Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwobr i Ysgol y Foel
Published: 27/09/2021
Mae Ysgol y Foel wedi derbyn Gwobr Tirwedd yr AHNE i gydnabod eu prosiect ynni adnewyddadwy arloesol.听
Mae disgyblion wedi rhannu llwyddiannau鈥檙 ysgol a fydd o fudd iddyn nhw a鈥檙 gymuned ac wedi derbyn cydnabyddiaeth drwy Wobr Tirwedd
yr AHNE.听
Yr ysgol fechan yng Nghilcain yw鈥檙 ysgol gyntaf yn Sir y Fflint i gwblhau prosiect datgarboneiddio o鈥檙 maint hwn i sicrhau bod yr ysgol yn gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.听
Nid oedd adeilad yr ysgol a gafodd ei adeiladu yn y 1960au yn cefnogi鈥檙 weledigaeth o gynaliadwyedd a鈥檙 defnydd o ynni adnewyddadwy. Roedd yn defnyddio olew fel ffynhonnell wres ac yn defnyddio trydan o鈥檙 grid cenedlaethol. Sylwodd llywodraethwyr yr ysgol bod modd gostwng y biliau ynni ac 么l-troed carbon yr ysgol. Gan ddefnyddio arbenigwyr lleol a gyda chefnogaeth gan Swyddog Datblygu Cynaliadwy AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, datblygwyd cynlluniau uchelgeisiol a oedd yn torri tir newydd ac yn golygu ailosod y ffynhonnell ynni a system wresogi yn llwyr er mwyn gostwng 么l-troed carbon yr ysgol i net sero.听
Gosodwyd cyfanswm o 84 panel solar ar y to ynghyd 芒 phympiau gwres o鈥檙 awyr, i ddarparu pwer trydanol a gwres drwy gydol y flwyddyn i鈥檙 ysgol gyfan. Maent hefyd wedi gosod wal bwer i storio trydan er mwyn sicrhau na fydd yr ysgol yn rhedeg allan o bwer hyd yn oed ar ddyddiau di-haul ac mae digon o ynni i鈥檞 werthu鈥檔 么l i鈥檙 grid ar adegau hyd yn oed.听 听听
Drwy sicrhau cyllid gan yr AHNE ar gyfer y prosiect, mae鈥檙 ysgol wedi gallu adeiladu dosbarth awyr agored ar eu safle sy鈥檔 caniat谩u i ysgolion eraill ymweld a dysgu mwy am blanhigion a chreaduriaid amrywiol yr ysgol a鈥檌 siwrnai i fod yn ddi-garbon net.听听
Mae鈥檙 ysgol wedi gosod esiampl o ran arloesi yn Sir y Fflint ac yn ysbrydoliaeth ar gyfer datgarboneiddio.
Dywedodd Hannah Blythyn, AS Delyn:
鈥淧leser oedd gallu cyflwyno鈥檙 wobr hon i Ysgol y Foel, eto鈥檔 dangos sut mae ein cornel ni o鈥檙 wlad yn arwain y gad o ran gwarchod yr amgylchedd a helpu i ddiogelu ein planed ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gwych oedd gallu mynd i鈥檙 ysgol i weld brwdfrydedd y disgyblion a鈥檜 clywed yn dangos y gwaith roedden nhw wedi bod yn ei wneud i ddatgarboneiddio鈥檙 ysgol a sut roedden nhw wedi cael cefnogaeth i wireddu鈥檙 holl beth.
Llongyfarchiadau eto i bawb a fu鈥檔 rhan o鈥檙 prosiect a gobeithio y bydd y wobr hon yn ysbrydoli ac yn tanio brwdfrydedd pobl eraill.鈥
Dywedodd, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid, y Cynghorydd Ian Roberts:
鈥淢ae Ysgol y Foel yn bendant yn gosod esiampl i ysgolion yn Sir y Fflint o ran ynni cynaliadwy. Mae鈥檙 prosiect hwn yn wych ac mae cyrraedd statws di-garbon net yn gyflawniad anhygoel i鈥檙 ysgol. Maent yn llawn haeddu鈥檙 wobr hon gan yr AHNE. Rwy鈥檔 siwr y bydd ysgolion eraill yn edrych ymlaen at ymweld 芒鈥檙 dosbarth awyr agored a鈥檙 systemau newydd sydd ganddynt. Llongyfarchiadau Ysgol y Foel.鈥澨
Dywedodd Pennaeth Ysgol y Foel, Emma O鈥橬eill:听
鈥淩wy鈥檔 falch iawn ein bod wedi derbyn y wobr hon ac yn edrych ymlaen at gael rhannu鈥檙 prosiect arloesol gydag ysgolion eraill i鈥檞 hannog hwythau i leihau eu h么l-troed carbon hefyd.鈥
Dywedodd David Shiel o鈥檙 AHNE:听
鈥淢ae Partneriaeth yr AHNE yn falch iawn o roi Gwobr Tirwedd yr AHNE eleni i Ysgol y Foel i gydnabod eu cyflawniad arbennig drwy鈥檙 Prosiect Datgarboneiddio.听
鈥淢ae鈥檙 AHNE yn cyflwyno gwobr bob blwyddyn i gymuned, unigolyn neu fusnes sydd wedi gwneud cyfraniad rhagorol at dirwedd yr AHNE. Mae gwaith staff, llywodraethwyr a phlant Ysgol y Foel wir wedi bod yn ysbrydoliaeth ac mae鈥檔 gosod esiampl i bob un ohonom ni.鈥
听