每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mae Cynghrair Mersi a鈥檙 Ddyfrdwy (MDA) yn cyhoeddi Cytundeb Adfer Trawsffiniol gwerth £220miliwn

Published: 02/11/2021

Mae Cynghrair Mersi a鈥檙 Ddyfrdwy (MDA) yn cyhoeddi Cytundeb Adfer Trawsffiniol gwerth 拢220miliwn sy'n cyd-fynd 芒 gweledigaeth y Canghellor Rishi Sunak ar gyfer economi codi鈥檙 gwastad, cyflog uwch, sgiliau uwch, cynhyrchiant uwch听 ac mae鈥檔 Dechrau Trafodaethau gyda Llywodraethau Cymru a'r DU i Ariannu'r Fargen.

Heddiw, dilynodd Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy, sy'n cynrychioli buddiannau'r economi unigryw, drawsffiniol, swyddogaethol yn Sir y Fflint a Wrecsam yn y Gogledd a Gorllewin Swydd Gaer a Chaer a Wirral yng Ngogledd-orllewin Lloegr, ei chynigion cychwynnol ar gyfer Pecyn Ysgogi Cyllidol gwerth 拢400 miliwn i wrthsefyll effaith economaidd negyddol ddifrifol Covid 19 gyda Bargen Adfer Trawsffiniol 芒 blaenoriaeth i roi'r MDA ar y trywydd iawn i sicrhau adferiad hirdymor o Covid-19 a chynhyrchiant diwydiannol sero-net.

Meddai'r Cynghorydd Mark Pritchard, Cadeirydd Cynghrair Mersi a鈥檙 Ddyfrdwy:

鈥淢ae economi'r MDA wedi cael ei tharo'n galed gan Covid-19. Mae ein GYC wedi crebachu 15%, sy'n cyfateb i 拢3.5 biliwn o werth yr economi cyn y pandemig, sef 拢22 biliwn. Collwyd miloedd o swyddi ym maes awyrofod, y sectorau gweithgynhyrchu eraill a manwerthu.

鈥淏argen Adfer Trawsffiniol yr MDA yw Cam 1 y Pecyn Ysgogi Cyllidol arfaethedig gwerth 拢400+ miliwn a gyhoeddwyd gennym ym mis Mawrth 2021. Mae angen buddsoddi nawr i wella o effeithiau economaidd negyddol Covid 19 a gosod y sylfeini ar gyfer twf cynaliadwy yn y dyfodol sy'n cael ei sbarduno gan glwstwr diwydiannol sero-net cyntaf y byd mewn partneriaeth 芒 HyNet a busnesau.

鈥淏ydd y Fargen Adfer Trawsffiniol yn mynd i'r afael 芒 heriau strwythurol tymor hwy a achosir gan gymhlethdod i fusnesau a chynllunwyr yn y sector cyhoeddus oherwydd y ffin weinyddol sy'n gosod dwy set o fframweithiau polisi ar economi'r rhanbarth. Gellir gweld effeithiau negyddol y cymhlethdod gweinyddol hwn mewn gorddibyniaeth ar y car oherwydd, yn y gorffennol, mae wedi bod yn anodd cynllunio trafnidiaeth ar sail gyfannol, drawsffiniol sy'n cyd-fynd ag anghenion economaidd.鈥

鈥淢ae'r MDA wedi gweithio mewn partneriaeth agos 芒 phartneriaethau economaidd cyfagos (Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, Partneriaeth Menter Leol Swydd Gaer a Warrington a Dinas-ranbarth Lerpwl) i lunio ei chynigion. Ni all yr un o'r cyrff hyn ddiwallu anghenion yr economi drawsffiniol, swyddogaethol yn llawn gan eu bod wedi'u cyfyngu rhag gwario arian y tu allan i'w ffiniau gweinyddol eu hunain. Mae consensws cynyddol bod angen Partneriaeth Twf Lleol ei hun ar Economi Trawsffiniol Mersi a'r Ddyfrdwy. Bydd Bargen yr MDA yn galluogi datblygu partneriaeth a fydd yn ymroddedig i hyrwyddo lles economaidd yr economi drawsffiniol a'i chymunedau.鈥

Meddai'r Cynghorydd Stuart Whittingham, Is-gadeirydd yr MDA:听

鈥淢ae Bargen Adfer Trawsffiniol yr MDA yn ceisio 拢220 miliwn i fuddsoddi mewn Rhaglenni Carbon Isel, Lle, Trafnidiaeth a Chefnogi Busnes, Digidol a Sgiliau. Amcangyfrifwn y bydd y buddsoddiad yn arwain at dros 拢500 miliwn mewn buddion ariannol.

鈥淢ae ein Rhaglen Lle o fuddsoddi yng nghanol trefi yn hanfodol i'r Fargen. Nodweddir ardal Mersi a'r Ddyfrdwy gan lawer o ganol trefi bach sydd 芒 chyfradd swyddi gwag uwch na'r cyfartaledd yn y DU. Bydd ein cynigion yn creu cronfa i ail-bwrpasu adeiladau gwag ac adfywio canol ein trefi fel canolfannau cymunedau busnesau bach.

鈥淢ae canol ein trefi yn hanfodol i "gynnig" ansawdd bywyd cynaliadwy a bywiog a fydd yn cadw trigolion a buddsoddwyr, yn ogystal 芒 denu rhai newydd.鈥

Meddai'r Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:听

鈥淏ydd y Fargen yn adeiladu ar Gais diweddar Sir y Fflint i Gronfa Codi'r Gwastad i wella Rheilffordd y Gororau rhwng Wrecsam a Bidston drwy gyflwyno cynigion trafnidiaeth a fydd yn: -

  • Cynllunio ar gyfer rhwydwaith teithio llesol integredig, trawsffiniol a fydd yn galluogi'r MDA i wneud cais llwyddiannus i gronfeydd y llywodraeth yng Nghymru a Lloegr am arian cyfalaf i adeiladu llwybrau beicio a llwybrau cerdded.
  • Ariannu prynu peiriannau darllen cardiau ar gyfer teithio ar fysiau trawsffiniol
  • Modelu'r gwaith o gynllunio trafnidiaeth ar sail drawsffiniol

鈥淏ydd y Fargen yn gwneud dewisiadau amgen i'r car yn fwy cystadleuol, gan gynyddu mynediad at gyflogaeth, gwella iechyd a lleihau allyriadau carbon.鈥

Bydd yr MDA yn gweithio mewn partneriaeth 芒 Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i sicrhau bod Canolfan Hydrogen arfaethedig Glannau Dyfrdwy yn cael ei chyflawni, gan ddarparu tanwydd hydrogen ar gyfer cerbydau sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus, fel loriau lludw.

Meddai'r Cynghorydd Louise Gittins, Arweinydd Cyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer:

鈥淢ae angen gweithredu ar ardal yr MDA i leihau allyriadau carbon fel economi ddiwydiannol, gyda phum gwaith cyfartaledd allyriadau carbon y pen yn y DU. Bydd Bargen yr MDA yn cyfrannu at achub y blaned drwy leihau allyriadau carbon a pharatoi ar gyfer sero-net. Byddwn yn:

  • Adeiladu ar Glwstwr HyNet Trac 1 drwy gyflwyno cynnig ar gyfer cyfleuster profi offer hydrogen ym Mharc Gwyddoniaeth Thornton mewn partneriaeth 芒 HyNet a Phrifysgol Caer.听
  • Helpu busnesau i symud i'r cadwyni cyflenwi ar gyfer cynhyrchu ynni gwyrdd gan gynnwys hydrogen, CCUS, gwynt ar y m么r a niwclear yn seiliedig ar wella "sgiliau gwyrdd" drwy ein cynigion hyfforddi.鈥

Mae Bargen Adfer Trawsffiniol yr MDA yn deillio o gydweithredu aml-asiantaeth, trawsffiniol, trawsbleidiol. Edrychwn ymlaen at weld y llywodraeth yn cydnabod cryfder ein partneriaeth. Mae cyfraniad Arweinwyr Busnes wedi bod yn arbennig o bwerus, gyda chyfraniadau gan gwmn茂au angori fel Airbus a chyrff cynrychiadol fel Cyngor Busnes Gogledd Cymru a Mersi a'r Ddyfrdwy. Arweiniodd Arweinwyr Busnes at ddatblygu ein cynigion i gefnogi busnesau i wella eu cynhyrchiant a lleihau eu h么l troed carbon.

Meddai Ashley Rogers, Cyfarwyddwr Masnachol Cyngor Busnes Gogledd Cymru a Mersi a'r Ddyfrdwy:

鈥淓lfen allweddol o'r Fargen yw'r Gronfa Her Busnes (BCF) arfaethedig a ddatblygwyd gan y sector preifat ar draws ardal yr MDA. Mae'r gronfa 拢60 miliwn wedi'i thargedu i gefnogi busnesau mawr a bach i sicrhau twf a chynhyrchiant a chyflymu'r daith i garbon sero-net i'r economi.听

鈥淏ydd y Gronfa'n cynnig grantiau i helpu i farchnata cynhyrchion a gwasanaethau newydd sy'n deillio o ymchwil a datblygu mewn sectorau allweddol, cymorth i gwmn茂au i leihau 么l troed carbon eu safleoedd a darparu benthyciadau "sero-net" i fusnesau bach a chanolig fuddsoddi ar unwaith yn eu busnesau.

鈥淕allai'r BCF arbed mwy na 120,000 o dunelli o allyriadau Co2, cynhyrchu 拢30 miliwn o fuddsoddiad newydd gan y sector preifat, gwella dros 400 o adeiladau busnes a diogelu neu greu dros 2,700 o swyddi.

鈥淥s ydyn ni wir eisiau Ailgodi'n Gryfach, a chefnogi ein heconomi, sydd wedi'i tharo mor wael gan y pandemig, mae angen cymorth ar unwaith ac wedi'i dargedu i wneud hynny. Rhaid i dwf cynaliadwy, cynhyrchiant a sero-net fod yn rhan o'n mantra.听

鈥淢ae'r gronfa Her Busnes yn gynnig ar lawr gwlad a ddatblygwyd gan fusnes ac yn elfen hanfodol o gais yr MDA i'r llywodraeth. Fe'i dyluniwyd yn benodol ar gyfer ardal drawsffiniol Mersi a'r Ddyfrdwy i hybu twf, cynyddu cynhyrchiant ac ychwanegu momentwm mawr ei angen ar gyfer ein taith i sero-net.鈥

Meddai Dr. James Davies AS (Dyffryn Clwyd), Cadeirydd Grwp Seneddol Hollbleidiol Mersi a鈥檙 Ddyfrdwy a Gogledd Cymru:

鈥淩wy'n falch o gefnogi Bargen Adfer Trawsffiniol yr MDA. Yn ogystal 芒 diogelu swyddi a galluogi twf cynaliadwy yn y dyfodol, bydd yn cryfhau'r Undeb ac yn gyfle hollbwysig i 'Godi'r Gwastad' yn y DU.

鈥淢ae'r MDA wedi dechrau trafodaethau gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar sut i ariannu a chyflawni'r Fargen. Byddaf yn gweithio gyda chydweithwyr yng Ngrwp Seneddol Hollbleidiol Mersi a'r Ddyfrdwy a Gogledd Cymru i helpu gyda thrafodaethau a sicrhau bod bargen yn cael ei tharo rhwng yr MDA a'r llywodraethau.鈥

Meddai Justin Madders AS (Ellesmere Port), Is-gadeirydd Grwp Seneddol Hollbleidiol Mersi a鈥檙 Ddyfrdwy a Gogledd Cymru:

鈥淐roesawaf ddatblygiad y Fargen Adfer Trawsffiniol gan Gynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy. Mae'n gyfle gwych i Lywodraethau gamu ymlaen a chydnabod anghenion penodol natur unigryw, drawsffiniol economi'r MDA. Bydd yr economi leol a'r DU yn elwa ar gefnogi'r MDA fel partneriaeth twf leol.

鈥淏ydd Grwp Seneddol Hollbleidiol Mersi a'r Ddyfrdwy a Gogledd Cymru yn parhau i gydweithio i helpu'r MDA drwy ei drafodaethau gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.鈥