Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ymweliad Gweinidogol ag Ysgol Leol
Published: 30/09/2021
Ymwelodd y Gweinidog Addysg ac Iaith Gymraeg, Jeremy Miles AS ag Ysgol Penyffordd yn ddiweddar.
Agorodd yr ysgol gwerth miliynau o bunnoedd ei drysau i ddisgyblion ym mis Medi 2019.听
Ariannwyd y cynllun gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir y Fflint fel rhan o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ac Addysg Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn cynnwys Campws Dysgu Treffynnon, yn ogystal 芒鈥檙 gwaith i foderneiddio a gwella Ysgol Uwchradd Cei Connah.听
Mae鈥檙 ysgol bwrpasol hon yn ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Saesneg i blant 3 鈥 11 oed ar safle Abbotts Lane. Mae鈥檔 cynnwys ystafelloedd dosbarth ar gyfer 315 o ddisgyblion meithrin, cyfnod sylfaen a chyfnodau allweddol 1 a 2 yn ogystal 芒 neuadd a stiwdio.听听
Unodd yr ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Saesneg i blant 3-11 oed ar safle Abbotts Lane. Cafodd yr ysgol bresennol i fabanod ei dymchwel, adeiladwyd maes parcio gwell a mwy ar gyfer staff ac ymwelwyr ac mae ardal ollwng benodol i rieni a gofalwyr wedi鈥檌 chreu.听
Dywedodd y Gweinidog Addysg a鈥檙 Gymraeg:
鈥淩oeddwn i鈥檔 falch iawn o gael ymweld ag Ysgol Penyffordd. Mae gan yr ysgol gyfleusterau gwych, ac rydw i鈥檔 falch ein bod wedi gallu cefnogi datblygiad yr adeilad gwerth 拢7 miliwn o'n Rhaglen Ysgolion a Cholegau yr 21ain ganrif.听
鈥淩ydw i鈥檔 sicr y bydd yr ysgol yn darparu amgylchedd gwych i blant Penyffordd ffynnu am flynyddoedd i ddod.
鈥淒iolch i bawb yn yr ysgol am eu croeso cynnes!鈥
Meddai鈥檙 Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid:
鈥淢ae'n anrhydedd i mi allu dangos yr ysgol gynradd wych hon i'r Gweinidog - carreg filltir arall yn narpariaeth rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn Sir y Fflint.听 Mae鈥檙 buddsoddiad yn darparu cyfleuster modern bendigedig ar gyfer plant, pobl ifanc a鈥檙 gymuned ehangach a bydd yn cynnig profiad dysgu newydd, llawn ysbrydoliaeth i blant ysgolion cynradd.鈥
Dywedodd Jayne Mulvey, y Pennaeth:
鈥淎r 么l i ni fod ar ddau safle ers i ni uno sawl blwyddyn yn 么l, mae鈥檔 wych bod holl blant Ysgol Penyffordd rwan ar un safle yn ein hysgol newydd o鈥檙 radd flaenaf.听
鈥淓r gwaethaf yr heriau mae COVID wedi ei daflu at ysgolion, mae'r plant wedi setlo'n wych i'w hamgylchedd newydd, wrth i ni wneud y mwyaf o'n cyfleusterau newydd i gyd.听
鈥淒iolch i bawb yn Wynne Construction, Cyngor Sir y Fflint a Llywodraeth Cymru am eu help, eu cefnogaeth a'u cyngor o'r camau cynllunio cynnar i'r gwaith cwblhau terfynol. Rydym yn eithriadol o falch a hapus gyda鈥檔 hysgol newydd, a chael cyfle i鈥檞 rhannu gyda phentrefwyr Penyffordd a鈥檜 plant.鈥澨
听
听
听
听
听
听
听
听
听
听