Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Llwyddiant Ffair Swyddi Parc Brychdyn
Published: 21/10/2021
Mynychodd dros 600 o bobl ffair swyddi Parc Brychdyn a gynhaliwyd yn y parc manwerthu ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn, 8 a 9 Hydref.
Trefnwyd y digwyddiad gan Gymunedau dros Waith mewn cydweithrediad 芒鈥檙 Ganolfan Waith a Mwy a Gyrfa Cymru.听 Nod y Ffair Swyddi oedd cynnig cefnogaeth a chyngor i oedolion a phobl ifanc sy鈥檔 chwilio am waith yn y sector manwerthu a lletygarwch ac roedd yn gydweithrediad llwyddiannus unwaith eto.听
Roedd 15 o stondinau yn y digwyddiad yn cynnwys cyflogwyr gyda 200 o swyddi gwag ar gael yn cynnwys y cwmni cadwyn newydd, Tim Hortons sydd ar fin agor ym mis Rhagfyr, Frankie & Benny鈥檚, Primark, Next, Boots, Hays Travel, The Entertainer, Tesco a Homesense.听
Mae Cymunedau dros Waith ar gael i gynnig cefnogaeth gyffredinol i unrhyw un sydd eisiau cyflogaeth a chofrestru i鈥檙 rhaglen.
Roedd adborth gan yr holl fanwerthwyr, mynychwyr a Rheolwr Canolfan Parc Brychdyn yn gadarnhaol iawn gyda鈥檙 safon o ran ymgeiswyr a鈥檙 lefel o ymrwymiad yn uchel iawn.听 Roedd y cyfle i drafod yn uniongyrchol 芒 chyflogwyr ar sail un i un yn ddefnyddiol iawn gyda rhai ymgeiswyr yn cael eu galw am gyfweliad ar unwaith.
Yn dilyn llwyddiant y digwyddiad hwn mae Cymunedau dros Waith wedi trefnu ffair swyddi arall ar ddydd Mawrth, 9 Tachwedd rhwng 10am a 2pm yn Nhy Calon, Ffordd Ddwyrain Caer, Queensferry, CH5 1SE.听
Bydd yn cynnwys cyflogwyr lleol eraill o sectorau eraill ac nid manwerthu yn unig.听 Rhagor o fanylion i ddilyn ond rydym yn annog unrhyw un sy鈥檔 chwilio am waith i weld yr hyn sydd ganddyn nhw i鈥檞 gynnig.
Os hoffech ragor o wybodaeth ynglyn 芒鈥檙 rhaglen Cymunedau dros Waith yn Sir y Fflint cysylltwch 芒 nia.parry@flintshire.gov.uk听苍别耻 Janiene.davies@flintshire.gov.uk.听听
听