Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cartref gofal newydd i Sir y Fflint
Published: 04/10/2021
Mae Cyngor Sir y Fflint yn datblygu cynigion i adeiladu cartref gofal o鈥檙 radd flaenaf i bobl hyn yn y Fflint, gan weithio ar y cyd 芒 Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.听
Bydd y cyfleuster newydd a chyffrous hwn yn dod yn lle cartref gofal Croes Atti, sy鈥檔 hoff ac yn uchel ei barch gan lawer o bobl, ar Prince of Wales Avenue yn y Fflint. Bydd y cartref newydd yn cael ei adeiladu ar safle hen Ysbyty Cymunedol y Fflint ar Cornist Road.
Bydd y prosiect bron yn dyblu nifer y lleoedd sydd ar gael, gyda 25 o leoedd newydd.听听
Bydd y cartref newydd yn hwyluso darpariaeth Rhyddhau i Wella ac Asesu yn y sir. Mae hyn yn adeiladu ar agor 32 o leoedd ychwanegol yn llwyddiannus yn Marleyfield House ym Mwcle, lle鈥檙 ydym ni鈥檔 cefnogi unigolion i gael eu rhyddhau鈥檔 gyflym ac yn ddiogel o鈥檙 ysbyty ac ymlaen i鈥檞 cartref.
Bydd cartref newydd Croes Atti鈥檔 cynnig lleoliadau tymor hir a byr a hefyd yn helpu i adsefydlu pobl ar 么l aros am gyfnod yn yr ysbyty, i ailennyn eu hyder a鈥檜 hannibyniaeth yn eu cartrefi eu hunain.
Rydym ni ar gamau cychwynnol datblygu ar hyn o bryd, a bydd y cam dylunio manwl, llawn i ddod cyn hir.听听
Yn enghraifft o waith caled yr awdurdod lleol i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 pwysau sylweddol a鈥檙 sefyllfa fregus sydd i鈥檞 gweld yn y sector gofal ar draws y wlad ar hyn o bryd, mae鈥檙 prosiect yn barod i gychwyn ar y cam i edrych ar ei ymarferoldeb a bydd yn mynd drwy鈥檙 cam dylunio yn ystod 2022 ac mae disgwyl iddo fod wedi鈥檌 gwblhau yn gynnar yn 2024.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Ian Roberts:
鈥淵n rhan o Gynllun y Cyngor i gael cydbwysedd rhwng ei ddarpariaeth gofal, rwy鈥檔 falch iawn o gyhoeddi鈥檙 cynllun pwysig hwn ar gyfer y Fflint, wedi鈥檌 adeiladu ar safle鈥檙 hen ysbyty cymunedol. Mae gwaith i drosglwyddo鈥檙 safle i鈥檙 Cyngor Sir ar y gweill gyda鈥檔 partneriaid yn BIPBC, ac rwy鈥檔 hyderus y gwelwn ni gartref gofal newydd ardderchog yn y Fflint yn y 2-3 blynedd nesaf.鈥
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:
鈥淢ae Cyngor Sir y Fflint yn arwain y gad o ran gwerthfawrogi pobl hyn. Gan adeiladu ar lwyddiant Marleyfield, bydd y datblygiad newydd arbennig yma鈥檔 dod yn lle cartref gofal hoff Croes Atti yn y Fflint.听听
鈥淒yma ailddatgan ymrwymiad y Cyngor i wasanaethau o safon, gan fuddsoddi arian mewn gwasanaethau allweddol. Rwy鈥檔 falch bod Cyngor Sir y Fflint yn parhau i gefnogi ein trigolion mwyaf bregus.鈥
Dywedodd Dr Chris Stockport, Cyfarwyddwr Gweithredol Gofal Sylfaenol a Gwasanaethau Cymunedol BIPBC:听
鈥淏ydd cartref gofal newydd Croes Atti鈥檔 ein helpu ni i gyflawni ein hymrwymiad i gefnogi pobl yn y gymuned, mor agos at adref 芒 phosib鈥. Bydd y cyfleuster newydd hwn yn golygu y gallwn ni gefnogi pobl sy鈥檔 barod i ddychwelyd adref o鈥檙 ysbyty, ac i osgoi gorfod mynd i鈥檙 ysbyty yn y lle cyntaf.
鈥淒iolch i鈥檙 bartneriaeth sy鈥檔 parhau rhyngom ni 芒 Chyngor Sir y Fflint, byddwn yn gallu darparu mwy o gymorth i bobl yn ardal y Fflint, ac mae鈥檙 gwaith hwn yn adeiladu ar ddatblygiad llwyddiannus gwasanaethau mwy dwys sydd eisoes yn cael eu cynnig yn Marleyfield House ym Mwcle.鈥
听

听
听Llun yn dangos sut y gallai cartref gofal newydd Croes Atti edrych
听
听
听
听
听