Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwaith Paratoi yn erbyn Llifogydd yn Sandycroft
Published: 22/10/2021
Ers i gymunedau yn Sir y Fflint deimlo effaith Storm Christoph, mae鈥檙 Cyngor wedi bod yn gweithio gydag asiantaethau cyfrifol eraill, sef Dwr Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru, i sicrhau bod y systemau draenio sy鈥檔 gwasanaethu鈥檙 ardaloedd hyn yn gweithio鈥檔 iawn ac yn cael eu cynnal.
Mae gwaith parhaus wedi ei gynnal ers dechrau鈥檙 gwanwyn yn ardal Sandycroft yn benodol i wneud yn siwr fod y systemau draenio priodol yn yr ardal wedi cael eu gwirio a鈥檜 cynnal er mwyn sicrhau eu bod yn gweithio i鈥檞 llawn botensial.
Mae elfen olaf y gwaith hwn, a鈥檙 un fwyaf arwyddocaol, ar fin cychwyn gan fod y Cyngor wedi bod yn cydweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru er mwyn cynorthwyo i ddatblygu rhaglen waith i lanhau a chynnal y brif afon a elwir yn Ddraen Gogleddol Pentre. Mae hyn yn cynnwys archwilio a glanhau hyd sylweddol o geuffosydd y cwrs dwr o dan Ffordd Caer (tua 1000 metr o geuffosydd) yn ogystal 芒 gwaith tebyg i glirio rhannau ffosydd agored y brif afon.
Mae鈥檙 gwaith paratoi gan Gyfoeth Naturiol Cymru eisoes wedi dechrau, gyda gwaith wedi ei wneud dros yr wythnos ddiwethaf i glirio llystyfiant ger rhannau鈥檙 ffosydd agored. Yna bydd y ffosydd yn cael eu clirio dros yr wythnosau nesaf a daw contractwyr arbenigol i weithio ar geuffosydd Draen Gogleddol Pentre.
Disgwylir i鈥檙 gwaith hwn gymryd rhwng 4 a 6 wythnos a gallai hyn amharu rhywfaint ar y traffig yn lleol gan y bydd angen rheoli鈥檙 traffig ar Ffordd Caer er mwyn sicrhau amodau gwaith diogel.听
Dywedodd y Cynghorydd Christopher Bithell, Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd:
听鈥淢ae鈥檙 gwaith hwn yn nodi鈥檙 cam olaf pwysig yn y gwaith a wneir ar y cyd rhwng y Cyngor a鈥檙 asiantaethau eraill i sicrhau bod y systemau draenio yn yr ardal hon yn gweithio鈥檔 iawn, er mwyn sicrhau bod gan y gymuned gymaint o amddiffyniad 芒 phosibl rhag llifogydd, wrth i dymor y gaeaf agos谩u.鈥
听