Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Targed 70 鈥 Adolygu Strategaeth Gwastraff Sir y Fflint
Published: 16/09/2021
Gofynnir i Aelodau Cabinet Sir y Fflint gymeradwyo argymhellion ar gyfer dyfodol y gwasanaethau ailgylchu a gwastraff pan fyddant yn cwrdd nesaf ddydd Mawrth, 21 Medi.
Mae鈥檙 argymhellion yn seiliedig ar sylwadau Cynghorwyr yn y seminarau a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf i gael eu barn ynglyn 芒鈥檙 gwasanaethau ailgylchu a gwastraff presennol a sut ellid cynyddu鈥檙 cyfraddau ailgylchu.
Er nad yw'r strategaeth gwastraff bresennol yn dod i ben tan ddiwedd 2025, y targed cenedlaethol nesaf i鈥檞 gyflawni yw 70% erbyn 2024/25. Mae鈥檔 bwysig felly bod y Cyngor yn mynd ati鈥檔 awr i gynllunio ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys asesu effaith y strategaeth ar grynswth y gwastraff ar 么l COVID ac ystyried pa ymdrechion ychwanegol y gellid eu gwneud i hybu鈥檙 cyfraddau ailgylchu er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni鈥檙 targed cenedlaethol.
Meddai Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd Sir y Fflint, y Cynghorydd Glyn Banks:
鈥淩haid inni glodfori llwyddiant y cyngor a phobl y sir gydag ailgylchu, ond gyda鈥檙 drefn newydd ar gyfer gwastraff sy鈥檔 cael ei gategoreiddio fel ailgylchu a鈥檙 ffordd y mae ymddygiad ein trigolion wedi newid yn sgil y pandemig, sydd oll wedi cael effaith ar ein perfformiad ailgylchu, mae arnom angen troi鈥檔 golygon yn awr i bethau eraill y gallwn eu gwneud er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni鈥檙 targed o 70% erbyn 2024/25.鈥
Dywedodd Katie Wilby, Prif Swyddog Strydwedd a Chludiant Cyngor Sir y Fflint:听
鈥淢ae鈥檙 rhan fwyaf o bobl yn gwybod fod peidio ag ailgylchu ein gwastraff yn cael effaith aruthrol ar yr amgylchedd a bod yn rhaid inni fynd i鈥檙 afael 芒 hynny er mwyn lliniaru ar yr effaith ar y blaned yn y dyfodol.听 Rydym hefyd yn colli cyfleoedd ariannol drwy beidio ag ailgylchu ein gwastraff. Mae pob tunnell o wastraff sy鈥檔 cael ei drin neu鈥檌 gladdu鈥檔 costio arian, ond mae gwerthu deunydd ailgylchu鈥檔 creu ychydig o incwm i鈥檙 Cyngor.鈥
Mae鈥檙 argymhellion yn cynnwys:
- Darparu gwybodaeth glir i bobl er mwyn gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o鈥檙 hyn y gellir ei ailgylchu neu beidio.
- Gorfodaeth gwastraff ochr y ffordd, sydd wedi ailddechrau鈥檙 mis yma wedi atal y drefn ym mis Mawrth 2020 oherwydd y pandemig Covid-19.听 Yn ystod y cyfnod hwn casglodd y Cyngor 3,000 o dunnelli ychwanegol o wastraff gweddilliol o gartrefi pobl, sy鈥檔 gynnydd o 12% o gymharu 芒鈥檙 un cyfnod y llynedd, ac felly mae angen ailafael yn y dull tri cham o annog pobl i ailgylchu mwy.
- Cyflwyno Casgliadau Cynnyrch Hylendid Amsugnol ar gyfer aelwydydd sydd efallai angen cymorth i gael gwared 芒 chewynnau neu gynnyrch ar gyfer anymataliaeth, a fydd yn ychwanegol i鈥檙 gwasanaeth presennol i gasglu gwastraff meddygol.听听
- Canolfannau Ailgylchu Gwastraff o鈥檙 Cartref 鈥 yr argymhellion yw:
- System apwyntiadau ar gyfer gwastraff peryglus fel asbestos听
- Ailgyflwyno鈥檙 drefn o rannu cynnwys sachau duon fel bod yr holl ddeunydd ailgylchu a ddaw i鈥檙 safle wedi鈥檌 ddidoli a鈥檌 wahanu鈥檔 iawn.听
- Adolygu鈥檙 System Trwyddedu Faniau er mwyn ei gwneud yn fwy amlwg i ddefnyddwyr y gwasanaeth ynglyn 芒鈥檙 cerbydau a drwyddedir neu beidio yn 么l eu math a鈥檜 maint.
- Dal ati i atgyweirio ac ailddefnyddio eitemau y gellid eu galw鈥檔 wastraff ond y mae modd eu trwsio a鈥檜 rhoi at ddefnydd o鈥檙 newydd mewn canolfannau fel y Ganolfan Atgyweirio ac Ailddefnyddio ym Mwcle sy鈥檔 cael ei datblygu mewn partneriaeth 芒 Groundwork Gogledd Cymru a Refurbs Sir y Fflint.
- Cyflwyno cynllun peilot mewn ardal dan reolaeth er mwyn ymchwilio i鈥檙 posibilrwydd o bennu targedau ailgylchu lleol mewn rhai cymunedau a gweld a ellid dod ag unrhyw fanteision, fel arbedion ariannol, i gefnogi grwpiau amgylcheddol lleol i ddal ati 芒鈥檜 gwaith da neu gefnogi prosiectau cymunedol.
- Ymestyn y system tagiau electronig ar gyfer biniau brown ledled y sir yn dilyn llwyddiant y cynllun peilot.听 Mae hyn yn wahanol i鈥檙 sticer/tag go iawn y mae preswylwyr yn ei gael unwaith y flwyddyn os ydynt yn cofrestru ar gyfer y gwasanaeth casglu gwastraff o鈥檙 ardd, a dyma fydd y drefn newydd ar gyfer pob defnyddiwr sy鈥檔 cofrestru i gael y gwasanaeth yn 2022 yn ogystal 芒 phobl sydd wedi cofrestru ar gyfer casgliadau biniau duon 芒 chymorth.
听