Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Y wybodaeth ddiweddaraf ar derfyn cyflymder 20mya yn y sir
Published: 22/10/2021
Mae Cyngor Sir Y Fflint bellach mewn sefyllfa i ddarparu diweddariad ar y cynnig i weithredu terfyn cyflymder 20mya ar draws ardaloedd preswyl Bwcle, New Brighton a Mynydd Isa.
Mae鈥檙 cynnig nawr yn datblygu i鈥檙 cam nesaf, yn dilyn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ac anelir at gefnogi datblygiad rhoi terfynau cyflymder 20mya ar waith fesul cam yn genedlaethol ar draws Cymru.听听
Yn dilyn proses ymgynghori manwl, bydd cyflymder ar holl ffyrdd annosbarthedig (30mya) yn yr ardal arfaethedig yn gostwng i 20mya ac eithrio鈥檙 A549 rhwng Cylchfan Wylfa a Dirty Mile, Dobshill (bydd hon hefyd yn 20mya, os bwriedir, bydd yn cael ei roi ar waith fesul cam gan ddechrau yn 2023).听听
Meddai Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chludiant Sir y Fflint, y Cynghorydd Glyn Banks:
鈥淗offem ddiolch i bawb am eu cefnogaeth barhaus yn ystod y flwyddyn yma gan fod cydweithrediad ac ymrwymiad y preswylwyr lleol yn hanfodol i lwyddiant y prosiect 20mya.听 听Mae hyn yn bwysig gan mai cyflymder gyrru ceir sy鈥檔 achosi anaf difrifol neu farwolaeth.
鈥淗offem hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i ofyn i chi am gefnogaeth bellach i helpu i hybu鈥檙 cynllun a chodi ymwybyddiaeth o fewn eich cymunedau lleol wrth i ni symud ymlaen gyda鈥檙 prosiect hwn yn ystod y misoedd nesaf.鈥
Y camau nesaf fydd gosod y cyfarpar monitro mewn amrywiol leoliadau o amgylch yr ardal fydd yn ein galluogi i gasglu data llinell sylfaen yn ogystal 芒 datblygu鈥檙 Gorchmynion Rheoleiddio Traffig gofynnol ac ymgynghoriad statudol. Gellir archwilio dogfennau sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 cynllun ym Mwcle yn Cysylltu neu gellir eu gweld ar y wefan yn听.听
Byddwn yn gweithio鈥檔 agosach gyda Heddlu Gogledd Cymru a gwasanaethau brys eraill ynglyn 芒鈥檙 cynigion.听
听