Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Lansio ymgyrch i roi hwb mawr i nifer ac amrywiaeth gofalwyr maeth yn Sir y Fflint
Published: 20/09/2021
Nod ymgyrch Maethu Cymru, rhwydwaith newydd o wasanaethau maethu 22 o awdurdodau lleol ledled y wlad, yw cael effaith sylweddol yn听genedlaethol ar ddyfodol pobl ifanc.听
Wrth i fwy na thraean (39%) o oedolion yng Nghymru ddweud eu bod wedi ystyried bod yn ofalwyr maeth, mae ymgyrch newydd yn lansio heddiw drwy Gymru gyfan, gyda鈥檙 nod o roi hwb mawr i nifer ac amrywiaeth gofalwyr maeth awdurdodau lleol.
Yr awdurdod lleol sy鈥檔 gofalu am bob plentyn ledled y sir sydd angen gofalwr maeth. Mae鈥檙 ymgyrch hysbysebu ddwyieithog newydd, sy鈥檔 cynrychioli Sir y Fflint a鈥檙 21 o dimau maethu di-elw鈥檙 awdurdodau lleol eraill sy鈥檔 rhan o Maethu Cymru, 芒鈥檙 nod o gynyddu nifer y rhieni maeth sydd ar gael i helpu plant i aros yn lleol os mai hynny yw鈥檙 peth iawn iddynt.听听
Gall helpu plant i aros yn eu cymunedau lleol fod o fudd mawr a meddwl y byd i鈥檙 plentyn. Nid yn unig ei fod yn eu cadw mewn cysylltiad 芒鈥檜 ffrindiau, eu hysgol a鈥檜 hunaniaeth ond mae hefyd yn meithrin hyder ac yn lleihau straen.听
Meddai Jenny, gofalwr maeth yn Sir y Fflint:
听鈥淢ae aros yn lleol yn bwysig i blant. Mae eu rhieni, eu brodyr a鈥檜 chwiorydd yn bwysig iawn iddynt. Mae鈥檔 eu helpu i wybod na ydynt yn rhy bell o gartref.
听鈥淔e ddechreuais i faethu ar 么l ymddeol. Ro鈥檔 i wedi gweithio gyda phlant mewn gofal drwy鈥檙 ysgol. Mi feddyliais y gallai gynnig cartref i blentyn yn ei arddegau olygu bod y plentyn hwnnw鈥檔 medru dal ati gyda鈥檌 addysg.
听鈥淒rwy agor y drysau i鈥檆h cartref gallwch gynnig diogelwch i blentyn. Dyna beth rydych chi eisiau i blant yn y pen draw, eu bod nhw鈥檔 teimlo鈥檔 ddiogel. Bod rhywun yn gwrando arnyn nhw, ac yn gadael iddyn nhw fod yn blant. Gallwch roi eu plentyndod yn 么l iddynt.
听鈥淢ae pob plentyn yn wahanol a鈥檜 hamgylchiadau鈥檔 wahanol. Dw i鈥檔 dueddol o ddod i鈥檞 hadnabod yn raddol a pheidio 芒鈥檜 gorlwytho鈥檔 syth wrth iddynt ddod drwy鈥檙 drws.
听鈥淢ae鈥檙 cartref i fod yn lle diogel. Rydyn ni鈥檔 dangos iddyn nhw fod yno ffordd wahanol o fyw. Dydi rhai ohonynt erioed wedi cael stori amser gwely, mynd allan am dro neu fynd i rywle am bryd o fwyd. Mae mynd am ginio mewn tafarn yn brofiad mawr os nad ydych erioed wedi鈥檌 wneud o鈥檙 blaen. Mae鈥檔 rhaid ichi fod yn arbennig o amyneddgar. Dydi llawer o鈥檙 plant heb arfer 芒 chael prydau bwyd rheolaidd.鈥
Amcangyfrifir bod angen recriwtio 550 o ofalwyr a theuluoedd maeth newydd yng Nghymru bob blwyddyn.听
Nid oes unrhyw ddau blentyn yr un fath; na鈥檙 gofal maeth maen nhw ei angen chwaith. Nid oes y fath beth 芒 theulu maeth 鈥榥ormal鈥. Gall fod yn deulu sy鈥檔 berchen ar gartref neu鈥檔 rhentu, a gall gofalwr maeth fod yn briod neu鈥檔 sengl. Beth bynnag yw eich rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, ethnigrwydd neu ffydd, mae pobl ifanc yn eich cymuned sydd angen rhywun i fod ar eu hochr nhw.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Christine Jones, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint:
听鈥淢ae pobl sy鈥檔 maethu yn bobl dwymgalon a gofalgar. Dyna beth sydd ar blant ei eisiau, a dyna鈥檙 peth cyntaf rydym yn chwilio amdano.
听鈥淕obeithiwn groesawu llawer mwy o bobl i鈥檙 byd maethu gyda Maethu Cymru dros y misoedd nesaf. Mae gan bob plentyn hawl i ffynnu. Y cyfan sydd ei angen yw bod mwy o bobl fel chi ac fel Jenny鈥檔 agor eu drysau a rhoi croeso i鈥檙 plant.
听鈥淕all pawb sy鈥檔 maethu 芒 th卯m Maethu Cymru Sir y Fflint fod yn ffyddiog y byddwn wrth law bob cam o鈥檙 ffordd i gynnig arbenigedd, cyngor a hyfforddiant i鈥檞 cefnogi ar eu taith.
听鈥淢ae t卯m maethu鈥檙 awdurdod lleol wedi gweithio 芒 llawer iawn o blant ac yn gyfarwydd 芒鈥檜 hanesion. Mae ganddynt lawer iawn o wybodaeth.鈥澨
Bydd ymgyrch newydd Maethu Cymru鈥檔 ymddangos ar deledu, radio, Spotify a chyfryngau digidol.听
I gael gwybod mwy am faethu gyda Chyngor Sir y Fflint, ewch i .
听