Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Arolwg Parc Gwledig Gwepra
Published: 19/10/2021
Hoffai Gwasanaeth Mynediad ac Amgylchedd Naturiol Sir y Fflint wybod beth yw eich barn am Barc Gwepra, y ffordd y mae鈥檔 cael ei reoli a beth hoffech ei weld yno yn y dyfodol.聽
Mae Parc Gwledig Gwepra yn lleoliad naturiol 160 erw yng nghanol Cei Connah, Sir y Fflint, ac mae鈥檔 lleoliad unigryw gyda鈥檌 hanes, ei gynefinoedd arbennig amrywiol a鈥檌 ddaeareg ddiddorol.聽 Mae angen gwneud gwaith cynllunio cynhwysfawr ar gyfer safle mor arwyddocaol o ran hanes a'r amgylchedd, nid yn unig i warchod a rheoli'r bywyd gwyllt arbennig, ond hefyd i gefnogi ymarferoldeb amrywiol y parc.聽聽
Wrth ddatblygu cynllun rheoli鈥檙 parc dros y deng mlynedd nesaf, mae鈥檔 bwysig ein bod yn clywed gennych chi, ein cymuned.聽 Gall unrhyw un gael gafael ar yr holiadur ar-lein a'i gwblhau a bydd yr atebion yn sail i'r ffordd y caiff y cynllun rheoli ei ddatblygu a sut y caiff cyllid ei ganfod ar gyfer prosiectau yn y dyfodol.聽聽
Meddai Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Ian Roberts:
鈥淢ae ymgynghori 芒鈥檙 gymuned o ran prosiectau rheoli a datblygu yn bwysig i ni, y Cyngor, i ddeall mwy am safbwyntiau pobl a sut y maent yn dymuno gweld eu mannau gwyrdd naturiol yn cael eu rheoli a鈥檜 defnyddio.聽 Mae Parc Gwepra yn uchel iawn ei barch ymysg trigolion lleol ac ymwelwyr a hoffem ddysgu mwy er mwyn helpu i lunio rheolaeth y Parc Gwledig yn y dyfodol.鈥
Rhowch wybod i ni beth yw eich barn am reoli Parc Gwledig Gwepra yn y dyfodol, gallwch gael gafael ar yr arolwg ar-lein yma
