Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Menter Gymdeithasol o Sir y Fflint sydd wedi ennill gwobrau yn ehangu mewn i Wrecsam
Published: 09/11/2021
Ar 么l pum mlynedd llwyddiannus o fasnachu, mae menter gymdeithasol sy鈥檔 seiliedig yn Sir y Fflint wedi ehangu mewn i Wrecsam.听
Mae Cwmni Buddiannau Cymdeithasol Beyond the Boundaries, a enillodd Wobr Aur City and Guilds am hyfforddiant, wedi cael gwahoddiad i atgynhyrchu eu gwasanaethau yn Wrecsam. Mae Partneriaeth Parc Caia wedi gwahodd Jill i agor salon yn eu hadeilad ym Mharc Caia. Mae鈥檙 gwaith o baratoi鈥檙 salon bwrpasol bellach wedi cael ei gwblhau a bydd yn cael ei agor yn swyddogol ar 9 Tachwedd.听
Mae Cwmni Buddiannau Cymunedol Beyond the Boundaries yn rhedeg salon gwallt a harddwch gwahanol. Cafodd ei ddatblygu鈥檔 arbennig gan Jill Smith, i greu lleoliadau gwaith ystyrlon mewn amgylchedd gwaith go iawn i bobl ifanc sydd ag anghenion ychwanegol.
Mae鈥檙 triniaethau sydd ar gael i aelodau鈥檙 cyhoedd, am hanner pris y farchnad er mwyn adlewyrchu鈥檙 ffaith bod y staff yn cael eu hyfforddi, yn cynnwys; trin gwallt, tyliniad Swedaidd, aromatherapi, tylino pen yn y dull Indiaidd, tyliniad cerrig poeth, triniaeth i鈥檙 dwylo a thraed, estheteg, triniaethau i鈥檙 amrannau a thylino babanod.听
Mae鈥檙 bobl ifanc sydd yn mynychu Beyond the Boundaries yn cael cyfle i ennill sgiliau a gwaith a bywyd a chymwysterau achrededig yn ogystal 芒 sgiliau byw'n annibynnol trosglwyddadwy i wella ansawdd eu bywyd yn ogystal 芒 chael gwaith cyflogadwy.听
Gyda hanes blaenorol gwych o weithio mewn partneriaeth gydag asiantaethau a sefydliadau megis Cymunedau am Waith, Adran Gwaith a Phensiynau, Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint a phartneriaid trydydd sector, mae chwech o鈥檙 rhai fuodd yn gweithio gyda Jill wedi mynd ymlaen i gael cyflogaeth am d芒l.听
Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint:
鈥淢ae gennym ni economi gymdeithasol sy鈥檔 ffynnu yma yn Sir y Fflint, ac rydym ni鈥檔 falch iawn o hynny. Mae鈥檔 wych gweld y modelau o arfer orau sy鈥檔 cael eu datblygu yn Sir y Fflint yn cael eu mabwysiadu gan siroedd cyfagos.鈥澨
Er mwyn cyd-fynd 芒 Diwrnod Menter Gymdeithasol genedlaethol, mae Beyond the Boundareis yn arddangos eu gwasanaethau mewn digwyddiad yn Nhy Calon, Chester Road West (gyferbyn 芒 Chanolfan hamdden Glannau Dyfrdwy) ar 11 Tachwedd, lle byddant yn lansio hyfforddiant am ddim wedi鈥檌 anelu at gefnogi pobl i ddatblygu鈥檙 sgiliau i ymuno 芒鈥檙 farchnad swyddi.听
Mae Beyond the Boundaries wedi creu gwefan newydd hefyd sydd yn rhoi cyfle i bobl archebu lle ar gyrsiau yn ogystal 芒 thriniaethau harddwch .
听