel i helpu traffig i symud yn ddiogel yn ystod y gaeaf. Mae鈥檔 hanfodol i breswylwyr a busnesau. Rydym yn graeanu fel bo鈥檙 angen i gadw ein ffyrdd ar agor. Ein blaenoriaeth gyntaf yw'r prif lwybrau sy鈥檔 cysylltu, neu fynd i drefi鈥檙 sir, gyda llwybrau sy鈥檔 rhoi mynediad i gymunedau llai i ddilyn. Mae ein timau graeanu unwaith eto'n barod i fynd allan a chadw ein ffyrdd i symud drwy fisoedd y gaeaf.
鈥淢ae ein storfeydd halen wedi鈥檜 stocio gyda 2,000 tunnell yn Alltami a 5,000 ym Maes Glas (gyda mwy ar fin cyrraedd) 鈥 yn ychwanegol at 450 bin halen a thomenni graean sydd wedi'u cyflenwi gyda dros 100 tunnell ar ymylon priffyrdd mewn ardaloedd gwledig.听
鈥淩ydym yn defnyddio system 鈥渁utologic鈥 sy鈥檔 sicrhau bod y swm optimaidd o halen wedi cael ei ledaenu i wneud y mwyaf o driniaethau, sy鈥檔 golygu nad yw halen yn cael ei wastraffu. Mae鈥檙 dechnoleg hefyd yn caniat谩u i鈥檙 cerbydau gael eu dilyn drwy gydol y gweithredoedd graeanu.鈥
Mae鈥檙 tywydd yn cael ei fonitro鈥檔 agos rhwng mis Hydref ac Ebrill, ac mae penderfyniad dyddiol yn cael ei wneud ar a oes angen unrhyw gamau gweithredu.
Gall preswylwyr wneud eu rhan a dechrau meddwl am baratoi ar gyfer y gaeaf, megis gwirio bod eu cerbydau eu hunain yn ddiogel ac yn barod ar gyfer y gaeaf, gan edrych ar ragolygon lleol a rhanbarthol y tywydd cyn teithio, a pharcio'n synhwyrol i ganiat谩u i gerbydau graeanu basio'n ddiogel.听听
Mae nifer y galwadau ff么n ac ymholiadau i鈥檙 Gwasanaethau Stryd yn cynyddu yn ystod adeg hon o鈥檙 flwyddyn, yn enwedig mewn achosion o dywydd garw.听 听
Rydym o hyd yn anelu i drin ymholiadau cyn gynted 芒 phosib mewn modd effeithlon, ond mewn rhai achosion, gellir canfod yr ateb ar ein , mae gennym lawer o wybodaeth yno, a dolenni i wefannau defnyddiol eraill hefyd.听听

Mark Humphreys, Keith Johnson, Katie Wilby, Cyng Glyn Banks听
听
听
听
听
听
听