每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Treth y Cyngor 鈥 Ail Gartrefi a Llety Hunanddarpar

Published: 13/10/2021

Yn ddiweddarach fis yma bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gefnogi ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ynghylch newidiadau posibl i鈥檙 system drethu lleol, gyda鈥檙 nod o gefnogi awdurdodau lleol i reoli effaith ail gartrefi a llety hunanddarpar ar gymunedau.听听

Yn 2017 y Cyngor oedd un o鈥檙 awdurdodau lleol cyntaf yng Nghymru i fabwysiadu Cynllun Premiwm Treth y Cyngor. Mae鈥檙 cynllun yn darparu mecanwaith pwysig i annog perchnogion ail gartrefi ac eiddo gwag i wneud yn siwr bod yr eiddo yn cael ei ddefnyddio unwaith eto. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn dymuno derbyn barn y Cabinet ar drefniadau trethu lleol i鈥檙 dyfodol, ar gyfer perchnogion llety hunanddarpar a all fod yn agored i dalu Treth y Cyngor neu gyfraddau busnes yn dibynnu ar ddefnydd y llety.听听

Meddai Gareth Owens, y Prif Swyddog Llywodraethu:听

鈥淢ae pryderon cynyddol ar draws Cymru ynghylch y ffordd y mae perchnogion llety hunanddarpar yn gallu newid yn rhwydd o dalu Treth y Cyngor i dalu Trethi Busnes, gan olygu nad yw rhai perchnogion yn gorfod talu unrhyw dreth yn lleol.听

Er nad yw鈥檙 broblem mor amlwg yma yn Sir y Fflint o gymharu ag awdurdodau lleol eraill, mae yna 78 o fusnesau hunanddarpar yn y sir sy鈥檔 gweithredu o eiddo preswyl a all fod wedi newid i鈥檙 system Trethi Busnes ar 么l bod ag atebolrwydd i dalu Treth y Cyngor 鈥 mae hyn hefyd yn lleihau nifer yr eiddo preswyl sydd ar gael.听听

I wella鈥檙 system rydym ni鈥檔 credu y dylai Llywodraeth Cymru gryfhau鈥檙 rheolau trethu lleol ar unwaith, drwy fabwysiadu rheolau trethi鈥檙 DU a CThEM ar gyfer eiddo sy鈥檔 lletyau hunanddarpar masnachol ac yn talu Trethi Busnes.听

Rydym ni hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal ymchwil pellach i asesu effaith busnesau hunanddarpar sy鈥檔 gweithredu o eiddo preswyl, sy鈥檔 derbyn Rhyddhad Ardrethi Busnes o 100% yn awtomatig ac felly ddim yn talu unrhyw fath o dreth yn lleol i鈥檙 Cyngor.鈥

Meddai鈥檙 Cynghorydd Billy Mullin, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau:

鈥淩ydym ni鈥檔 credu bod cadw'r Cynllun Premiwm Treth y Cyngor yn hanfodol i fynd i鈥檙 afael 芒 materion tai lleol ond nid ydym ni鈥檔 credu bod angen premiwm uwch na 100%.

Ni ddylid clustnodi incwm ychwanegol a gynhyrchir drwy鈥檙 cynllun hwn ar gyfer tai yn unig, mae arnom ni eisiau ymreolaeth a hyblygrwydd i ddefnyddio鈥檙 incwm i gefnogi blaenoriaethau sy鈥檔 newid ac i leddfu pwysau ar draws y Cyngor.鈥澨