Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Lansio Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn Sir y Fflint a Wrecsam
Published: 16/09/2021
Cynhaliwyd lansiad swyddogol Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Gogledd-ddwyrain Cymru yn ddiweddar.
Mae鈥檙 Bartneriaeth yn fenter ar y cyd gan Gyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam sydd 芒鈥檙 nod o ddarparu鈥檙 cyfleoedd a chanlyniadau dysgu gorau posib i oedolion yn ein cymunedau.听
Ariennir y Bartneriaeth gan Lywodraeth Cymru ac mae鈥檔 cynnig amrywiaeth o gyrsiau a darpariaeth addysg i oedolion fel bod pob oedolyn yn medru cael mynediad at y cyrsiau a鈥檙 gefnogaeth sydd ar gael.听
Meddai Aelod Arweiniol Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, y Cynghorydd Phil Wynn:
鈥淐efais y fraint o gyfrannu at sefydlu鈥檙 Bartneriaeth hon ac rwy鈥檔 llwyr gefnogol o鈥檌 nod o greu darpariaeth gynhwysfawr ym maes dysgu oedolion yn y gymuned yn y ddwy sir.听 Mae hi wedi creu cryn argraff arnaf y ffordd y mae partneriaid yn cydweithio wrth wrando ar ddysgwyr, darparwyr addysg a chyflogwyr a chreu cwricwlwm ar sail hynny sy鈥檔 apelio at amrywiaeth o bobl, llawer ohonynt yn dychwelyd i fyd addysg am y tro cyntaf ond eraill hefyd sy鈥檔 anelu at wella eu cyfleoedd gyrfa.听 Credaf fod yma rywbeth at ddant pawb ond os oes rhywbeth ar goll fe wnaiff y bartneriaeth bopeth o fewn ei gallu i lenwi unrhyw fylchau a ddaw i鈥檙 amlwg.听 Byddwn yn annog pawb i fwrw golwg ar beth sydd ar gael ac os ydych chi鈥檔 petruso, cofiwch y bydd cymorth a chefnogaeth ar gael wrth ichi gymryd y cam pwysig nesaf yn eich bywyd.鈥
Mae鈥檙 Bartneriaeth yn gweithio 芒 grwp o brif ddarparwyr er mwyn sicrhau bod yr addysg yn bodloni anghenion ein cymunedau, gan gynnwys:
鈥 Hamdden a Llyfrgelloedd Aura
鈥 Partneriaeth Parc Caia
鈥 Coleg Cambria听
鈥 Groundwork Gogledd Cymru
鈥 Ty Calon 鈥 Ymddiriedolaeth Gymunedol Glannau Dyfrdwy
Meddai Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid, y Cynghorydd Ian Roberts:
鈥淏yddwn yn gweithio gyda鈥檔 gilydd i sicrhau鈥檙 cyfleoedd a chanlyniadau dysgu gorau posib i oedolion yng ngogledd-ddwyrain Cymru, boed hynny drwy gyrsiau blasu i bobl sy鈥檔 chwilio am rywbeth newydd i鈥檞 diddori a chwrdd 芒 phobl debyg, neu drwy gynnig cymwysterau penodol i bobl sydd am symud ymlaen yn eu gyrfaoedd. Fel partneriaeth rydym wir wedi鈥檔 gwreiddio yn y gymuned a bob amser yn chwilio am syniadau a sylwadau am beth sydd ei angen yn ein cymunedau. Felly, os oes gennych unrhyw syniadau am y mathau o gyrsiau yr hoffech eu gweld, mae croeso ichi gysylltu 芒 ni.鈥
Os hoffech gael gwybod mwy am y Bartneriaeth a鈥檙 amrywiaeth o gyrsiau sydd ar gael, gan gynnwys amserlenni tymor yr hydref, cysylltwch 芒 ni.
Ff么n: 07584 335409听E-bost: acl@wrexham.gov.uk
Ewch i鈥檔 tudalen Facebook i gael mwy o wybodaeth am y cyrsiau sydd ar gael
听
听