Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ymgynghoriad ynghylch cael gwared ar rwymedigaeth pobl gymwys sy鈥檔 gadael gofal i dalu Treth y Cyngor
Published: 13/10/2021
Ar 19 Hydref bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn cwrdd 鈥 a bydd gofyn i鈥檙 Aelodau gefnogi newidiadau arfaethedig i鈥檙 rheoliadau Treth y Cyngor i gael gwared ar atebolrwydd, cyd ac unigol, pobl 24 oed ac iau sy鈥檔 gadael gofal i dalu Treth y Cyngor. 听
Ers i Lywodraeth Cymru gyflwyno鈥檙 rheoliadau fis Ebrill 2019, fel rheol mae pobl 24 oed ac iau sy'n gadael gofal ac yn byw yng Nghymru wedi鈥檜 heithrio rhag talu Treth y Cyngor.听Mae Llywodraeth Cymru bellach yn ymgynghori ynghylch cynigion i gael gwared ar y risg y gallai unigolyn sy'n gadael gofal fod yn gyfrifol am dalu Treth y Cyngor os yw unigolyn arall yn eu haelwyd yn methu 芒 thalu. 听
Meddai鈥檙 Cynghorydd Billy Mullin, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau:
鈥Dw i鈥檔 falch o gefnogi鈥檙 newidiadau arfaethedig i鈥檙 rheoliadau Treth y Cyngor a fydd yn听 cael gwared ar y risg y gallai pobl sy鈥檔 gadael gofal fod yn gyfrifol am dalu Treth y Cyngor os yw unigolyn arall yn yr aelwyd yn methu 芒 thalu Treth y Cyngor.
鈥淏ydd y newidiadau arfaethedig yn sicrhau bod pobl sy'n gadael gofal yn Sir y Fflint yn parhau i dderbyn cymorth drwy鈥檙 system Treth y Cyngor fel rhan o鈥檙 pontio i oedolaeth a byw'n annibynnol.鈥
Disgwylir i'r newidiadau arfaethedig ddod i rym fis Ebrill 2022.
听