Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Mae Cynghrair Mersi a鈥檙 Ddyfrdwy yn croesawu pleidlais o hyder Llywodraeth y DU yng Nghonsortiwm HyNet
Published: 28/10/2021
Mae Cynghrair Mersi a鈥檙 Ddyfrdwy yn croesawu pleidlais o hyder Llywodraeth y DU yng Nghonsortiwm HyNet Mersi a鈥檙 Ddyfrdwy gyda dyfarniad Cyllid Dilyniannu Clwstwr Trac 1 ar gyfer seilwaith Dal a Storio Carbon a Storio Tan Ddaear (CCUS). Bydd gweithredu CCUS o 2025 yn diogelu dyfodol miloedd o swyddi gweithgynhyrchu gwerth uchel yn ardaloedd Mersi a鈥檙 Ddyfrdwy ac ardaloedd economaidd cysylltiedig yng Ngogledd Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr.
Cyngh Mark Pritchard, Cadeirydd Cynghrair Mersi a鈥檙 Ddyfrdwy:
鈥淢ae dyfarnu statws Clwstwr Diwydiannol Trac 1 yn newyddion gwych i economi drawsffiniol integredig ardal Mersi a鈥檙 Ddyfrdwy.
"Ffurfiodd Cynghrair Mersi a鈥檙 Ddyfrdwy bartneriaeth gyda HyNet i sicrhau bod ardal Mersi a鈥檙 Ddyfrdwy鈥檔 dod yn grud i chwyldro diwydiannol gwyrdd y DU. Mae cyllid Trac 1 yn ein rhoi ar ben ffordd i fabwysiadu prosesau diwydiannol sero-net yn gynnar. Bydd yn sicrhau miloedd o swyddi cyfredol sy鈥檔 talu鈥檔 dda yn y sector gweithgynhyrchu uwch ac yn mynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 argyfwng hinsawdd drwy ddechrau鈥檙 broses o dorri allyriadau carbon i sero drwy CCUS a newid tanwydd diwydiannol i hydrogen.
"Bydd Cynghrair Mersi a鈥檙 Ddyfrdwy鈥檔 gweithio gyda HyNet i ddatblygu cadwyn gyflenwi hydrogen a CCUS flaenllaw yn ardal Mersi a鈥檙 Ddyfrdwy. Mae HyNet yn amcangyfrif y bydd ei fuddsoddiad yn y seilwaith CCUS听 hydrogen yn creu 6000 o swyddi newydd. Bydd statws Clwstwr Trac 1 yn ychwanegu momentwm i鈥檔 cynlluniau i ddatblygu cyfleuster arddangoswr cyfarpar hydrogen ym Mharc Gwyddoniaeth Thornton gyda chyllid 鈥渄echrau busnes鈥 o Raglen Adfer arfaethedig Drawsffiniol Cynghrair Mersi a鈥檙 Ddyfrdwy.
"Rwy鈥檔 credu bod y cyhoeddiad hwn yn cryfhau鈥檙 undeb oherwydd bydd HyNet yn brosiect trawsffiniol a fydd o fudd i Ogledd Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr.鈥
Dywedodd y Cyngh Stuart Whittingham, is-gadeirydd Cynghrair Mersi a鈥檙 Ddyfrdwy:
鈥淢ae dyfarnu Cyllid Clwstwr Trac 1 yn dystiolaeth o sut mae gwaith partneriaeth trawsffiniol a thrawsbleidiol yn sicrhau canlyniadau. Mae鈥檙 Gynghrair wedi gweithio鈥檔 agos 芒 HyNet, Rhanbarth Dinas Lerpwl, Arweinwyr Busnes, Llywodraeth Cymru ac Aelodau Seneddol lleol ledled y Gogledd ac ardal Mersi a鈥檙 Ddyfrdwy i hyrwyddo gweithredu CCUS a chyflenwad hydrogen yn gynnar yng Ngogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru gan HyNet.鈥
Dywedodd y Cyngh Louise Gittins, Arweinydd Cyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer:
鈥淩wy鈥檔 eithriadol falch fod HyNet wedi cael cyllid Clwstwr Trac 1. Mae鈥檙 newyddion hwn yn ffordd wych i ni fynd i COP26 a dechrau ar y broses o fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 argyfwng hinsawdd mewn ffordd ymarferol sy鈥檔 cadw swyddi traddodiadol ac yn creu rhai newydd mewn cadwyni cyflenwi ynni newydd. Dim ond un blaned sydd gennym ni. Mae鈥檙 cyhoeddiad hwn yn rhoi cyfle i ardal Mersi a鈥檙 Ddyfrdwy leihau allyriadau carbon yn sylweddol i osgoi trychineb hinsawdd.
"Bydd ardal Mersi a鈥檙 Ddyfrdwy鈥檔 sicrhau manteision amgylcheddol sylweddol o fod yn arweinydd ym maes datblygu CCUS a chynhyrchu ynni hydrogen. Mae鈥檙 penderfyniad yn cydnabod anghenion busnesau am fathau newydd o danwydd a seilwaith dal a storio carbon yn ein hardal, lle mae allyriadau carbon y pen bedair gwaith yn uwch na chyfartaledd y DU.鈥
Dywedodd y Cyngh Ian Roberts, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
鈥淢ae hwn yn newyddion gwych i Gymru a鈥檙 Gogledd yn arbennig. Bydd HyNet yn darparu CCUS ac ynni hydrogen ar gyfer newid tanwydd diwydiannol ac ynni domestig yn y Gogledd. Bydd cwmn茂au lleol fel Hanson ac Essar yn elwa鈥檔 aruthrol ar fabwysiadu CCUS yn gynnar yn economi Mersi a鈥檙 Ddyfrdwy.
"Bydd HyNet yn gallu gwneud cyfraniad sylweddol i gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer 鈥渆conomi hydrogen鈥 yng Nghymru. Bydd yna fanteision ar gyfer datgarboneiddio cludiant nwyddau trwm drwy ddefnyddio tanwydd hydrogen a phrosiectau lleol ategol fel Hyb Hydrogen Glannau Dyfrdwy."
Dywedodd Ashley Rogers, Cyfarwyddwr Masnachol Cyngor Busnes Mersi a鈥檙 Ddyfrdwy Gogledd Cymru:
鈥淢ae hwn yn newyddion rhagorol ar gyfer yr ardal drawsffiniol a Gogledd Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr yn ehangach. Mae hydrogen carbon isel yn elfen hanfodol yn y daith at sero-net i鈥檔 busnesau, yn fach a mawr. Gyda鈥檙 cyllid hwn gan Lywodraeth y DU bydd HyNet yn cyflawni r么l arweiniol gan helpu i ddatgarboneiddio cynhyrchiant ynni, gwresogi, trafnidiaeth a鈥檙 yst芒d Sector Preifat yn ein hardal er budd ein heconomi, ein cymunedau a鈥檙 amgylchedd.鈥
Dywedodd Dr. James Davies AS, (Dyffryn Clwyd), Cadeirydd Grwp Seneddol Hollbleidiol Mersi a鈥檙 Ddyfrdwy a Gogledd Cymru yn San Steffan:
鈥淩wy鈥檔 hynod o falch o glywed bod HyNet wedi ei gyhoeddi fel clwstwr Trac 1 ac y bydd yn derbyn cyllid gan Lywodraeth y DU. Bydd datblygiad cynaliadwy y prosiect hwn yn creu miloedd o swyddi ac yn helpu i hyrwyddo鈥檙 Gogledd fel canolfan ar gyfer arloesi ym maes ynni gl芒n. Mor fuan 芒 2025, bydd y prosiect yn galluogi ein sector gweithgynhyrchu ar draws y rhanbarth i ddatgarboneiddio, yn ogystal 芒 rhoi鈥檙 cyfle i newid y ffordd rydym yn teithio a sut rydym yn gwresogi ein cartrefi. Byddaf yn parhau i gefnogi HyNet yn eu trafodaethau 芒 Llywodraeth y DU ac yn edrych ymlaen at newyddion cadarnhaol pellach yn y blynyddoedd i ddod.鈥
Dywedodd Justin Madders AS (Ellesmere Port), Is-gadeirydd Grwp Seneddol Hollbleidiol Mersi a鈥檙 Ddyfrdwy a Gogledd Cymru:
鈥淢ae hwn yn newyddion gwych i Ellesmere Port a鈥檙 cyffiniau. Bydd buddsoddiad cynnar sicr yn cyfrannu鈥檔 sylweddol at ein huchelgais i leihau allyriadau carbon, at ddiogelu鈥檙 rhai mewn swyddi medrus iawn mewn diwydiant lleol ac i greu swyddi newydd yn y sector cynhyrchu ynni gl芒n.鈥
听