Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Maethu trwy COVID 鈥 sut gefnogodd model Mockingbird ofalwyr maeth Sir y Fflint trwy gydol y cyfnodau clo.
Published: 12/10/2021
听
Mae鈥檙 gofalwyr maeth Jenny a Janette sydd 芒 dros 11 mlynedd o brofiad o faethu rhyngddynt, wedi cefnogi gofalwyr maeth eraill megis Sarah trwy鈥檙 cyfnodau clo'r llynedd fel rhan o fodel cefnogi maethu arloesol.
Mae gofalwyr maeth gyda Maethu Cymru Sir y Fflint, Jenny, Sarah a Janette, a 13 o deuluoedd maethu lleol eraill, oll yn elwa o fod yn rhan o fodel cefnogi o鈥檙 enw Mockingbird. Wedi鈥檌 lansio yn Sir y Fflint yn 2019, mae gofalwyr maeth yr awdurdod lleol yn gweld y ffordd newydd o faethu yn mynd o nerth i nerth. Mae Mockingbird a arweinir gan y Rhwydwaith Maethu yn y DU, yn darparu gofal maeth cynaliadwy. Mae鈥檔 fodel wedi鈥檌 seilio ar dystiolaeth ac wedi鈥檌 strwythuro o amgylch y gefnogaeth a pherthnasau mae teulu estynedig yn ei ddarparu.
听鈥淢ae鈥檙 deunaw mis diwethaf wedi bod yn heriol ar gyfer nifer o bobl. I rai gofalwyr maeth, roedd yn gyfnod da gan fod y plant oedd yn ei chael yn anodd yn yr ysgol yn gweld dysgu o adre yn haws. Roedd yn gyfle i ffurfio perthnasau agos. Byddem yn mynd am dro hir gyda鈥檙 cwn ac roeddwn yn addysgu鈥檙 plant wrth i ni gerdded a siarad. Roedd plant eraill yn ei chael yn anodd o ran colli arferion dyddiol. I ni oll, yr ynysu oedd yn anodd.鈥 Jenny, gofalwr maeth.
Yn ffodus, ar gyfer gofalwyr maeth yr awdurdod lleol yn Sir y Fflint, roedd grwp bychan o ofalwyr maeth i siarad 芒 nhw, fel rhan o鈥檙 model Mockingbird.
听鈥淢ockingbird yw un o鈥檙 pethau gorau allwch chi ei wneud wrth faethu. Mae鈥檔 rhoi rhwydwaith o gefnogaeth i chi ar unwaith. Os oes rhywbeth yn digwydd yn eich teulu chi, mae rhywun wrth gefn. Pan anafais fy nghoes, fe wnaeth y grwp fy nghefnogi.鈥 eglurodd Jenny, gofalwr maeth hwb ar gyfer clwstwr Bwcle.
Mae Janette, sydd wedi maethu ers 7 mlynedd wedi lansio ail glwstwr Mockingbird Sir y Fflint yn ardal Treffynnon:
听鈥淔el gofalwr maeth hwb, fy r么l yw gweithredu fel glud sy鈥檔 glynu鈥檙 grwp ynghyd. Gallaf gynnig cymorth. Nid ydym yn rhy bell o鈥檔 gilydd, felly mae aelodau yn dechrau cefnogi ei gilydd hefyd. Os ydych yn mynd ar gwrs hyfforddi, mae鈥檔 hawdd codi plant sy鈥檔 mynychu鈥檙 un ysgol. Gallwn rannu gwybodaeth am yr hyn sy鈥檔 digwydd yn lleol鈥
听鈥淢ae鈥檙 digwyddiadau cymdeithasu wedi bod yn wych. Mae gweld plant yn chwarae gyda鈥檌 gilydd gyda phlant eraill yn yr un sefyllfa, yn normaleiddio bod mewn gofal.鈥
听鈥淢ae mor syml, ond mae鈥檔 gwneud gymaint o wahaniaeth. Yn ein profiad ni o faethu dros y 7 mlynedd ddiwethaf, yr amser mwyaf anodd yw pan ydych angen seibiant ac mae鈥檙 plant yn mynd at berson gwahanol bob tro, ac rydych yn teimlo鈥檔 euog. Mae Mockingbird yn golygu cysondeb gyda phobl maent yn eu hadnabod.鈥
Mae croeso i bawb yn Mockingbird, o blant sy鈥檔 byw gyda gofalwyr maeth yn hirdymor i ofalwyr maeth newydd gyda鈥檜 plant eu hunain. Mae pobl ifanc sy鈥檔 gadael gofal hefyd yn rhan o鈥檙 teulu Mockingbird.
听鈥淧an oedd teulu lleol newydd yn y camau cyntaf o ystyried dod yn deulu maeth, cwrddais 芒 nhw ar-lein ac fe wnaeth fy mab siarad 芒鈥檜 mab nhw am faethu. Maent bellach yn ofalwyr maeth wedi鈥檜 cymeradwyo ac wedi ymuno 芒鈥檔 clwstwr. Maent bellach yn gofalu am blentyn maeth sydd 芒 brawd/chwaer hefyd yn ein grwp ac maent wedi gallu cwrdd.鈥
Cafodd Sarah, gofalwr maeth newydd ei chymeradwyo fel gofalwr maeth yn ystod y pandemig, a dywedodd
听鈥淩wy鈥檔 falch iawn o gael Mockingbird fel gofalwr maeth newydd. Mae pobl profiadol ar gael i siarad 芒 chi. Gallwn siarad am y plant a chael sicrwydd, dealltwriaeth a chanmoliaeth gan bobl sy鈥檔 deall鈥
Mae鈥檙 drws 鈥淢aethu Cymru鈥 wedi cael ei wneud gan fachgen oedd yn gadael gofal yn ymarfer ei sgiliau prentisiaeth saern茂o.
Mae Maethu Cymru Sir y Fflint ar fin lansio 3ydd clwstwr mockingbird ar gyfer gofalwyr maeth awdurdod lleol yn ardal Glannau Dyfrdwy.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Christine Jones, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint:
听鈥淢ae鈥檙 model cefnogi arloesol hwn wedi profi i fod yn llwyddiannus ac yn adnodd gwerthfawr ar gyfer teuluoedd maeth. 听Mae鈥檔 bwysig bod gan deuluoedd rwydweithiau cymorth, ac mae鈥檙 rhaglen Mockingbird o fewn Sir y Fflint yn galluogi鈥檙 gofalwyr ynghlwm i rannu eu profiadau gydag eraill ac i blant a phobl ifanc gymdeithasu. Gwerthfawrogir hyn gan bawb. 听
I gael rhagor o wybodaeth am faethu, ewch i www.maethucymru.siryfflint.gov.uk
I gael rhagor o wybodaeth am raglen Mockingbird y Rhwydwaith Maethu, ewch i