Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Parc Gwepra a Dyffryn Maes Glas wedi eu henwi fel dau o fannau gwyrdd gorau鈥檙 wlad
Published: 14/10/2021
Mae Cadwch Gymru鈥檔 Daclus wedi datgelu enillwyr Gwobr y Faner Werdd eleni 鈥 marc rhyngwladol o barc neu fan gwyrdd o ansawdd.听听
Bydd y baneri yn hedfan yn Nyffryn Maes Glas a Pharc Gwepra i gydnabod eu cyfleusterau rhagorol i ymwelwyr, safonau amgylcheddol uchel, ac ymrwymiad i ddarparu man gwyrdd o ansawdd gwych.
Mae Dyffryn Maes Glas a Pharc Gwepra yn llawn hanes a bywyd gwyllt.听 Maent wedi bod yn ganolbwynt ar gyfer hamdden pobl leol gan gefnogi lles trwy gydol y pandemig, mae ganddynt enw da o fewn y gymuned leol ac mae derbyn y Wobr hon ar gyfer 2021/22 yn anrhydedd.听听
Mae Parc Gwepra yn 160 erw o fan gwyrdd, yng nghanol Cei Connah, Sir y Fflint, ac mae鈥檔 lleoliad unigryw gyda鈥檌 amrywiaeth o gynefinoedd a daeareg.听 Mae nodweddion y parc yn cynnwys; Gerddi鈥檙 Hen Neuadd, Pwll Pysgota, Ffrwd a Rhaeadr, a Chastell Ewlo i鈥檙 cyhoedd eu darganfod.听 听听
Lleolir Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas yn Nhreffynnon, Sir y Fflint, ac mae鈥檔 cynnwys 70 erw o hanes diwydiannol.听 Yn hanesyddol, roedd Dyffryn Maes Glas yn cyflogi cannoedd o bobl yn ei ffatr茂oedd copr a鈥檌 felinau cotwm, sydd erbyn hyn yn fannau gwyrdd agored, gwych.听 Mae鈥檙 Dyffryn yn gartref i nifer o henebion rhestredig ac yn le delfrydol i fywyd gwyllt.听 Mae Parc Gwepra a Dyffryn Maes Glas yn Barciau o safon y mae Sir y Fflint yn falch ohonynt, ac maen nhw鈥檔 hygyrch i鈥檙 gymuned eu harchwilio a鈥檜 mwynhau.听听
Meddai Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Ian Roberts:
鈥淢ae鈥檔 anrhydedd unwaith eto i ni ennill gwobr y Faner Werdd ar gyfer Dyffryn Maes Glas a Pharc Gwepra.听 Mae mannau naturiol Sir y Fflint wedi disgleirio fel adnoddau gwerthfawr o ansawdd uchel ar gyfer pobl leol.听 Hoffwn ddiolch i鈥檙 holl wirfoddolwyr a staff sy鈥檔 gweithio鈥檔 galed i gynnal y safonau uchel hyn a chaniat谩u i ni chwifio鈥檙 鈥楩aner Werdd鈥 yn ein parciau.听 Mae amrywiaeth o fywyd gwyllt a nodweddion hanesyddol y parciau hyn o ddiddordeb mawr i breswylwyr a thwristiaeth ac maen nhw鈥檔 glod i Sir y Fflint.听 听Mwynhewch y mannau gwyrdd lleol sy鈥檔 werth eu gweld wrth i鈥檙 tymhorau newydd ac i ddarganfod mwy am ein treftadaeth lleol yn ddiogel.鈥
Dywedodd Gwladys Harrison, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas;听
听鈥淢ae staff, gwirfoddolwyr a鈥檙 Bwrdd Ymddiriedolwyr yn ymfalch茂o yn Nyffryn Maes Glas.听 Dyma yw trysor Sir y Fflint ac rydym yn falch o gyflawni鈥檙 wobr hon sy鈥檔 adlewyrchu ar safon y man naturiol hwn.听 Hoffem annog y gymuned i gyd yr Hydref hwn i fynd allan i鈥檙 awyr agored a mwynhau ein mannau naturiol lleol yn ddiogel. 鈥
Mae 248 o barciau a mannau gwyrdd ar draws y wlad wedi cael Gwobr flaenllaw y Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd 鈥 o barciau gwledig i erddi ffurfiol, i randiroedd, coetir a mynwentydd.
Cyflwynir rhaglen Gwobr y Faner Werdd yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru鈥檔 Daclus, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru. Gwirfoddolodd arbenigwyr mannau gwyrdd annibynnol eu hamser ar ddechrau鈥檙 hydref i feirniadu safleoedd ymgeiswyr yn erbyn wyth o feini prawf llym, yn cynnwys bioamrywiaeth, glendid, rheolaeth amgylcheddol, a chyfranogiad cymunedol.
Dywedodd Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru: 鈥淢ae mannau gwyrdd yn hanfodol i iechyd meddwl a chorfforol a trwy gydol y pandemig, rydym wedi gweld pa mor bwysig mae鈥檙 mannau hyn wedi bod i gymunedau lleol.听 听
鈥淢ae gan Gymru dros draean safleoedd cymunedol Baner Werdd y DU o hyd ac mae鈥檔 rhagorol gweld mwy o fannau yng Nghymru yn derbyn Gwobr y Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd.听 听
鈥淢ae鈥檙 tirweddau hyn yn chwarae rhan hanfodol yn cyflwyno ecosystemau cyfoethog a chymunedau bywiog a chydnerth, ac rwyf yn llongyfarch pob safle am ddarparu cyfleusterau a digwyddiadau rhagorol, drwy鈥檙 flwyddyn ar gyfer pobl yng Nghymru.鈥
Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd yn Cadwch Gymru鈥檔 Daclus:听
鈥淒angosodd y pandemig i ni pa mor bwysig yw parciau a mannau gwyrdd o ansawdd da i鈥檔 cymunedau.听 Gyda mwy o ymwelwyr nag erioed yn mwynhau ein mannau gwyrdd, hoffwn longyfarch gwaith caled staff a gwirfoddolwyr sydd wedi cynnal safonau rhagorol yn y safleoedd hyn.鈥
Mae rhestr lawn o enillwyr y wobr ar gael ar wefan Cadwch Gymru鈥檔 Daclus www.keepwalestidy.cymru听




听
听