Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
#HafoHwyl
Published: 06/09/2021
Fel rhan o fenter Llywodraeth Cymru gweithiodd gwasanaethau addysg ac ieuenctid Cyngor Sir y Fflint gyda phartneriaid i drefnu a chynnal amrywiaeth o weithgareddau er mwyn i blant a phobl ifanc y sir fwynhau #HafoHwyl.听
Derbyniodd Sir y Fflint 拢218,000 i gynnal gweithgareddau gwych ar hyd a lled y sir.听
Cynhaliodd Llyfrgelloedd Aura a Datblygu Chwaraeon Aura raglen 鈥楩it, Fed and Read鈥 a oedd yn rhoi cyfle i blant wneud gweithgarwch corfforol ac yn hyrwyddo deiet iach drwy ddarparu byrbrydau iach. Ychwanegodd Aura yr elfen llyfrgelloedd, gan ganolbwyntio ar ddarllen a bod yn greadigol. Roedd Sorted Sir y Fflint a鈥檙 Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid hefyd yn y sesiynau, gan ymgysylltu 芒 thros 800 o bobl ifanc.
Meddai Susannah Hill o Lyfrgelloedd Aura:听
鈥淩ydym ni wedi llwyddo i fynd 芒鈥檔 gwasanaethau at gymunedau ac ymgysylltu gyda phlant a theuluoedd ar hyd a lled y sir, ac yn aml iawn roeddem ni鈥檔 dod ar draws teuluoedd nad ydynt nhw fel arfer yn teimlo鈥檔 gyffyrddus yn defnyddio llyfrgelloedd. Rydym ni鈥檔 gobeithio ein bod ni wedi dymchwel rhai rhwystrau a dangos bod ein gwasanaeth yn estyn croeso cynnes ac yma i bawb.鈥
Roedd y cynnig darllen yn rhoi cyfle i deuluoedd dreulio amser yn darllen llyfrau llyfrgell gyda鈥檌 gilydd ac i wrando ar straeon, rhoi cynnig ar grefftau a lliwio yn ogystal 芒 bod yn gyfle i鈥檙 plant gymryd rhan yn Sialens Ddarllen yr Haf 鈥 鈥楢rwyr y Byd Gwyllt鈥. Dros bum wythnos yr haf, cofrestrodd 600 o blant i gwblhau'r Sialens Ddarllen a rhoddodd Aura dros 800 o fagiau llyfrau a llyfrau am ddim.
Meddai Dan Williams o Ddatblygu Chwaraeon Aura:
鈥淐ynhaliwyd dros 300 o sesiynau a rhwng bob man cymerodd 3300 o blant ran a darparwyd 1605 pecyn cinio. Llwyddwyd i ddarparu llawer o weithgareddau amrywiol i bawb, o ddawnsio stryd i b锚l-droed yn ogystal 芒 gweithgareddau a ddarparwyd gan ein partneriaid i blant o bob oed. Mae鈥檙 rhaglen wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac roedd yn braf bod yn rhan ohoni!鈥
Cynhaliodd Sorted Sir y Fflint sesiynau lle bu i dros 100 o bobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau a thrafod risgiau defnyddio sylweddau fel alcohol, tybaco a diodydd egni. Yn sgil y sesiynau yma mae 32 person ifanc bellach yn derbyn cymorth ychwanegol a dywedodd llawer o rai eraill bod eu lles a鈥檜 hymwybyddiaeth o鈥檙 risgiau sydd ynghlwm wrth gyffuriau ac alcohol wedi gwella.听
Cefnogodd y T卯m Cynhwysiant a Chynnydd a Sorted Sir y Fflint bobl ifanc i roi cynnig ar amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys:听
- Cymorth Cyntaf Anifeiliaid Anwes, Gofal Ceffylau ac Addysg Wledig, a oedd yn darparu sgiliau ymarferol a gwybodaeth yn ogystal 芒 hwyl a chyfle i fagu hyder. Derbyniodd y rheiny a gwblhaodd y cwrs Cymorth Cyntaf Anifeiliaid Anwes gymhwyster听
- Gwneud cacennau, prydau a chrefftau 鈥 canhwyllau, nodau tudalen a jamiau
- Roedd y gweithgareddau eraill yn cynnwys teithiau i Theatr Clwyd a Fferm Rhug, dringo yn y Board Room, gwneud crochenwaith a mynd am dro i鈥檙 traeth
Meddai Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Ian Roberts:
鈥淵n ffodus iawn cefais gyfle i fynd i un o'r digwyddiadau Fit, Fed and Read, ac roedd yn braf gweld y plant yn cael hwyl ac yn sgwrsio gyda鈥檌 gilydd. Mae鈥檙 deunaw mis diwethaf wedi bod yn anodd iawn i bawb, yn enwedig i鈥檔 plant, ac mae鈥檙 arian yma gan Lywodraeth Cymru wedi derbyn croeso cynnes gan Sir y Fflint ac wedi鈥檌 ddefnyddio at achos da iawn.
鈥淒w i wedi rhyfeddu at yr amrywiaeth o weithgareddau y mae ein timau a鈥檔 partneriaid wedi'u cynnal i sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael yr haf gorau posibl. Yn ogystal 芒 chael hwyl yn ystod y gweithgareddau mae rhai hefyd wedi llwyddo i ennill cymwysterau defnyddiol ar gyfer y coleg neu fyd gwaith.听
鈥淢ae鈥檔 braf clywed bod y bobl ifanc wedi gwneud ffrindiau newydd, wedi dysgu sgiliau newydd ac wedi magu hyder.鈥
Cynhaliodd Theatr Clwyd, mewn partneriaeth 芒 Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint, ganolfan haf tair wythnos ar gyfer 68 o blant a phobl ifanc ddiamddiffyn. Roedd y ganolfan yn cynnwys artistiaid o wahanol ddisgyblaethau 鈥 drama, cerdd, dawns, dylunio setiau, celf a ffilm, a weithiodd gyda鈥檙 plant. Cafodd bob grwp gyfle i berfformio neu arddangos eu gwaith yn ystod parti i ddathlu. Yn ystod y deunaw mis diwethaf mae鈥檙 theatr wedi dod yn ail gartref i lawer o bobl ifanc.
Roedd y gweithgareddau eraill yn cynnwys:听
- Cynhaliodd Darpariaeth Ieuenctid Integredig Sir y Fflint sesiynau galw heibio lles i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed ym Mharc Gwepra. Denodd bob sesiwn dros 25 o bobl ifanc, a gymerodd ran mewn gweithgaredd celf a chrefft, chwaraeon a sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar a lles听
- Manteisiodd ein cynlluniau chwarae haf arferol ar y cyllid hefyd, gan gynnal sesiynau ychwanegol ar gyfer plant anabl. At ei gilydd, cofrestrodd dros 2,700 o blant 5-12 oed i fynychu 1055 o sesiynau chwarae ar draws y sir.听
Mae prosiect Haf o Hwyl 拢5 miliwn Llywodraeth Cymru yn darparu amrywiaeth o weithgareddau hamdden, chwaraeon a diwylliannol yn rhad ac am ddim i blant a phobl ifanc 0-25 oed er mwyn cefnogi eu lles cymdeithasol, emosiynol, corfforol a meddyliol. Tri phrif amcan Haf o Hwyl ydi:
鈥 Cefnogi hwyl a rhoi cyfle i blant a phobl ifanc fynegi eu hunain drwy chwarae听
鈥 Darparu mentrau rhyngweithiol, creadigol a chwarae cymunedol i bob oed
鈥 Darparu cyfleoedd i chwarae gyda ffrindiau a chyfoedion听
听