Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Y Cyngor yn anrhydeddu diwrnod y Llynges Fasnachol
Published: 08/09/2021
Ddydd Gwener, 3 Medi, cododd Cyngor Sir y Fflint y Lluman Coch i nodi Diwrnod y Llynges Fasnachol. Mae鈥檙 Cyngor yn falch o ddangos cefnogaeth i鈥檙 morwyr y mae'r Deyrnas Unedig yn dibynnu arnynt.
Ers 2000, mae Diwrnod y Llynges Fasnachol wedi anrhydeddu鈥檙 dynion a鈥檙 merched dewr a fu鈥檔 gwarchod ein hynys yn ystod y ddau Ryfel Byd. Rydym hefyd yn dathlu ein dibyniaeth barhaus ar forwyr masnachol presennol sy鈥檔 gyfrifol am 95% o fewnforion y DU, gan gynnwys llawer o鈥檙 bwyd rydym yn ei fwyta, y rhan fwyaf o鈥檙 tanwydd rydym yn ei losgi, a bron yr holl gynnyrch a鈥檙 nwyddau rydym yn eu cymryd yn ganiataol.
Meddai Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Joe Johnson:
鈥淔el teyrnged i ymrwymiad, dewrder a hunanaberth ein morwyr presennol a morwyr y gorffennol, rydym yn falch o godi鈥檙 Lluman Coch i gefnogi Diwrnod y Llynges Fasnachol. Mae gan y Llynges Fasnachol ran bwysig yn ein hanes fel cenedl ac mae hi鈥檔 dal i gludo cyflenwadau hanfodol yn ddiogel at ein glannau.鈥
听