每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwasanaeth Casglu Cynnyrch Hylendid Amsugnol

Published: 06/10/2021

Rydym yn falch o gyhoeddi o 1 Tachwedd 2021 y byddwn yn cyflwyno gwasanaeth casglu gwastraff ty ar wah芒n ar gyfer gwastraff Cynnyrch Hylendid Amsugnol.

Mae Cynnyrch Hylendid Amsugnol yn ddeunyddiau gwastraff heb fod yn glinigol a meddygol fel clytiau tafladwy neu badiau anymataliaeth. Rydym yn cydnabod y bydd rhai aelwydydd angen help i gael gwared ar yr eitemau hyn ac rydym felly wedi cyflwyno gwasanaeth casglu ychwanegol i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 math yma o wastraff.

Gwahoddir aelwydydd sydd angen y gwasanaeth hwn i lenwi e-ffurflen ar-lein sydd i鈥檞 gael ar Wefan y Cyngor neu fel arall ffoniwch y Ganolfan Gyswllt Gwasanaethau Stryd ar 01352 701234.

Unwaith y bydd ceisiadau wedi鈥檜 cymeradwyo, bydd cynwysyddion yn cael eu dosbarthu i aelwydydd cymwys a chasgliadau yn cael eu gwneud yn wythnosol am gyfnod o ddwy flynedd neu tan na fydd eu hangen rhagor (os bydd hynny鈥檔 gynharach). Yn dibynnu ar faint fydd yn manteisio ar y gwasanaeth hwn, mae鈥檔 bosibl na fydd y diwrnod casglu鈥檙 un fath 芒鈥檙 diwrnod arferol ar gyfer casgliadau gwastraff ac ailgylchu.

Meddai Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chludiant Sir y Fflint, y Cynghorydd Glyn Banks:

鈥淚 aelwydydd sy鈥檔 defnyddio Cynnyrch Hylendid Amsugnol, fel y rheiny gyda phlant ifanc mewn clytiau, mae cael digon o le yn y bin du a chael gwared ar y math yma o wastraff yn her. Y newyddion da yw y byddwn yn cyflwyno gwasanaeth casglu wythnosol ar gyfer cynnyrch hylendid amsugnol o 1 Tachwedd 2021.鈥

鈥淩ydym yn cyflwyno鈥檙 gwasanaeth hwn i gyd-fynd 芒鈥檙 dull sy鈥檔 cael ei argymell gan Lywodraeth Cymru ar gyfer casgliadau gwastraff ac ailgylchu ar draws Cymru, ac mae gennym y nod hirdymor o ddarganfod ateb i allu ailgylchu鈥檙 ffrwd wastraff anodd hon.

鈥淏ydd y broses ymgeisio yn agor ar 4 Hydref 2021 a fydd yn rhoi amser i ddosbarthu cynwysyddion i breswylwyr cyn i鈥檙 gwasanaeth casglu ddechrau ar ddydd Llun, 1 Tachwedd 2021.鈥

Mae rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth casglu Cynnyrch Hylendid Amsugnol i鈥檞 gael ar wefan y Cyngor.